Rheolau Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr

 

Pobl Allweddol

Jacob Webb: Dirprwy Swyddog Dychwelyd

Y Dirprwy Swyddog Dychwelyd (DSD) fydd eich prif gyswllt ynglŷn ag unrhyw gwestiynau neu gwynion. Rhaid cyflwyno pob cwyn trwy’r Ffurflen Gwyno. Bydd y DSD yn pasio unrhyw fater ymlaen i Swyddog Dychwelyd yr UCM i gael eu barn. Gellir cysylltu â’r DSD trwy union.elections@aber.ac.uk.

Swyddog Canlyniadau UCM

Mae'r Swyddog Canlyniadau yn goruchwylio'r broses etholiadol fel ei bod yn deg ac yn agored.


Dyddiadau Allweddol  


Galw am Bleidlais yr Holl Fyfyrwyr

  1. Gellir galw am Bleidlais yr Holl Fyfyrwyr dros unrhyw fater trwy:
    • Gynnig a basiwyd gan fwyafrif Bwrdd yr Ymddiriedolwyr;
    • Bleidlais fwyafrifol, Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, neu Gyfarfod Cyffredinol Arbennig
    • Ddeiseb ddiogel o 250 aelod cyffredin (gan gynnwys eu rhif myfyriwr) a gyflwynir i Gadeirydd yr Ymddiriedolwyr,
  2. Ni cheir pasio Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr oni bai fod o leiaf 500 Aelod Cyffredin wedi bwrw pleidlais ym Mhleidlais yr Holl Fyfyrwyr a bod mwyafrif syml o’r pleidleisiau a fwriwyd o blaid y cynnig.

Briffio

  1. Bydd yr Undeb yn trefnu cyfarfod agored i bawb cyn dechrau’r pleidleisio i roi y rheolau ar ddeall i ymgyrchwyr, ac i esbonio a dadlau’r materion.
    • Os caiff y mater ei ddadlau, bydd y cyfarfod yn enwebu dau arweinydd ymgyrch a fydd yn gyfrifol am redeg yr ymgyrch ‘O Blaid’ a’r ymgyrch ‘Yn Erbyn’. Rhoddir lwfans cyhoeddusrwydd a delir gan Undeb Aberystwyth i bob arweinydd ymgyrch sydd gyfartal â’r lwfans a roddir at etholiadau ymddiriedolwyr sy’n swyddogion. 
  2. Ni dderbynnir diffyg dealltwriaeth o'r rheolau am esgus dros dorri'r rheolau.

