Gweithdy Compostio

Gwastraff yn troi'n bridd i dyfu bwyd

Rydym yn sefydliad dielw newydd wedi'i leoli ym Machynlleth, Powys ac yn darparu
gwasanaeth biowastraff economi gylchol lawn, gan gymryd gwastraff bwyd a
deunyddiau bioddiraddadwy a’u troi’n gompost maethlon ar gyfer tyfu bwyd organig
lleol.

Bydd Criw Compostio yn cynnal diwrnod gweithdy compostio ddydd Sadwrn 16 Tachwedd. Bydd y diwrnod wedi'i leoli yn hwb newydd Bwyd Dros Ben Aber yn 5 Y Stryd Fawr a bydd yn cynnwys cwpl o ymweliadau safle yn Aberystwyth gan gynnwys rhandir cymunedol Plas Crug a'r compostiwr Ridan ym Mhenparcau.

Mae'n rhaid cadw lle. Anfonwch e-bost at Lucy tyfuabergrow@gmail.com gyda'ch enw a'ch manylion cyswllt.

Mae'r diwrnod yn rhad ac am ddim. Dewch â'ch mwg a'ch cinio eich hun os gwelwch yn dda. Bydd lluniaeth ar gael yn ystod y dydd.

Byddwn yn dysgu am rai o'r canlynol, nodwch, pan fyddwch yn cadw lle, pa feysydd y mae gennych y diddordeb mwyaf ynddynt:
~ Beth i chwilio amdano mewn safle addas
~ Awgrymiadau ar siarad am gompostio gwastraff lleol fel cymuned
~ Sut mae graddfa'n effeithio ar eich dyluniad
~ Dulliau compostio gwahanol
~ Dylunio ar gyfer gwahanol rinweddau compost
~ Profion compost - ar y safle ac mewn labordy – ac arwyddion compost da
~ Casgliadau a mathau o wastraff i'w defnyddio/osgoi/bod yn wyliadwrus ohonynt
~ Rheoliadau, safonau ac Iechyd a Diogelwch
~ Ymweliadau lleol â'r compostiwr ridan ym Mhenparcau a'r biniau compostio cymunedol newydd ym Mhlas Crug

 

Mwy i ddod

Noson Bingo
18th Medi
Y Ffald Fferm Penglais
Sêl Fawr
19th-20th Medi
Prif Ystafell yr Undeb
Hoci’r Dynion
19th Medi
3G Astro - y tu allan i’r Ganolfan Chwaraeon
Ymunwch â ni yn ein sesiwn hyfforddi gyntaf os oes awydd rhoi cynnig ar hoci?
Noson Karaoke a Pizza
19th Medi
Y Ffald Fferm Penglais
Coctel a Chwyldro
20th Medi
Y Ffald Fferm Penglais
Noson Ffilm Gymraeg
20th Medi
Llofa Ffach Pantycelyn
Freshers Move in Party
20th Medi
Undeb Aberystwyth, Campus
Siop Gyfnewid
21st Medi
Lolfa Rosser D
'Bingo Lingo'
21st Medi
Undeb Aberystwyth, Campus
Noson Gwis
21st Medi
Y Ffald Fferm Penglais

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576