
Laura - Swyddog Myfyrywyr Ôl-raddedig
"Mae Laura yn cefnogi cynrychioli myfyrwyr ôl-raddedig yn yr Undeb."
E-bost: sharedmb46@aber.ac.uk
Cyfrifoldebau holl Swyddogion Gwirfoddol
- Mynychu pob cyfarfod Undeb Aber a’r Brifysgol gan gynnwys cyfarfodydd y Senedd a Fforymau.
- Gweithredu mewn modd proffesiynol a phriodol bob amser.
- Sicrhau bod yr holl benderfyniadau a chamau gweithredu yn cael eu cymryd yn unol â chyfansoddiad Undeb Aber a pholisi cyfredol Undeb Aber.
- Bod yn barod i adrodd ar gynnydd y gwaith o dan eu cylch gorchwyl.
- Cyfarfod a chysylltu'n rheolaidd â Swyddogion Ymddiriedolwyr ac aelodau staff perthnasol.
- Mynychu y digwyddiadau Cwrdd a Chyfarch perthnasol trwy gydol y flwyddyn.
- Mynychu’r holl hyfforddiant perthnasol i’w rôl.
Cyfrifoldebau’r Swyddog Myfyrwyr Ôl-raddedig
|
• Cynrychioli myfyrwyr ôl-raddedig ar faterion sy'n berthnasol iddynt.
• Cydlynu ac arwain ymgyrchoedd ar faterion yn ymwneud ag anghenion myfyrwyr Ôl-raddedig.
• Gweithredu fel ffynhonnell gwybodaeth a phwynt cyswllt ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig.
• Cynghori Undeb Aber ar ffyrdd y gall wella ei waith yn unol ag anghenion myfyrwyr Ôl-raddedig.
|
• Gweithio gyda myfyrwyr, swyddogion amser llawn a swyddogion ledled Cymru a'r DU i sicrhau bod anghenion myfyrwyr Ôl-raddedig yn cael eu cynrychioli a hyrwyddo nodau'r Ymgyrch Myfyrwyr Ôl-raddedig.
Blaenoriaethau Presennol:
Mae rhestr isod o flaenoriaethau y mae Laura yn gweithio arnynt eleni yn ogystal â’r cynnydd mae e wedi’i wneud hyd yma…
Dwi’n gweithio tuag at fy ngradd Meistr mewn Astudiaethau Llenyddol, a hon yw fy mhedwaredd flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth. Fel y Swyddog Ôl-Raddedig, gwneud cymorth iechyd meddwl yn fwy hygyrch, cefnogi pobl gyda’r argyfwng costau byw, a helpu pobl i gadw yn ddiogel yw fy mlaenoriaethau. Ar hyn o bryd, dwi’n gweithio gyda Swyddogion eraill yr Undeb i greu ystafell sgwrsio ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig i helpu atal myfyrwyr fydd yn aros dros yr haf rhag teimlo’n unig pan fydd y Brifysgol wedi cau. Os hoffech chi fod yn rhan o’r ystafell sgwrsio, cysylltwch â fi drwy lay6@aber.ac.uk. Mae croeso i chi anfon e-bost ynglŷn ag unrhyw faterion, syniadau, pryderon neu ymholiadau ataf drwy lay6@aber.ac.uk
Os hoffech chi gymryd rhan neu ddysgu mwy, e-bostiwch ...