Byw y Dyfodol

Byw y Dyfodol – Gwahoddiad i Chi!  

   

Estynnir gwahoddiad i chi ymuno â ni yn Aberystwyth ar ddydd Mercher 21 Ionawr am ddiwrnod o rannu, archwilio a delweddu er mwyn dathlu ystyried a gweithredu ynghylch y dyfodol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, gan gychwyn 2026 gydag uchelgais a chymhelliad o’r newydd.  

   

Rydym yn eich gwahodd chi gan ein bod yn credu eich bod yn gwneud cyfraniad pwysig i siapio dyfodol Cymru ac y byddech yn gwerthfawrogi cyfarfod eraill sy’n gwneud yr un peth.  

   

Gyda’n gilydd, byddwn yn:  

  • Archwilio sut y mae ein sefydliadau yn helpu i gyflawni 7 nod Llesiant Cymru (efallai heb sylweddoli hynny) – a chlywed gan rai prosiectau lleol cyffrous  
  • Defnyddio ein dychymyg i ddarlunio dyfodol ysbrydoledig – a rhannu dysgu am y ffordd y gall meddwl am y dyfodol gynorthwyo ein gwaith  
  • Meithrin cysylltiadau gydag eraill sy’n ysgogi newid cadarnhaol  

   

Digwyddiad:  Byw y Dyfodol   

Pryd?  Dydd Mercher 21 Ionawr 2026, 10:00 - 15:30 (gan gynnwys cinio)  

Ble?  Bandstand Aberystwyth   

Prif siaradwr:  Derek Walker – Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru   

Cofrestru:  Ni chodir tâl am fynychu, ond rhaid cofrestru – cliciwch yma i archebu eich lle 

   

Mae’r digwyddiad hwn yn ddigwyddiad ar y cyd rhwng Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA), Porthi Aber, Cynnal Cymru - Sustain Wales, Llywodraeth Cymru, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Hwb Dyfodol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.   

   

Gan ddatblygu digwyddiadau blaenorol, gan gynnwys Goleuo’r Dyfodol ac Uwchgynhadledd Weithredu Cenedlaethau’r Dyfodol, bydd y digwyddiad hwn yn amlygu’r gwaith gwych sy’n digwydd yn ein rhanbarth, gan gynyddu’r momentwm ynghylch Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol wrth i ni gychwyn 2026.  Ymunwch â ni!  

   

Edrychwn ymlaen at eich gweld yno,  

Tîm digwyddiad Byw y Dyfodol   

Mwy i ddod

Cwrs Rheoli Straen 5 wythnos yn dechrau ar 5ed Chwefror.
5th Chwefror - 5th Mawrth
short desc?
Twmpath
4th Mawrth
Prif Ystafell yr Undeb
short desc?
Carioci
5th Mawrth
Cwtch Bar - Undeb Aber
short desc?
Karaoke
5th Mawrth
Cwtch Bar - Undeb Aber
short desc?
Cwrdd â Asynnod Dyfi
7th Mawrth
short desc?
Y Cyfarfod Mawr
9th Mawrth
Undeb Aber Prif Ystafell UM
short desc?
Cwis
9th Mawrth
Cwtch Bar - Undeb Aber
short desc?
Cefnogwch eich sesiwn ehoi gwaed yn Prifysgol Aberystwyth 9, 10, 11 Maw
10th Mawrth
https://wbs.wales/AberystwythUni
short desc?

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576