Caledi ariannol a chymorth i fyfyrwyr gyda chostau phrofion PCR Covid-19
Mi fydd myfyrwyr sydd yn wynebu anhawster ariannol wedi iddynt ysgwyddo costau ychwanegol oherwydd yr angen i gael prawf PCR Covid-19 i deithio adref ar gyfer y Nadolig hwn o bosibl yn gallu eu hawlio yn ôl oddi wrth y Brifysgol.
Mi fydd angen i fyfyrwyr ddarparu derbynebau am brofion a gymerwyd wrth deithio adref a dychwelyd i'r Brifysgol ar ôl gwyliau'r Nadolig. Darperir gwybodaeth am sut i wneud cais am ad-daliad, a phwy sy’n gymwys, yn y flwyddyn newydd.
Yn y cyfamser, gall myfyrwyr sy'n profi anawsterau ariannol ofyn am gymorth a chyngor mwy cyffredinol gan y Gwasanaeth Cyngor, Gwybodaeth ac Arian (AIMS)trwy anfon e-bost at student-adviser@aber.ac.uk.
Noder y bydd AIMS yn cynnig cefnogaeth ar-lein tan ddydd Gwener 18 Rhagfyr. Bydd y gwasanaeth hefyd ar gael o bell ddydd Mawrth 22 Rhagfyr i brosesu unrhyw faterion caledi / cyllid munud olaf.