Dewiswyd Yr Adran Gyfrifiadureg fel y partner nesaf ym menter Gymunedau Academaidd Undeb Aber, ar ôl i geisiadau cryf ddod i law oddi wrth pump adran.
Gan barhau â llwyddiant partneriaeth Undeb Aber â’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, a fydd yn parhau eleni, bydd y cydweithrediad newydd hwn yn rhoi sylw arbennig i gryfhau llais y myfyrwyr, perthyn a chymuned yn yr Adran Gyfrifiadureg.
Yn rhan o’r prosiect hwn, bydd Undeb Aber yn cyflogi myfyriwr Cyfrifiadureg i weithio o fewn yr adran, yn cefnogi gweithgarwch llais y myfyrwyr, prosiectau creu ar y cyd, mentrau swyddi, ac ennyn diddordeb. Bydd yr adran hefyd yn rhoi cynnig ar Unitu, llwyfan gyflwyno adborth myfyrwyr â’r bwriad o helpu adrannau ymateb i bryderon myfyrwyr ac i gau’r ddolen adborth yn fwy effeithiol.
Meddai Laura Young, Llywydd Academaidd Undeb Aberystwyth:
“Mae’n hollbwysig bod myfyrwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi’n ddigonol ac yn rhan o gymuned academaidd lewyrchus er mwyn cael y budd mwyaf o’u hamser yn y Brifysgol. Felly, mae’n bleser gennym gael gweithio gyda’r Adran Gyfrifiadureg i gryfhau cymuned ei staff a’i myfyrwyr, ennyn mwy o gyfranogiad ymysg myfyrwyr a gwella llais y myfyrwyr”.
Meddai yr Athro Thomas Jansen, Pennaeth yr Adran Gyfrifiadureg:
“Mae’r prosiect Cymunedau Academaidd yn gyfle cyffrous i feithrin mwy o ymdeimlad o berthyn ymysg myfyrwyr a ehangu’r ffyrdd rydyn ni’n clywed llais y myfyrwyr. Bydd yr aelod staff Undeb Aber o’r myfyrwyr yn hollbwysig ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio â nhw ac at ddefnyddio Unitu at wella ein cymuned ddysgu”.
Mae’r bartneriaeth hon yn cynrychioli cyfle cyffrous i adeiladu ar y canlyniadau buddiol a welwyd eisoes yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ac i ddatblygu ymhellach sut mae myfyrwyr yn llywio eu profiad academaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth.