Awgrymiadau gorau ar gyfer ymdopi â straen arholiadau

Awgrymiadau gorau ar gyfer ymdopi â straen arholiadau gan eich Tîm Swyddogion!

officerblogwelsh

Beth yw eich prif awgrymiadau ar gyfer ymdopi â straen arholiadau?

Ffion

Cofiwch gymryd amser i chi’ch hunan. Boed yn cymdeithasu gyda ffrindiau, mynd am dro ar hyd lan y môr, neu gymryd hoe, mae clirio eich pen yn bwysig iawn yn ystod cyfnod yr arholiadau. 

Tanaka

Cymerwch hoeau a cheisiwch ddarganfod pa fath o ddysgwr ydych chi ee gweledol ac ati. 

Ewch i lan y môr a gwnewch bethau sy’n pethau i chi ddod atoch chi’ch hunan. 

Nanw

Cofio gadael digon o amser ar gyfer gweithgareddau eraill – does dim angen gwario pob munud o’r dydd yn adolygu.

Espe

Ewch am dro a cheisiwch dreulio amser gyda’ch ffrindiau. Rydyn ni i gyd yn profi straen yn ystod arholiadau ac mae bob tro yn dda cael sgwrsio gyda rhywun. Beth am estyn gwahoddiad i’ch ffrindiau astudio ac adolygu gyda’ch gilydd, waeth a ydych chi’n astudio’r un radd.  

Millie

Cymerwch yr amser i astudio’n iawn a pheidiwch â’i gadael hi tan y noson cyn arholiad. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd hoe i wneud yr hyn rydych chi’n ei fwynhau. Cadwch snacsys gerllaw!

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576