Cwrs Rheoli Straen 5 wythnos yn dechrau ar 5ed Chwefror.

Mae hwn yn gyflwyniad gwych i straen a ffyrdd i reoli straen.

Byddwn yn ymdrin â beth yw straen, sut mae'n gweithio o fewn ein system nerfol, a sut mae cysyniadau fel Ymwybyddiaeth Ofalgar, Hunandosturi a Pendantrwydd yn ein helpu i'w leihau a'i reoli.

Cyflwynir y cwrs drwy cyfres o sesiynau byw ar foreau Iau o 10-12 ac fe'i hasesir drwy draethawd myfyriol lle cewch gyfle i fyfyrio ar eich profiad eich hun o straen a'r hyn sy'n gweithio i chi, ac nad yw'n gweithio i chi.

Mae hwn yn gwrs addas i bobl sydd am ddatblygu ffyrdd o reoli straen eich hun, a hefyd os ydych chi am gyflwyno strategaethau i eraill o fewn eich gweithle neu gartref.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma

Mwy i ddod

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576