Y Garn

Difficulty:

Difficulty four out of six.

⬇⬇⬇ Full details below ⬇⬇⬇

 

 

 

 

 

 

English Below / Saesneg Islaw

- Trosolwg
Mynydd bach yn Ne Parc Cenedlaethol Eryri yw’r Garn. Mae’n cynnig golwg ysblennydd ar Afon Mawddach, Coed y Brenin, a’r mynyddoedd cyfagos.

Bydd ychydig o’r llwybr oddi ar yr hewl, felly bydd eisiau sgidiau sy’n cefnogi eich migwrn. 

Os byddwn ni’n ddigon ffodus, bydd llusen (rhai gwyllt) i’w cael, felly dewch â rhywbeth i’w dal wrth fforio! 

- Manylion
Fe ewn ni gyda’r bws o Aberystwyth i’r Ganllwyd. Aiff y llwybr â ni drwy goedwig wrth i ni gychwyn am draed y mynydd. Oddi yno, ewn ni yn ddau grŵp llai, gyda dewis o lwybr serthach ac un caredicach. Daw’r ddau grŵp yn ôl at ei gilydd ger y gopa, a mynd i lawr yr ochr dde yn ôl i’r goedwig. Yna cyrhaeddwn ni Lanelltud i fynd ar y bws yn ôl. Mae'r llwybr tua 10km o hyd gyda 623m o esgyniad. Mae toiledau cyhoeddus ar y dechrau. 

- Man Cwrdd, Amseroedd, a Thrafnidiaeth -
Cwrdd am 07:20 wrth safle bws 4 yn y dre: https://maps.app.goo.gl/XjUtLxHXrRg4MfCj8 

Byddwn ni’n mynd ar y T2 i Ganllwyd. Mae’r mynydda am fod yn 5 awr o hyd (gan gynnwys hoe), a dylem ni gyrraedd i ddychwelyd gyda’r bws o Lanelltud am 14:45. 

- Arwyddo i fyny -
✨✨✨ Mae modd cofrestru gan fynd i’r tab ‘cynhyrchion’ ar ein gwefan: https://www.umaber.co.uk/organisation/6595/ ✨✨✨

Ymddangosith y cynnyrch fore Mercher. Bydd yn rhad ac am ddim gan y byddwch chi’n talu am eich siwrne bws eich hun ar y diwrnod (£7). Gwnewch yn siŵr eich bod yn cwblhau’r archeb ar ôl ei roi yn eich basged i sicrhau eich lle. 

Os ydych chi’n colli’r cofrestru, e-bostiwch atom i gael eich rhoi ar restr aros: hikingclub@aber.ac.uk 

- Offer
- Sgidiau cerdded sy’n cefnogi’r migwrn 
- Trowsus gwrth-ddŵr 
- Côt wrth-ddŵr 
- O leiaf 3 haen o ddillad ar gyfer eich torso 
- O leiaf 2L o ddŵr 
- Cinio a snacs 
- Unrhyw feddyginiaeth sydd angen arnoch 
- bocsys bwyd sbâr i fforio 
- Bag addas i gario popeth 

Os hoffech chi weld ydy eich esgidiau am wneud y tro, neu fod angen menthyg offer (ee trowsus sy’n dal dŵr), cysylltwch â ni drwy hikingclub@aber.ac.uk. Cofiwch gysylltu â ni 24 awr cyn y digwyddiad o leiaf. 

Gellir gweld yr offer y gallwn ni fenthyca drwy bori ein rhestr offer:  https://prifysgolaber.sharepoint.com/:x:/s/Hiking/EUEPu_aL24tBrflGuOK3QmoBewzUlfi-6ECua_8BGoMcMQ?e=VZ2utf 

 

- Overview -
Y Garn is a small mountain in the south of Eryri (Snowdonia) National Park. It offers great views of the Mawddach Estuary, Coed y Brenin Forest Park, and the neighbouring mountain ranges. 

Some of the route will be off-road, so footwear with ankle support is essential.

If we’re lucky, we may find bilberries (wild blueberries), so bring a container for foraging! 

- Details
We will take the bus from Aberystwyth to Ganllwyd. We’ll then walk west through some forestry, towards the base of the mountain. From there, we’ll break into two smaller groups, with a choice between a steeper route and a gentler route. We’ll reconvene near the summit, and descend down the south face, back into forestry. We’ll then arrive in Llanelltyd village for the bus back. The route is approximately 10km with 623m of ascent. There are public toilets at the start. 

- Meetings, Timings, and Transport
Meet at 07:20 at bus stand 4 in town, near Lidl: https://maps.app.goo.gl/XjUtLxHXrRg4MfCj8  

We will be taking the T2 bus to Ganllwyd. The hike will take about 5 hours (including breaks), and we should be back for the return bus from Llanelltyd at 14:45. 

- Signing up -
✨✨✨ The sign-up will be available from the Products tab on our webpage: https://www.abersu.co.uk/club/hikingclub ✨✨✨

The product will appear on Wednesday morning. It will be free as you pay for your own public bus fare on the day (£7). Be sure to checkout after adding it to your basket to confirm your place. 

If you miss the sign-up, please email us to be put on a waiting list: hikingclub@aber.ac.uk 

- Equipment
- Walking boots with ankle support 
- Waterproof coat 
- Waterproof trousers 
- At least 3 layers of clothing for your torso  
- At least 2L of water 
- Lunch and snacks 
- Medication (if needed) 
- Spare food containers for foraging 
- A suitable bag to carry everything 

If you want to check the suitability of your footwear, or borrow equipment (e.g. waterproof trousers), please email us on hikingclub@aber.ac.uk. Please contact us at least 24 hours before the event.

You can view the equipment we have available to borrow on our equipment list: https://prifysgolaber.sharepoint.com/:x:/s/Hiking/EUEPu_aL24tBrflGuOK3QmoBewzUlfi-6ECua_8BGoMcMQ?e=VZ2utf  

 

Mwy i ddod

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576