
Dyddiadau 2026-2027
Dolen Gais: https://umabersu.wufoo.com/forms/advisory-board-application/
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau (Anabl a Rhyngwladol): 9fed Mis Hydref 2026
Bwrdd Cynghori ar Glybiau, Cymdeithasau a Gwirfoddoli: Etholiadau y Senedd
Cyfarfod
Picturehouse @ Undeb
| Y Bwrdd Cynghori ar Fyfyrwyr Rhyngwladol |
Bwrdd Cynghori Myfyrwyr Anabl |
Bwrdd Cynghori ar Glybiau, Cymdeithasau a Gwirfoddoli |
| 03/11/2026 @ 10:00-12:00 |
04/11/2026 @ 10:00-12:00 |
05/11/2026 @ 10:00-12:00 |
| 02/02/2027 @10:00-12:00 |
03/02/2027 @ 10:00-12:00 |
26/02/2027 @ 10:00-12:00 |
Y Bwrdd Cynghori ar Fyfyrwyr Rhyngwladol

Sefydlwyd y Bwrdd Cynghori ar Fyfyrwyr Rhyngwladol i fyfyrwyr rhyngwladol rannu eu profiadau a’u hargymhellion i’r UM ar ddatblygiadau strategol pwysig er mwyn cefnogi myfyrwyr rhyngwladol.
Mae’r Bwrdd hwn yn cael ei fynychu gan ein Swyddog Myfyrwyr Rhyngwladol, ein Swyddogion Llawn Amser perthnasol, a myfyrwyr rhyngwladol sy’n frwd dros wneud eu hamser yng Nghymru y gorau posibl.
Os hoffech wybod mwy, gweler Cylch Gorchwyl ein Bwrdd Ymgynghorol (Mae’r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra.)
Mae’r Bwrdd Cynghori yn talu £20 fesul cyfarfod a fe gewch hefyd gyfraniad tuag at eich cinio.
Bwrdd Cynghori Myfyrwyr Anabl

Sefydlir y Bwrdd Cynghori Myfyrwyr Anabl i gynghori Undeb y Myfyrwyr ar gamau allweddol i fod yn fwy hygyrch a chynhwysol trwy brofiadau a rennir.
Caiff y Bwrdd hwn ei fynychu gan ein Swyddog Gwirfoddol dros Fyfyrwyr Anabl a myfyrwyr sy’n uniaethu fel anabl neu’n niwroamrywiol. Does dim rhaid i chi fod â diagnosis gan ein bod ni’n deall y gall hyn fod yn rhwystr i rai.
Mae’r Bwrdd Cynghori yn talu £20 fesul cyfarfod a fe gewch hefyd gyfraniad tuag at eich cinio.
Os hoffech wybod mwy, gweler Cylch Gorchwyl ein Bwrdd Ymgynghorol (Mae’r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra.)
Bwrdd Cynghori ar Glybiau, Cymdeithasau a Gwirfoddoli

Sefydlir y Bwrdd Cynghori Clybiau, Cymdeithasau a Gwirfoddoli i gynghori Undeb y Myfyrwyr ar sut i gefnogi myfyrwyr mewn grwpiau gweithredol tra eu bod yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Caiff y Bwrdd hwn ei fynychu gan ein Cynrychiolwyr Senedd dros Glybiau, Cymdeithasau, a Phrosiectau Gwirfoddoli yn ogystal â’r Swyddog Llawn Amser perthnasol.
Os hoffech wybod mwy, gweler Cylch Gorchwyl ein Bwrdd Ymgynghorol (Mae’r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra.)
I gael rhagor o wybodaeth ar ein Byrddau Cynghori, cysylltwch â Cydlynydd Mewnwelediad Kirsty Usher kiu2@aber.ac.uk