Cwestiynau Cyffredin

I gefnogi Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr wybodus, gofynnwyd i’r Undeb egluro rhai o’r cwestiynau a godwyd yn ystod y cyfnod ymgyrchu. Sicrhau fod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir a chywir tra’n cadw’n niwtral tuag at ganlyniad y bleidlais yw ein swyddogaeth. Ni fyddwn ond yn cyhoeddi gwybodaeth sydd, hyd y gwyddem, yn ffeithiol, hygyrch a pherthnasol i’r hyn sy’n destun pleidlais, a’r un yw ein triniaeth o’r holl ymgyrchwyr.  Nid sylwadau ar ddadleuon yr ymgyrchoedd mo’r eglurhadau hyn ond ffordd o helpu myfyrwyr i ddeall y ffeithiau sylfaenol fel eu bod yn gallu gwneud eu penderfyniad eu hun.

 

1. Pwy sy’n rhedeg Coffi Cwtsh?

Mae Coffi Cwtsh a Bar Cwtsh yn eiddo i’r Brifysgol. Mae’r Brifysgol yn gweithio mewn partneriaeth ag Undeb y Myfyrwyr i geisio gwneud y gwasanaethau yn adeilad Undeb y Myfyrwyr yn rhan gadarnhaol o’r profiad myfyriwr ehangach. 


2. Oes sicrwydd y daw cyflenwr coffi arall yn lle Costa Coffee?

Ni fyddai pleidlais ‘o blaid’ yn sicrhau y ceir gwared ar gynnyrch Costa ond byddai Undeb y Myfyrwyr yn rhwym i weithio â’r Brifysgol i ddod â brand o Gymru yn ei le. Byddai’r Brifysgol wedyn yn asesu ystod o ffactorau, gan gynnwys ymarferoldeb masnachol cyflenwyr coffi eraill o Gymru a’r incwm y byddai ei angen ar Goffi Cwtsh er mwyn aros yn gynaliadwy yn ariannol.


3. Pa mor fuan y gellid llenwi lle Costa pe bai’r bleidlais o blaid yn ennill?

Byddai Undeb y Myfyrwyr yn dechrau ar adolygu opsiynau i gymryd ei le cyn gynted â phosib. Fodd bynnag, er ein bod ni’n cydnabod y bydd ar fyfyrwyr eisiau gweld newid yn digwydd ar unwaith, gall y broses gymryd amser. Hyd yn oed os adnabyddir opsiwn amgen, gallai ei weithredu gael ei oedi gan ofynion ymarferol megis diweddaru offer, defnyddio neu dod â rhywbeth yn lle y stoc presennol, newid arwyddion, a threfnu hyfforddiant i staff. Trwy gydol y cyfnod hwn, byddem yn diweddaru tudalen y polisi’n rheolaidd gyda’r camau a gymerir ac yn rhoi syniad clir am yr hyn sy’n digwydd neu nad yw’n digwydd a pham.


4. IPe tasair Cwtsh yn symud oddi wrth Costa Coffee tuag at frand o Gymru, a allai weini Frappes a diodydd tymhorol?

Dywedodd Gwasanaethau Masnachol y Brifysgol fod yr ystod bresennol o ddiodydd tymhorol a frappes ynghlwm â chynnyrch Costa. Rydyn ni ar ddeall pe baem yn cyflwyno brand coffi Cymreig, efallai na fyddai yr ystod o opsiynau o ran diod i’w chael fel y mae ar hyn o bryd. Fodd bynnag, os bydd yn ymarferol yn fasnachol i droi at gyflenwr o Gymru, efallai y bydd modd cynnig detholiad llai o ddiodydd tymhorol neu frappes, er y gallai’r ystod hon fod yn fwy cyfyngedig na’r hyn a ddarperir yn barod yng Nghoffi Cwtsh.


5. Gan fod Canolfan y Celfyddydau eisoes yn gwerthu Coaltown, a fyddai modd i’r Cwtsh werthu Coaltown ar sail barhaol?

Byddai modd. Ni fyddai’r ffaith fod y cynnyrch eisoes ar werth yng Nghanolfan y Celfyddydau yn ei atal rhag cael ei werthu yn y Cwtsh. Fodd bynnag, byddai’r Brifysgol yn adolygu yr opsiynau ar gael o ran brand coffi Cymreig ar gyfer Coffi Cwtsh ac ystyried yr effaith a geir ar fannau gwerthu ar draws y Campws. Byddai’r adolygiad hwn yn cynnwys Coaltown, ond efallai y caiff cyflenwr arall ei ddewis yn y pendraw, gan ddibynnu ar ffactorau megis costau prynu ac am faint y gellid ei werthu tra’n cynnal maint elw cynaliadwy a’i gadw’n fforddiadwy i fyfyrwyr. Byddai Undeb y Myfyrwyr hefyd yn cefnogi ymchwil i hwn a chefnogi y cynnyrch gorau am y pris gorau i fyfyrwyr.


6. Pe tasai’r cyflenwr coffi newydd yn ennill llai o arian, a fydd myfyrwyr yn colli eu swyddi, ac a fydd llai o arian i glybiau?

Pe tasai cyflenwr coffi o Gymru yn ddrutach, yn gofyn prisiau gwerthu uwch, yn gwerthu llai yn gyffredinol, neu yn ennill llai o gymharu â chynnyrch Costa, yna byddai gan Goffi Cwtsh seiliau da dros adolygu ei oriau gwaith a/neu ystyried ei hyfywedd cyffredinol. Byddai lleihau unrhyw oriau yn golygu llai o shifftiau i fyfyrwyr, gan gael effaith ar swyddi fyfyrwyr.


7. Oes modd i hyn gael effaith ar Noddi Clybiau a Chymdeithasau?

Er mai Undeb y Myfyrwyr sy’n rhedeg Clybiau a Chymdeithasau Myfyrwyr, mae’r Cwtsh yn noddi rhai grwpiau’n uniongyrchol. Pe bai llai o incwm, yna gellid ystyried y byddai’n cael effaith ar nawdd i Glybiau a Chymdeithasau.


8. Faint o ran sydd gan Costa Coffee fel cyflenwr?

Mae Coffi Cwtsh yn defnyddio nwyddau Costa Coffee megis ffa coffi, siocled boeth a surop ac yn defnyddio ei asedau gwerthu hynny yw, baneri a bwydlenni. Nid oes cytundeb neu gytundeb rhannu incwm ar waith gyda Costa. Gan hynny, nid yw Costa yn chwarae rhan fwy nag y byddai Archfarchnad yn ei chwarae pe bai’r Cwtsh yn prynu coffi ganddi.  Dyma sut y llwyddom i weithio gyda’r Brifysgol i sicrhau darpariaeth o goffi lleol gwadd o Gymru, hynny yw Coaltown.

.

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576