Sut mae gwneud ffrindiau yn ystod yr Wythnos Groeso?
Gwenno: Ewch i gymaint o ddigwyddiadau ag sy’n bosib! Er ei bod hi’n naturiol peidio mynd i bob dim yn ystod wythnos y glas oherwydd ei fod yn gallu bod yn llethol, gwnewch eich gorau. Fe fydd cymaint o ddewis o ddigwyddiadau, a chyfle i gwrdd â phobl o bob cefndir.
Alice: Mynychwch ddigwyddiadau Cwrdd a Chyfarch yr Undeb, ewch i ddigwyddiadau cyntaf clybiau a chymdeithasau. Gall godi ofn i ddechrau, mae’n werth ei gwneud.
Francesco: GWNA GWNA GWNA GWNA bethau, PAID ag aros gartref. Bacha ar y cyfleoedd, rho gynnig ar glybiau, cer allan, cer am dro. Fel rheol, dyw’r pysgotwr ddim am ddal y pysgodyn os ydy fe ar yr M4. Ok, debyg nad yw’r trosiad yn gweithio ond ‘dych chi’n deall beth sydd gen i. Gwnewch bethau
Laura: Ewch i gymaint o weithgareddau â phosib a chwrddwch â chymaint o bobl ag y gallwch.
Beth fyddai eich cyngor gorau i unrhyw fyfyrwyr newydd sy’n dechrau yn Aberystwyth ym mis Medi?
Gwenno: Peidiwch â panico! Yn y mis yn arwain at symud i Aber, roedd yr holl nerfau’n cael y gorau ohona i. Ond, mae cymuned gref ac agos yma sy’n barod i’ch cefnogi o’r eiliad yr ydych chi’n glanio yma.
Alice: Cyfnod o newid mawr yw dechrau yn y Brifysgol, er y gall fod yn llawer o hwyl, gall hefyd beri ofn. Peidiwch ag oedi cyn cysylltu â chynghorydd myfyrwyr yr Undeb, Molly Sutton trwy lenwi’r ffurflen gan ddilyn y ddolen hon: Cysylltu â Chynghorydd
Francesco: 1) Mynycha dy sgwrs, maen nhw’n wirioneddol (waaaaawwww) o help mawr. 2) Ymuna â chlybiau, gweler uchod. 3) Os wyt ti’n anghyfforddus, neu’n hiraethu am gartre. Mae hynny’n iawn, mae’n rhan o adael y nyth ac mae’n iawn i deimlo fel yna.
Laura: Unwaith eto, trïwch siarad gyda chymaint o bobl ag y gallwch, a chofiwch fynd i Ffair y Glas waeth nad ydych chi’n siŵr a ydych chi am ymaelodi ag unrhyw glybiau neu gymdeithasau eto. Er ei bod hi’n bwysig cofio nad yw byth yn rhy hwyr i chi ddod i nabod pobl ar eich cwrs neu ymaelodi â chlwb neu gymdeithas newydd yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Peidiwch â digalonni wrth gymryd fod pawb wedi cael hyd i’w lle, mae’r rhan fwyaf o bobl eisiau gwneud ffrindiau newydd!
Beth yw eich hoff atgof o’r Wythnos Groeso?
Gwenno: Gig Sŵn Wythnos y Glas. Ar gyfer rhan o’r gân olaf yn y gig, daeth prif gantor Gwilym allan i ganol y dorf, ac roeddem ni gyd, o’r flwyddyn gyntaf i’r drydedd yn dawnsio mewn cylch o’i gwmpas. Roeddwn i’n ffan mawr o’r band ar y pryd ac ar ben y byd am y peth!
Alice: Pan es i allan ar fy noson gyntaf yma i barti Torri’r Iâ y Glas a chwrdd â Laura. Pedair blynedd yn ddiweddarach, ac rydyn ni’n ffrindiau o hyd a bellach yn gweithio gyda’n gilydd fel Swyddogion Sabothol!
Francesco: Cwrddais i â rhywun o fflat ffrind ar hap gan fy mod i yn eu cegin, ac erbyn diwedd y noson dyma fi’n gwylio Ice Age 3 gyda grŵp yn Fferm Penglais lol.
Laura: Debyg mai Parti Diweddglo y Glas fyddai - roedd yn ddathliad hwyliog i ddod â’r wythnos i ben a pharatoi’r meddwl at ddechrau darlithoedd a seminarau.