Y Senedd

Y Senedd  yw'r corff penderfynu uchaf yn Undeb Aberystwyth. Bwriad y Senedd yw cynrychioli pob myfyriwr a gosod yr hyn mae UMAber yn credu ynddo ac yn gweithio arno. Mae’r Senedd yn cael ei harwain gan fyfyriwr a gaiff ei ethol yn gadeirydd.

Gall pob myfyriwr gyflwyno syniadau a siarad yn unrhyw Senedd. Os bydd syniad yn cael ei basio drwy'r Senedd, daw’n Bolisi’r Undeb am dair blynedd a bydd yn rhan o'n weithgareddau.

Gallwch weld y dyddiadau a’r papurau ar gyfer cyfarfodydd sydd i’w cynnal, yn ogystal â’r cofnodion ar gyfer cyfarfodydd blaenorol isod.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau mynediad cyfartal i’n holl fyfyrwyr. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â hygyrchedd, neu os ydych chi angen unrhyw ddogfennau sy’n perthyn i’r cyfarfod mewn fformat penodol, yna rhowch wybod i ni, e-bostiwch llaisum@aber.ac.uk.


Dyddiadau Allweddol

2026-2027 

18:00-20:00

Dyddiad Cau Syniad Y Senedd lleoliad           Papurau                     
09/10/2026 26/10/2026  Undeb Picturhouse    
06/11/2026 23/10/2026 Undeb Picturhouse    
12/04/2027 26/04/2027 Undeb Picturhouse    

 

Mynychu Cyfarfodydd      Sut mae eich Cynrychiolwyr Seneddol wedi Pleidleisio?

 

Cewch gyflwyno syniad newydd gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.


 

EICH CYNRYCHIOLWYR SENEDDOL 2025-2026


Beth sy'n digwydd yn ystod cyfarfodydd?

Mae Cadeirydd yr Undeb yn arwain pob dadl yn ystod Senedd yr Undeb, gan sicrhau bod cyfarfodydd y Senedd cadw at y terfynau amser gofynnol a bod unrhyw drafodaethaun cadw at y testun.

Mae Senedd yr Undeb yn cynrychioli llais myfyrwyr Aberystwyth drwy osod polisir Undeb a gwneud, diddymu a gwella is-ddeddfau UMAber gyda Bwrdd Ymddiriedolwyr UMAber.


Pwy all pleidleisio?

Mae aelodaur Senedd yn cynnwys:

  • 4 swyddogion llawn amser
  • 12 swyddogion gwirfoddol
  • 2 swyddogion cyfadran
  • 2 aelod o bwyllgor gwaith UMCA
  • 5 cynrychiolydd o glybiau chwaraeon

- Crefft Ymladd a Mabolgampau

- Chwaraeon Gaeaf a Dŵr

- Chwaraeon Awyr Agored

- Dawns a Gymnasteg

- Pêl, Raced ac Arall

  • 5 cynrychiolydd o cymdeithasau

- Gwleidyddiaeth, Elusennau a’r Amgylchedd

- Hobïau a Diddordebau

- Y Celfyddydau Perfformio

- Ffydd a Diwylliant

- Academaidd a Gyrfaoedd

  • 1 Cynrchiolaeth I brosietau Gwirfoddoli
  • 2 Cynrchiolwyr Academaidd
     

Er mwyn trosglwyddo syniadau trwyr Senedd, rhaid ir holl gyfarfodydd gyrraedd cworwm 50% +1 or holl aelodau sydd â phleidlais.
 


Beth yw syniad?

Syniad yw ffordd y gallwch chi gyflwyno yr hyn rydych chin meddwl y dylai UMAber ei gredu neu weithio arno. Ar ôl ei gyflwyno, maen bosib y bydd gofyn i chi ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Senedd ac os caiff ei basio (oni fydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn dweud fel arall) daw’n bolisi a rhaid ir Undeb ei ddilyn am y tair blynedd nesaf. Ar ôl eu derbyn, cyhoeddir Syniadau ar gyfer y Senedd ir holl fyfyrwyr i ddarllen ac awgrymu gwelliannau.

Cewch gyflwyno syniad 



Cyfarfodydd Blaenorol: 


Cysylltwch â ni

 Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth
 ais13@aber.ac.uk  /   llaisum@aber.ac.uk 

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576