Yn aml gall cyfnodau arholiadau ac asesu fod yn gyfnod prysur iawn i lawer o fyfyrwyr gyda amser arholiadau ac therfynau asesu yn rysáit ar gyfer gorlwytho posibl.
Eleni mae Undeb Aber yn gweithio gyda myfyrwyr a rhai sefydliadau allanol i ddarparu digwyddiadau a gweithgareddau i'ch cefnogi yn ystod cyfnodau arholiadau ac asesu.
Rydym hefyd am sicrhau eich bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch yn ystod y cyfnod, felly peidiwch â bod ofn edrych ar y wybodaeth ar ddiwedd y dudalen hon i gael gwasanaethau cymorth ac awgrymiadau defnyddiol.
Mae’r rhestr isod yn dwyn sylw at amryw o ddigwyddiadau a gweithgareddau.
Pob lwc gan bawb yn Undeb Aber!
Edrychwch ar ein Canllaw ar Les a Lleddfu Straen gan eich Swyddogion Llesiant a Materion Academaidd, wedi’u hysgrifennu i’ch helpu yn trwy gyfnod yr arholiadau!
Eisiau ychydig o gyngor gan Dîm y Swyddogion?
Ewch i weld eu herthygl, “Awgrymiadau ar gyfer ymdopi â straen arholiadau” i gael cyngor ymarferol i’ch helpu i lywio cyfnod yr arholiadau.
Gwasanaethau Cymorth
Yn ogystal â digwyddiadau a gweithgareddau, rydym am eich atgoffa o rai o'r gwasanaethau cymorth sydd ar gael pe baech chi eu hangen yn ystod cyfnod a all beri cryn straen.
Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber
Cysylltu  Chynghorydd
Gwasanaethau Myfyrwyr - Gwasanaeth Cyngor ac Arian
Ffôn: 01970 621761/622087
E-bost: cynghorydd-myfyrwyr@aber.ac.uk
Gwasanaethau Myfyrwyr - Gwasanaeth Lles
Ffôn: 01970 621761/622087
E-bost: lles@aber.ac.uk
Gwasanaethau Myfyrwyr - Hygyrchedd
Ffôn: 01970 621761/622087
E-bost: hygyrchedd@aber.ac.uk
Gwasanaethau Myfyrwyr - Gyrfaoedd
Ffôn: 01970 622378
E-bost: gyrfaoedd@aber.ac.uk
Peidiwch ag anghofio bod amrywiaeth o bobl ar draws y campws a all gynnig gair o gyngor a chefnogaeth, gan gynnwys mentoriaid myfyrwyr, tiwtoriaid personol a staff yn eich adran.