| 
			 Mae fforymau yn gyfarfodydd y mae eich Swyddogion llawn amser yn eu cadeirio, gyda’r pwrpas o drafod syniadau yn ymwneud â gwahanol agweddau ar fywyd y brifysgol. 
			Cyfarfodydd anffurfiol a hamddenol ydy’r rhain - does dim rhaid i chi fod yn wybodus iawn am Undeb Aberystwyth - mae croeso i holl aelodau Undeb Aber! 
			Rhennir fforymau yn bedwar cyfarfod gwahanol, lle caiff thema wahanol ei thrafod ymhob un: 
			
				- Cynrychiolwyr Academaidd
 
				- Cyf Cyff UMCA a Diwylliant Cymru
 
			 
			Er bod i bob cyfarfod ei brif thema, rydyn ni’n eich annog i godi unrhyw bwnc rydych chi eisiau ei drafod, waeth a fydd yn ymwneud â ffocws yr uchod. Mae llais pawb o bwys! 
			 | 
		
	
 
Beth yw diben y Fforymau
 
Bydd Fforwm llwyddiannus yn caniatáu i fyfyrwyr dynnu sylw at y materion sy'n fwyaf perthnasol iddynt mewn sefyllfa lawer mwy personol gydag amryw fynychwyr sy’n gallu:
	- Rhoi’r diweddaraf i bawb ar eu cynlluniau a'u digwyddiadau
 
	- Annog y swyddog llawn amser i weithredu ar fater
 
	- Rhoi adborth ar syniadau rydych chi am eu cyflwyno i'r Cyngor
 
	- Awgrymu geiriad a gwelliannau ar gyfer syniadau neu ymgyrchoedd
 
	- Helpu i ddarparu ffeithiau a phrofiadau personol sy'n berthnasol i'r testun
 
	- Canfod sut gallai gweithio ar syniad neu destun gael effaith gadarnhaol
 
	- Dod o hyd i gyfleoedd i gydweithio ar broblemau ar y cyd
 
	- Ateb cwestiynau
 
 
 
Beth sy’n cael ei drafod?
 
Mae pob Fforwm yn dilyn ffurf sylfaenol:
	- Cyflwyniadau – eich croeso arferol, ymddiheuriadau a chyfle i dorri’r iâ;
 
	- Adroddiad y swyddog - cewch wrando ar adroddiad swyddogol y swyddog llawn amser perthnasol a'i ddal i gyfrif
 
	- Testunau trafod a gyflwynwyd – gall myfyrwyr gyflwyno testunau i’w trafod cyn pob Fforwm er mwyn sicrhau lle iddo ar yr agenda. Gall hyn fod yn unrhyw beth sy'n berthnasol i'r Fforwm!
 
	- Unrhyw fater arall – cyfle i godi unrhyw beth, o destunau ychwanegol i ddiweddariadau neu gyhoeddiadau
 
O bryd i'w gilydd, byddwn ni’n gosod thema i’r Fforwm o gwmpas digwyddiad presennol neu fater pwysig neu’n defnyddio'r cyfarfod i wahodd siaradwyr ar gyfer sgyrsiau byr a sesiynau holi ac ateb.
 
 
Sut mae cyflwyno testun i'w drafod?
 
Gallwch e-bostio'ch pwnc at y Cydlynydd Llais Myfyrwyr: llaisum@aber.ac.uk, neu gyflwyno syniad trwy ein ffurflen ar-lein yma.
 
 
Atebolrwydd
 
Mae’r Fforymau yn arf pwysig mewn atebolrwydd ac anogir myfyrwyr i ofyn cwestiynau Swyddogion Llawn Amser am eu blaenoriaethau. Yn debyg i AS, mae eich Swyddogion wedi’u hethol i’ch cynrychioli chi ac felly mae arnynt gyfrifoldeb i sicrhau bod yr UM yn gweithio ar faterion o bwys i chi. Y Fforymau yw un o’r llefydd i hyrwyddo’r drafodaeth hon, ac mae myfyrwyr yn gallu dylanwadu’n uniongyrchol ar benderfyniadau a helpu i ffurfio prosiectau.
Mae atebolrwydd yn gydgyfrifoldeb, sydd ar ei fwyaf effeithiol pan fo’r Swyddogion Llawn Amser a’r myfyrwyr yn cymryd rhan yn y broses.
 