Ymgyrchu

  1. Arweinwyr ymgyrchoedd sy’n gyfrifol am weithredoedd ymgyrchwyr sy’n cefnogi eu cynnig, a elwir gyda’i gilydd yn dîm ymgyrchu. Diffinnir ymgyrchydd fel rhywun y gellir ei ystyried yn rhesymol i weithredu ar ran arweinydd ymgyrch, neu wrthi’n gweithio ar eu rhan.
  2. Mae’n rhaid i arweinwyr ymgyrchoedd gymryd pob cam rhesymol i sicrhau fod gweithredoedd eu hymgyrchwyr yn cydymffurfio â rheolau’r ymgyrch a bydd rhaid iddynt brofi hyn yn achos cwyn yn eu herbyn.
  3. Ni ddylai arweinwyr ymgyrchoedd a’u hymgyrchwyr ond ymgymryd â gweithgarwch ymgyrchu y mae gan bawb gyfle teg i’w wneud.
  4. Dylai arweinwyr ymgyrchoedd a’u hymgyrchwyr ymddwyn mewn modd sy’n parchu eraill, ac mae’n rhaid iddynt beidio â bygwth, aflonyddu neu beryglu lles a diogelwch eraill.
  5. Ni chaniateir i arweinwyr ymgyrchoedd a’u hymgyrchwyr fanteisio ar adnoddau’r Brifysgol neu’r Undeb at ymgyrchu oni bai fod caniatâd clir gan Ddirprwy Swyddog yr Etholiadau.
  6. Ni ddylai Arweinwyr Ymgyrchoedd na’u hymgyrchwyr honni eu bod (neu’r ymgeisydd y maent yn ei gefnogi) yn cael eu cefnogi gan yr Undeb nac aelodau staff unigol o’r Undeb.
  7. Ni chaiff Arweinwyr Ymgyrchoedd na’u hymgyrchwyr fwrw pleidlais, na cheisio bwrw pleidlais ar ran myfyriwr arall.
  8. Ni ddylid defnyddio breibio pleidleiswyr fel rhan o unrhyw ymgyrch.
  9. Rhaid i Arweinwyr Ymgyrchoedd a’u hymgyrchwyr lynu wrth yr holl gyfreithiau a rheolau ehangach presennol sy’n llywodraethu ymddygiad unigolion a myfyrwyr.
  10. Caniateir cefnogaeth gan Glybiau a Chymdeithasau yn rhan o Bleidlais yr Holl Fyfyrwyr.
    Ceir dangos cefnogaeth ar ôl dechrau’r cyfnod ymgyrchu yn unig. Mae’n rhaid i gefnogaeth gan grŵp myfyrwyr ddilyn gweithdrefnau gwneud penderfyniadau sefydledig y grŵp.
  11. Dim ond Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth gaiff ymgyrchu yn yr etholiadau.
  12. Mae’n rhaid i Swyddogion Llawn Amser gymryd amser i ffwrdd os ydynt yn dymuno ymgyrchu yn ystod oriau gwaith arferol.
  13. Gwaharddir Swyddogion Llawn Amser ac ymgeiswyr eraill rhag manteisio ar unrhyw adnoddau sy’n gysylltiedig â’i swydd bresennol i gefnogi eu hymgyrch.
  14. Yn ystod cyfnod yr etholiadau, ni chaniateir i Swyddogion Llawn Amser gyflawni unrhyw ddyletswyddau neu weithgarwch y gellid ystyried o fantais i’w hail-ethol, ag eithrio tasgau sy’n rhan o’u rôl arferol ac maent wedi ymroi’n gyson iddynt trwy gydol y flwyddyn gyda chymeradwyaeth gan y Dirprwy Swyddog Etholiadau ymlaen llaw.
  15. Mae croeso i chi osod posteri o amgylch adeilad yr Undeb, ond peidiwch â defnyddio tâp. Os hoffech chi arddangos deunydd tu allan i'r Undeb, bydd rhaid i chi ofyn am ganiatâd gan y Brifysgol. Cofiwch na cheir gosod deunydd hyrwyddo ar welydd bar yr Undeb. Yn lle, bydd hysbysfyrddau penodol at eich defnydd y tu mewn i'r bar.


Cyllideb

  1. Bydd cyllidebau ymgyrchoedd gyfartal â’r lwfans a gytunwyd arno ar gyfer etholiadau’r Ymddiriedolwyr sy’n Swyddogion.​
    • Caiff y rhain eu had-dalu gan yr Undeb wedi darparu derbynebau. Gellir cyflwyno eich ffurflen gostau hyd at awr ar ôl i’r pleidleisio gau. Ni dderbynnir ceisiadau am ad-dalu ar ôl yr adeg hon.
  2. Ni chaniateir i dimau ymgyrchu fynd dros derfynau eu cyllideb.
  3. Mae’n rhaid i arweinwyr ymgyrchoedd gadw rhestr ysgrifenedig o gostau ymgyrchu. Mae disgwyl i ymgeiswyr fod yn barod i gyflwyno’r rhain ar gais Dirprwy Swyddog yr Etholiadau.
  4. Mae’n rhaid i’r holl ddeunyddiau a ddefnyddir gan dîm ymgyrchu gael eu cynnwys yn ei ddatganiad o wariant yn ogystal â derbynebau neu amcangyfrif rhesymol o gyfradd y farchnad.
  5. Mae’n rhaid i bob heb ei brynu ond a gafodd ei ddefnyddio at ddibenion ymgyrchu gael ei werthuso gan Ddirprwy Swyddog yr Etholiadau.
  6. Deunyddiau ac adnoddau ar gael i bawb ee defnydd am ddim ar wefannau cyfryngau cymdeithasol yw’r eithriad i’r rheol uchod Ni chaniateir hyn oni bai fod yr eitem ar gael am ddim i bawb. Er enghraifft, ni cheir defnyddio hen megaffon oni bai ei fod wedi’i gymeradwyo. Rhaid cynnwys unrhyw ddeunydd cymeradwy yng nghyllideb eich ymgyrch. Siaradwch â Dirprwy Swyddog yr Etholiadau am eglurhad.

