Cameron Anderson: Gwobr Gwirfoddolwr Ifanc Cymru Daclus y Flwyddyn

welsh

Mae’n bleser gan Undeb Aberystwyth gyhoeddi fod Cameron Anderson (a raddiodd mewn Amaethyddiaeth gyda Rheoli Busnes) wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Gwirfoddolwr Ifanc Cymru Daclus y Flwyddyn mawr ei bri! 

Yn dadlau’n ddiflino dros weithredu dros yr amgylchedd, Cam sydd wedi bod ar flaen y gad ar sawl cymdeithas myfyrwyr a mentrau gwyrdd yn ystod ei amser yn Aberystwyth. Yn ogystal ag adfywio mannau gwyrdd ar y campws, fe a arweiniodd gymryd yr awenau dros Ardd Gymunedol yr Undeb, gan ei throi yn ganolfan dyfu bwyd ffyniannus a’i thywys i ddod yn brosiect swyddogol gydag Undeb Aber. Gyda phwyllgor Gwirfoddolwyr Cadwraeth Aberystwyth, mae wedi troi hen ddeunydd yn welyau uchel a chartrefi i chwilod yng Ngardd Hanes Byw wrth helpu sicrhau tŷ gwydr newydd ochr yn ochr â Chlwb Phyte Aber. Fel Llywydd ar y Gymdeithas Gadwraeth Forol, aeth ati ar y cyd â’r pwyllgor i dynnu myfyrwyr i mewn i weithgarwch trwy lanhau’r traeth, cadw cofnod o ddolffiniaid, a chodi dros £200 at Ganolfan Fywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion.

“Cameron, heb os, yw calon y gymdeithas… gan gynnal ysbryd pawb yn ystod sesiynau wythnosol tra’n dathlu aelodau a gwirfoddolwyr hen a newydd fel ei gilydd.” Aelod CGA

Ers 2024, mae Cam wedi rhoi oriau o wirfoddoli bob wythnos i Ysgol Plascrug, a leolir yn ardal fwyaf difreintiedig Ceredigion o ran Amgylchedd Ffisegol, gan roi i gannoedd o blant brofiad uniongyrchol â natur. Waeth beth fo’r tywydd, arweiniodd disgyblion i godi ardal gompostio, plannu llwybrau tref, a gosod cannoedd o fylbiau a dros gant o goed brodorol. Cyfraniad uniongyrchol ei waith yw galluogi disgyblion Blwyddyn 6 i ennill Gwobrau Garddio Ysgol RHS 1 a 2, sicrhau statws Platinwm Ysgol Eco Plascrug, mae wedi cefnogi dros £20,000 mewn grantiau PTA, ac ymddangosodd ar Prynhawn Da ar S4C hyd yn oed.

“Mae Cam wedi bod yn fath o aelod staff ymroddgar, ond ei heb gyflogi… Mae’n gadael ôl arbennig ar ddysgu awyr agored, a chysylltiadau newydd â’r Brifysgol.” Adam Lewis Cydlynydd Cyngor Eco, Ysgol Plascrug

Boed trwy rannu bwyd dros ben gyda Bwyd Dros Ben Aber neu gyflwyno dulliau plannu traddodiadol y Tair Chwaer, cysylltu â myfyrwyr, staff a’r cyhoedd ehangach yw nerth Cam.

“Mae cyfranogiad Cameron i Aberystwyth yn rhagorol. Un dibynadwy, cynnes, a diflino wrth annog eraill yw Cameron; myfyriwr sy’n dod â phobl ynghyd ac yn rhoi hwb i bob prosiect y mae ynghlwm â nhw.” Lucie Gwilt, Pennaeth Cyfleoedd i Fyfyrwyr, Undeb Aberystwyth.

"Mae Cam wedi chwarae rhan hollbwysig yn yr ardd gymunedol, yn llawn brwdfrydedd, ymroddiad, a hiwmor da, yn ysbrydoli myfyrwyr eraill sy'n gwirfoddoli i gymryd rhan a thrawsnewid y safle gan bwyll bach. Maent wedi gosod stepiau, rhoi trefn ar y system compostio, plannu gardd flodau gwyllt, a rhoi cynnig ar wahanol gnydau. Maent hefyd wedi tyfu llawer o fwyd ar safle arall [Gardd Hanes Byw]." Jane Powell, Cydlynydd ar y cyd gyda Gardd Gymunedol Penglais.

Wrth gael gwybod am ei enwebiad a’i fod wedi cyrraedd y rhestr fer, meddai Cameron: “Mae’n fraint gen i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Gwirfoddolwr Ifanc Cymru Daclus y Flwyddyn 2026. Cefnogi cymunedau Ceredigion trwy fod yn rhan o addysg fwyd cynaliadwy, mannau dysgu awyr agored, prosiectau ysgol sydd wedi ennill gwobrau ac ennyn cyfranogiad y gymuned, yw rhywbeth rwy’n teimlo’n angerddol amdano. Rwy’n hynod ddiolchgar o gael y cyfle i helpu gwella ac amddiffyn yr amgylchedd lleol a gwneud gwahaniaeth.” Cameron Anderson

Mae pawb yn Undeb Aberystwyth yn hynod o falch o Cameron. Dyma ddymuno’r gorau iddo yn seremoni Wobrau Cymru Daclus ym mis Hydref!

Llongyfarchiadau, Cameron, a phob lwc!


Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576