DEWCH I GWRDD Â THÎM YR UM
Dros yr Haf, mae'n bryd i ni fel Undeb Myfyrwyr edrych yn ôl ar y flwyddyn sydd newydd fod, paratoi i groesawu myfyrwyr newydd a chyfredol i Aber ym mis Medi a rhoi cynlluniau ar waith ar gyfer rhaglen lawn o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer 2020-2021.
Mae misoedd yr haf hefyd yn amser i groesawu a hyfforddi timau swyddogion newydd yn barod ar gyfer y flwyddyn i ddod. Yn cynorthwyo'r tîm swyddogion mae teulu o staff UM sy'n gweithio y tu ôl i'r llenni i sicrhau bod myfyrwyr Aberystwyth yn cael cyfle i garu bywyd myfyrwyr a bod yn barod am unrhyw beth.
Rydym yn bwriadu manteisio ar y cyfle dros yr ychydig fisoedd nesaf i gyflwyno teulu UMAber - sydd i gyd yma i chi os ydych chi angen cymorth, cyngor neu sgwrs.
Sbotolau ar Catrin Hopkins, Rheolwr Cyllid
Ble mae dy gartref?
Llambed yn wreiddiol, ond Aber yw fy nghartref nawr
Dyweda ychydig wrthym amdanat ti dy hun:
Rwy'n fam, ac yn rhedwr
Dyma dy bryd bwyd olaf ar y ddaear... beth sydd ar y fwydlen?
Stêc a sglodion
Y tu allan i'r gwaith, beth wyt ti’n ei wneud yn dy amser hamdden neu hobïau?
Rhedeg, cerdded a gwirfoddoli gyda rhedwyr-y-parc iau Aberystwyth
Beth wyt ti’n ei garu am weithio yn Aberystwyth?
Y bobl a gallu gweld y môr o'r campws
Pe bai ti ddim yn dy rôl gyda’r UM... beth fyddet ti’n ei wneud?
Gweithio i'r heddlu
Pa ran / rhannau o dy swydd wyt ti’n eu mwynhau fwyaf?
Y staff rydw i'n gweithio gyda nhw a'r myfyrwyr rydyn ni'n eu cyfarfod
Mae UMAber… yn lle y gallwch ddod i gael cymorth, ymuno â chlwb neu gymdeithas, gwirfoddoli mewn gwahanol weithgareddau a chymryd rhan mewn pob math o ddigwyddiadau
Nid yw UMAber… yn far a siop
Nid yw'r haf yn 'amser tawel' i Undebau Myfyrwyr... beth wyt ti’n mynd i fod yn brysur yn gweithio arno dros yr Haf?
Byddwn yn brysur yn cwblhau ein datganiadau Ariannol yn ogystal â sefydlu'r modiwl Cyllid newydd yn rhan o'n gwefan i'r Clybiau a'r Cymdeithasau ei ddefnyddio