Cyfri a Chyhoeddi

  1. Pan fydd y pleidleisiau yn cael eu cyfri, bydd y Swyddog Dychwelyd neu ei enwebydd yn goruchwylio’r broses.
  2. Ni ddaw canlyniadau etholiadau’r Undeb ond i rym nes bod y Dirprwy Swyddog Etholiadau wedi cadarnhau bod y canlyniadau yn gywir ac yn deillio o weithdrefn rydd a theg a bod pob cwyn a apêl wedi’u datrys.


Cwynion ac Apeliadau

  1. Cyfrifoldeb y Swyddog Dychwelyd yn unig fydd dehongli’r rheolau hon ac is-ddeddfau yr Undeb.
  2. Pan yn ymchwilio cwyn ynghylch toriadau posib o’r is-ddeddfau, mae’n rhaid ei gyflwyno’n ysgrifenedig trwy ddefnyddio’r ffurflen ar-lein addas ar gyfer y DSD. Mae’n rhaid i’r cwyn fod yn glir pan yn cyfeirio at y rheolau hon. Ni cheir ond defnyddio y weithdrefn gwyno hon at ddibenion sy’n ymwneud ag ymddygiad yn yr etholiadau fel yr amlinellir yn yr is-ddeddfau a’r rheolau. Rhaid cyflwyno unrhyw gwynion eraill trwy broses gwyno Undeb Aber.
  3. Bydd y DSD yn ymchwilio cwynion a chyfeirio’r materion i’r Swyddog Dychwelyd ei benderfynu.
  4. The RO can decide to act based on the outcome of decisions. This can include halting the All Student Vote, and referring a matter to be dealt with by the Union or University disciplinary procedures.
  5. Bydd dyfarniadau’r Swyddog Dychwelyd yn cael eu rhoi ar waith yn syth.
  6. Mae’n rhaid cyflwyno unrhyw gwyn cyn cyfri’r pleidleisiau neu o fewn un awr ar ôl i’r pleidleisio ddod i ben.
  7. Mae’n rhaid cyflwyno ynghylch cyfri’r pleidleisiau yn ysgrifenedig trwy ddefnyddio’r ffurflen ar-lein addas a’i hanfon at y Swyddog Dychwelyd neu’r DSD cyn cyhoeddi’r canlyniadau.
  8. Rhaid cyflwyno apeliadau’n ysgrifenedig gan lenwi’r ffurflen briodol ar-lein i Ddirprwy Swyddog yr Etholiadau erbyn 12yh fan bellaf y diwrnod ar ôl i arweinydd ymgyrch gael gwybod am benderfyniad Swyddog yr Etholiadau. Dim ond arweinwyr ymgyrchoedd y mae eu hymgyrch wedi cael sancsiynau oherwydd cwyn gaiff wneud apêl.
  9. Rhaid cyflwyno apeliadau’n ysgrifenedig gan lenwi’r ffurflen briodol ar-lein i Ddirprwy Swyddog yr Etholiadau erbyn 12yh fan bellaf y diwrnod ar ôl i arweinydd ymgyrch gael gwybod am benderfyniad Swyddog yr Etholiadau. Dim ond arweinwyr ymgyrchoedd y mae eu hymgyrch wedi cael sancsiynau oherwydd cwyn gaiff wneud apêl.

Ceir disgrifiad manwl o’r rheolau a’r rheoliadau sy’n goruchwylio Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr yn adran Is-ddeddf ‘Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr a Chynigion o Ddiffyg Hyder’ ar wefan Undeb Aberystwyth.

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576