Crynodeb o’r Prynhawn Plannu Coed

Yn ddiweddar, plannwyd 400 o goed llydanddail brodorol ger gae chwarae Fferm Penglais gan staff a myfyrwyr.

Diwrnod o WeithreduGwirfoddoliwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Yn ddiweddar, plannwyd 400 o goed llydanddail brodorol ger gae chwarae Fferm Penglais gan staff a myfyrwyr. Roedd y profiad ymarferol yn cynnwys ailddefnyddio hen bolion a llawes coed, hyfforddi gwirfoddolwyr mewn technegau plannu coed effeithiol, a phwysleisio pwysigrwydd ffensys coed yn erbyn cwningod lleol.

Nod y fenter yw grymuso’r rhai a gymerodd ran gyda gwybodaeth ymarferol, magu teimlad o gyfrifoldeb cyffredin. Wrth blannu’r coed ifainc, cafodd myfyrwyr ddeall yr effaith hir dymor ar y ecosystem lleol a’r blaned.

Y tu hwnt i wirfoddoli, fe wnaeth y digwyddiad gryfhau cysylltiadau cymunedol rhwng myfyrwyr, staff, a sefydliadau partner, gan fagu rhwydwaith sy’n angerddol am ofalu am yr amgylchedd. Tynnodd yr agwedd addysgiadol sylw at rôl goed mewn lleihau newid hinsawdd, atal erydu pridd, a chefnogi bioamrywiaeth.

Roedd y gwirfoddolwyr yn teimlo’n fodlon yn sgil llwyddiant y digwyddiad, gan osod sail ar gyfer diwrnodau o weithredu eraill. Diolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth; eich cyfranogiad chi a’i wnaeth yn bosib. Os hoffech chi fod yn rhan, cofrestrwch fel gwirfoddolwr/wraig yma i gael gwybod am y cyfleoedd gwirfoddoli eraill yn y dyfodol.

Dyma ddiolch yn arbennig i Dîm Cynaladwyedd a Thîm Llety Prifysgol Aberystwyth, a’n partneriaid Balfour Beatty a Pobl am eu cefnogaeth.

Diolch yn fawr!
 

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576