Swyddog Myfyrwyr Anabl

Billy Smith and Harley Harrison - Swyddog Myfyrwyr anabl

"Mae Billy and Harley yn cefnogi myfyrwyr o’r grwp rhyddhau anabl yn yr Undeb."

E-bost: hah85@aber.ac.uk

 

Cyfrifoldebau holl Swyddogion Gwirfoddol

  • Mynychu pob cyfarfod Undeb Aber a’r Brifysgol gan gynnwys cyfarfodydd y Senedd a Fforymau.
  • Gweithredu mewn modd proffesiynol a phriodol bob amser.
  • Sicrhau bod yr holl benderfyniadau a chamau gweithredu yn cael eu cymryd yn unol â chyfansoddiad UMAber a pholisi cyfredol Undeb Aber.
  • Bod yn barod i adrodd ar gynnydd y gwaith o dan eu cylch gorchwyl.
  • Cyfarfod a chysylltu'n rheolaidd â Swyddogion Ymddiriedolwyr ac aelodau staff perthnasol.
  • Mynychu y digwyddiadau Cwrdd a Chyfarch perthnasol trwy gydol y flwyddyn.
  • Mynychu’r holl hyfforddiant perthnasol i’w rôl.

 

Cyfrifoldebau’r Swyddog Myfyrwyr Anabl

• Cynrychioli myfyrwyr sy'n nodi eu bod yn anabl ar faterion sy'n berthnasol iddynt.

• Cydlynu ac arwain ymgyrchoedd ar faterion sy'n ymwneud ag anghenion myfyrwyr anabl

• Gweithredu fel ffynhonnell gwybodaeth a phwynt cyswllt i fyfyrwyr anabl.

• Cynghori Undeb Aber ar ffyrdd y gall wella ei waith yn unol ag anghenion myfyrwyr anabl.

 
• Gweithio gyda myfyrwyr, swyddogion amser llawn a swyddogion ledled Cymru a'r DU i sicrhau bod anghenion myfyrwyr anabl yn cael eu cynrychioli a hyrwyddo nodau'r Ymgyrch Myfyrwyr Anabl.

 


Blaenoriaethau Presennol:

Mae rhestr isod o flaenoriaethau y mae Billy and Harley yn gweithio arnynt eleni yn ogystal â’r cynnydd mae e wedi’i wneud hyd yma…

Bod yn aelod effeithiol o’r Senedd.
   

 

1. Cronfa Cymorth Anableddau
Blaenoriaeth: Sefydlu cronfa cymorth ariannol tuag at gostau yn ymwneud ag anableddau.

Diffinio meini prawf clir a phroses ymgeisio tryloyw i fyfyrwyr (ee cymhorthion symudedd, technoleg gynorthwyol, neu gymorth synhwyraidd hy clustffonau atal sŵn).

Darganfod a sicrhau cyfleoedd ariannu posib trwy sianeli mewnol yr Undeb a grantiau allanol.
2. Rhwydweithio, Cydweithio, ac Ennyn Cyfranogiad y Gymuned

Blaenoriaeth: Meithrin rhwydwaith Swyddogion Myfyrwyr Anabl cryf yn Aberystwyth ac ar draws prifysgolion eraill, a thynnu mwy o fyfyrwyr anabl a niwroamrywiol i gymryd rhan yn lleol.

Gweithio gyda’r Swyddog Materion Academaidd i gysylltu ag undebau myfyrwyr eraill a chasglu manylion cyswllt eu Swyddogion Anabl.

Creu sianel rhwydweithio i hwyluso cydweithio, rhannu adnoddau, a chefnogi cyfoedion.
Cysylltu â Swyddogion Anabl a Niwroamrywiol ar draws Cymru i rannu yr arferion gorau a mentrau ar y cyd.
Trefnu Cynhadledd Anableddau Cymru i roi hwb i gydweithredu a chodi lleisiau myfyrwyr.
Cefnogi a datblygu cymdeithas â ffocws ar anableddau i ddarparu cymuned a chynrychiolaeth.
Cynnal sesiynau galw heibio bob mis i annog cynwysoldeb a chyfathrebu agored.

Ymgysylltu’n rheolaidd â myfyrwyr anabl a niwroamrywiol i hel adborth, codi ymwybyddiaeth, a rhannu’r diweddaraf ar brosiectau hygyrchedd sydd ar waith.

3. Hygyrchedd ar y Campws
Blaenoriaeth: Gwella ymwybyddiaeth, monitro, ac eirioli ynghylch hygyrchedd ar y campws.
Cynnal adolygiad cynhwysfawr o lwybrau hygyrch er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio, yn saff ac yn amlwg.
Adrodd pan nad yw safonau hygyrchedd yn cael eu diwallu a dadlau dros drwsio a gwella.

Cynnal ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth i dynnu sylw myfyrwyr a staff at lwybrau hygyrch a hyrwyddo yr arferion gorau ar gyfer mynd o gwmpas y campws.

4. Tryloywder Asesiadau
Blaenoriaeth: Sicrhau fod adrannau yn agored a chyson yn eu hagwedd tuag at asesiadau amgen.
Cydweithio gyda’r Swyddog Materion Academaidd i wneud i’r gwaith hwn gyd-fynd â blaenoriaethau academaidd presennol.
Defnyddio’r Bwrdd Cynghori i gasglu adborth gan fyfyrwyr ar ailsefyll arholiadau a phrofiadau o asesiadau amgen.
Gweithio gydag adrannau a gwasanaethau cymorth i roi gwybod am yr opsiynau asesu amgen sydd ar gael i’r holl fyfyrwyr.
5. Hygyrchedd Digidol a Chanolfan Wybodaeth
Blaenoriaeth: Creu canolfan ddigidol hygyrch canolog ar gyfer adnoddau anabledd a hygyrchedd.

Rhoi tudalen gyfeirio myfyrwyr yn null ‘Linktree’ ar wefan Ymgyrchoedd Undeb Aber, gan gyfuno gwybodaeth hygyrchedd, dolenni i gymorth, a chyngor allweddol.

Sicrhau fod y dudalen yn cael ei diweddaru’n rheolaidd a’i hyrwyddo ar draws sianeli yr Undeb, er mwyn sicrhau mynediad rhwydd i gymorth i bob myfyriwr.

 

Os hoffech chi gymryd rhan neu ddysgu mwy, e-bostiwch ...

 

 

Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth

Ash Sturrock 

Ais13@aber.ac.uk

LlaisUM@aber.ac.uk

Swyddog Myfyrwyr anabl

Billy Smith and Harley Harrison

sharedmb46@aber.ac.uk

 

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576