Datganiadau Swyddogol O Blaid ac Yn Erbyn

Datganiad Swyddogol o Blaid

Rydyn ni’n galw ar y Brifysgol ac ar Undeb Aber i beidio â gwerthu Costa Coffi yn Undeb y Myfyrwyr ac i droi at gyflenwr Coffi o Gymru yn lle, am ddau reswm.

Mae cefnogi busnesau o Gymru a’n cymuned leol o bwys mawr i ni fel myfyrwyr Aberystwyth. Byddai partneru â chyflenwr lleol o Gymru yn lle corfforaeth fyd-eang yn adlewyrchu’n well ein perthynas gyda’r gymuned, a’n balchder yn ein Cymreictod, gan sicrhau fod ein harian yn aros yn yr economi leol.

Mae Costa Coffee ar frig rhestr foicotio yr ymgyrch undod â Phalestina gan mai Coca Cola sy’n berchen arno, cwmni sydd ynghlwm â’r hil-laddiad ym Mhalestina. Ers blynyddoedd, mae gan Coca Cola ffatrïoedd mewn gwladychfeydd anghyfreithiol yn y Lan Orllewinol, ac yn gweithredu yn Ucheldiroedd Golan Syria sydd dan oresgyniad anghyfreithlon. Aiff yr elw o Costa Coffee yn uniongyrchol tuag at gefnogi apartheid a meddiannu Palestina. Gan hynny, rydyn ni o’r farn fod partneru â Costa yn bradychu safonau moesegol y Brifysgol, yr Undeb a myfyrwyr.

Diolch oddi wrth yr Ymgyrch O Blaid

Ymgyrch Swyddogol yn Erbyn

Rydyn ni’n deall pryderon ynghylch rhiant-gwmni Costa, ond byddai cael gwared ar Costa yn cyfyngu ar ryddid myfyrwyr i ddewis yr hyn sydd well ganddynt. Mae annibyniaeth wrth wraidd gwerthoedd myfyrwyr; bod â’r gallu i wneud ein penderfyniadau ein hunain, nid i’r penderfyniadau gael eu gwneud drosom. Mae ein campws eisoes yn cynnig digonedd o opsiynau moesegol, lleol ac amgen ar gael i bawb heb gyfyngu ar ddewis eraill.

Mae’r cynnig yn argymell dod â brand coffi lleol o Gymru yn lle Costa a hynny’n gadarnhaol o’r olwg gyntaf, ond nid oes sicrwydd y byddai’r Brifysgol wirioneddol yn dod â rhywbeth yn ei le. Gan fod siop goffi Gymreig eisoes yn gweithredu drws nesaf yng Nghanolfan y Celfyddydau, efallai na fydd modd cynnal un arall a gallai’r lle gau. Byddai hynny’n lleihau mannau i fyfyrwyr, nid eu gwella. Mae’r bleidlais hon yn ymwneud ag amddiffyn dewis, cefnogi anghenion amrywiol, a chadw mannau ar agor ar y campws.

Bydd pleidleisio yn erbyn y cynnig yn helpu sicrhau mai pawb ac nid lleiafrif fydd yn penderfynu drosto ei hun.

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576