Beth i BEIDIO pacio i’r brifysgol

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Beth i BEIDIO pacio i’r brifysgol 

Pan fyddi di’n symud i’r brifysgol am y tro cyntaf, mae’n naturiol i deimlo bod angen i ti ddod â PHOPETH rwyt ti’n berchen. Ond y gwir yw, does dim angen popeth arnat ti a does dim lle gyda ti ar gyfer yr holl bethau chwaith.

Felly, dyma 5 peth y byddi di’n bendant ddim ei angen ar gyfer y brifysgol er mwyn i ti gadw dy fagiau ychydig yn ysgafnach, ac i atal ti neu dy rhieni rhag gwastraffu arian ac amser di-angen yn symud yr holl bethau i mewn.

  1. Papurach a deunydd academaidd

Mae’r brifysgol yn wahanol iawn i’r hyn yr wyt ti yn gyfarwydd ag ef yn yr ysgol. Mae popeth mwy neu lai ar-lein, ac felly does dim angen i ti ddod â ffeiliau, llyfrau nodiadau a beiros di-ddiwedd. Bydd cas pensil bach, un llyfr nodiadau a chliniadur yn fwy na digon pan fyddi di’n symud mewn. Ar ôl ychydig o ddarlithoedd, os wyt ti eisiau mwy o eitemau, bydd hi’n ddigon hawdd myned i’r siop i brynu yn union yr hyn sydd angen. 

Yn yr un modd, does dim angen dod â phapurach a ffolderi o dy waith ysgol gyda ti. O ystyried dy fod yn astudio’r un pwnc, efallai dy fod yn tybio y bydd yr holl bapurach yn ddefnyddiol, ond nid yw hynny o reidrwydd yn wir. Cadwa nhw adref, ac os am ryw rheswm bod angen dy waith ysgol arnat, gofynna i dy rhieni anfon llun, ei bostio neu defnyddia fe fel esgus i fynd adref am y penwythnos!

Rhywbeth arall yw rhestrau darllen. Does dim angen i ti ddod â neu brynu’r holl lyfrau o flaen llaw. Gelli di ddod o hyd i’r holl ddeunydd ar-lein, neu galli di eu benthyg o lyfrgell Hugh Owen. Ac os nad yw’r hyn sydd angen arnat yn y llyfrgell honno, mae Aberystwyth yn unigryw gan ei fod ar garreg drws Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a fydd yn bendant ag unrhywbeth sydd angen arnat ar gais.

Gan ein bod yn crybwyll deunydd academaidd – paid â phoeni am argraffwr chwaith. Bydd mynediad gyda ti at argraffwyr yn y llyfrgell hefyd, a gelli di ychwanegu arian i dy gerdyn Aber ar-lein unrhywbryd.

  1. Dy wardrob gyfan

Ti’n gwybod y dilledyn na dwyt ti ddim wedi ei gwisgo ers dwy flynedd, ond rwyt ti’n ystyried dod â hi gyda ti ‘rhag ofn’? Gad e. Dim ond wardrob fach fydd gen ti yn y brifysgol ac felly mae lle yn gyfyngedig. Dydy’r brifysgol ddim yn sioe ffasiwn – pan fyddi di wedi blino neu’n dioddef o noson wyllt y noson cynt ac yn ceisio cael dy hun i ddarlith 9yb – byddi di’n meddwl mwy am fod yn gyfforddus nag unrhywbeth arall.

Tip arall yw peidio pacio dy ddillad haf. Bydd digon o gyfle gyda ti ar hyd y flwyddyn i fynd adref a’u hol pan fyddi di wirioneddol eu hangen – ond ar gyfer mis Medi – pacia dy ddillad gaeaf, achos mae’r gwynt yn gryf yma’n y gaeaf!

  1. Gormod o eitemau cegin

Os oes gen ti gasgliad o fygiau, neu os oedd dy fam-gu, dy fodryb a dy frawd wedi cael myg i ti fel anrheg prifysgol – paid â thrafferthu dod â nhw i gyd. Bydd 2 yn hen ddigon, neu fydda nhw ond yn casglu dwst.

Os wyt ti’n meddwl bod angen pob teclyn cegin y gelli di ei ddychmygu arnat – does dim. Gad yr eitemau moethus adref oherwydd mewn cegin wedi’i rhannu, bydd pethau’n mynd yn frwnt, neu mae’n bosib wnei di ddioddef o ladrad cegin! Bydd yn fwy creadigol – mae fforc yn gwneud yn union yr un peth â photsiwr tato, ond gydag ychydig fwy o gariad!

  1. Haearn smwddio a bwrdd smwddio

Bydd gan dy lety y ddau eitem yma tabeth, felly does dim angen mentro dod â rhai dy hun. Ond, fyddi di’n sylwi’n gyflym iawn na fyddi di’n becso am dy drowsus crychlyd. Byddi di’n dod o hyd i ffyrdd fwy creadigol o’u smwddio, wrth ddefnyddio dy sythwr gwallt neu drwy hongian nhw yn yr ystafell ymolchi tra dy fod yn cael cawod fel bod y stêm yn gwneud y gwaith drosta ti!

  1. Canhwyllau a Stop Drws

Efallai bod y ddau yma’n swnio fel pâr od, o ystyried bod un yn addurn a’r llall yn flocyn i gadw dy ddrws ar agor. Ond y gwirionedd yw, mae’r ddau yn berygl tân! Mae canhwyllau wedi eu gwahardd gan eu bod yn berygl tân, ac felly mae’n syniad gwell prynu goleuadau batri i’w hongian er mwyn cael effaith debyg. Mae’r stop drws hefyd yn berygl tân am fod llawer o ddrysau mewn llety prifysgol yn ddrysau tân ac felly bydd cadw dy ddrws ar agor am gyfnod hir yn seinio larwm pryfoclyd. Mae’n haws i ti fynd i’r gegin, neu lawr i’r lolfa neu allan i ddigwyddiadau i gwrdd â phobl yn lle.

Wrth bacio i’r brifysgol, y syniad gorau yw cael meddylfryd ‘less is more’. Gelli di wastad brynu pethau newydd ar ôl cyrraedd os oes unrhywbeth angenrheidiol ar goll, neu gelli di ddod i’r sêl ail-law ar benwythnos cyntaf wythnos y glas a bachu bargen!

Comments

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576