 
 
Cyfarfodydd 2025-2026
Tachwedd
	
		
			| Enw | 
			Pryd | 
		
		
			| Materion Academaidd | 
			04/11/2025 @ 12:00-13:00 SU Picturehouse | 
		
	
 
Rhagfyr
	
		
			| Enw | 
			Pryd | 
		
		
			| Cyf Cyff a Parth Diwylliant Cymreig | 
			01/12/2025 @ 18:00-19:00 Lolfa Fach, Pantycelyn | 
		
	
 
Ionawr
	
		
			| Enw | 
			Pryd | 
		
		
			| Cyf Cyff a Parth Diwylliant Cymreig | 
			
			
				
					
						| 26/01/2026 @ 18:00-19:00Lolfa Fach, Pantycelyn | 
					 
				
			 
			 | 
		
		
			| Materion Academaidd | 
			29/01/2026 @ 12:00-13:00 Undeb Picturehouse | 
		
	
 
Mwy o wybodaeth am bob fforwm
Y Fforwm Cyf Cyff a Parth Diwylliant Cymreig
 
Cadeirydd: Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA
Staff cynorthwyol:Cymorth a Chynrychiolaeth / Marchnata a Chyfathrebu 
Mynychwyr arferol: Swyddog yr Iaith Gymraeg, Pwyllgor Gwaith UMCA
Daw unrhyw un sydd â diddordeb yn niwylliant Cymru ynghyd i drafod materion sy’n ymwneud â’r canlynol:
	- Y Gymraeg, dwyieithrwydd a dysgu Cymraeg yn Aber
 
	- Darpariaeth addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg
 
	- Digwyddiadau, dathliadau a gweithgareddau gwyliau yn Gymraeg
 
	- Cymorth ac adnoddau cymunedol i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith a'u grwpiau fel UMCA
 
Mae’r Fforwm hwn ar gael yn ddwyieithog, os ydych chi’n dymuno cyfathrebu yn Gymraeg neu yn Saesneg mae croeso i chi ei fynychu.
 
 
Y Fforwm Academaidd
 
Cadeirydd: Swyddog Materion Academaidd
Staff cynorthwyol: Cymorth a Chynrychiolaeth
Mynychwyr arferol: Cynrychiolwyr Athrofa, Cynrychiolwyr Academaidd, Pwyllgorau Cymdeithasau Academaidd
Mae'r Fforwm hwn yn ymwneud ag addysg gan gynnwys:
	- Y system gynrychiolaeth academaidd
 
	- Materion penodol sy'n ymwneud ag unrhyw beth o ddarlithoedd, cyrsiau, modiwlau neu hyd yn oed gynlluniau gradd
 
	- Materion sy'n ymwneud â gwasanaethau fel llyfrgelloedd, gwasanaethau gwybodaeth neu offer ar-lein
 
	- Newidiadau yn strwythurau, staff neu weithgareddau'r Brifysgol
 
 
 
 
Cadeirydd: Swyddog Cyfleoedd
Staff cynorthwyol: Cyfleoedd
Mynychwyr arferol: Pwyllgorau Clybiau Chwaraeon a Chymdeithasau 
Mae’r Parth hwn yn cael ei rannu’n ddau (awr yr un i’r clybiau a’r cymdeithasau) a phan fo'n berthnasol mae'n trafod:
	- Cymryd rhan mewn clwb neu gymdeithas a'r holl bethau sydd ynghlwm
 
	- Grantiau, cyllid, hyfforddiant a chynrychiolaeth
 
	- Materion sy’n ymwneud â chyfleusterau
 
	- Digwyddiadau mawr fel y Rhyngolgampau, Superteams a Gwobrau
 
	- Codi arian a gwirfoddoli
 
 
 
 
 
Mae’r Parthau’n gyfle gwych i sbarduno’r trafodaethau rydych chi am i ni eu cael, a'r gwaith hoffech chi i ni ei wneud.
Gallwch gyflwyno syniad trwy ein ffurflen ar-lein yma.