Ble maen nhw nawr – Alun Minifey

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Yn gyntaf yr wythnos hon, dyma Alun Minifey a gafodd ei ethol yn Swyddog Gweithgareddau yn 2010-11 ac eto yn 2011-12. Ar hyn o bryd, Alun yw Pennaeth Cyfleoedd i Fyfyrwyr Undeb Myfyrwyr Prifysgol Dwyrain Anglia

Pam dewisoch chi'r rôl honno?

Am ei bod yn ymwneud yn uniongyrchol â chwaraeon, cymdeithasau a digwyddiadau ar y campws. Roeddwn i am eu datblygu i fod yn fwy ac yn well.

Beth yw eich hoff atgof o sefyll yr etholiadau ac o’ch cyfnod chi fel Swyddog Llawn Amser?

Uchafbwynt amlwg oedd ennill fy etholiad cyntaf am nad oeddwn i'n meddwl y byddwn i'n ennill! Ond fy uchafbwyntiau fel swyddog oedd ennill Farsiti ar ôl i ni weithio mor galed i'w datblygu yn fy mlwyddyn gyntaf yn ogystal â datblygu cysyniad Tîm Aber! Mae pob swyddog gweithgareddau'n dwli ar drefnu Superteams!

Beth ydych chi wedi’i ddysgu gan sefyll etholiad a bod yn Swyddog Llawn Amser?

Gorau po galetaf rydych chi'n gweithio. Os gweithiwch chi'n galed, cewch chi'r amser gorau! Os na fyddwch chi'n gwneud hynny, gallwch chi weithio'ch blwyddyn, edrych yn ôl arni a'i difaru. Cefais fy nghyflwyno i reolaeth mudiad ar y lefel uchaf ac mae hynny wedi rhoi'r profiad i mi i fynd ati ac arwain mudiad nawr ar lefel strategol.

Pa gyngor sydd gennych chi i unrhyw un sy’n ystyried sefyll yr etholiadau?

Byddwch yn barod i flino a choginiwch fwyd ymlaen llaw i'w fwyta gyda'r nos! Enynnwch ddiddordeb eich ffrindiau yn yr etholiadau i'ch helpu!

Pe gallech chi droi’r cloc yn ôl, fuasech chi’n gwneud y cyfan eto? Neu beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol?

Buaswn, roedden nhw'n ddwy flynedd wych yn gweithio gyda phobl wych! Ond fuaswn i ddim yn bwyta ffrwd gyson o roliau selsig o'r underground!

Pe gallech chi grynhoi eich profiadau mewn pum gair, beth fyddai'r rheiny?

Hwyl, blinedig, ysbrydoledig, prysur, newid

 

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576