Cyfreithiol

Mae UMAber am i fyfyrwyr Aber garu bywyd myfyrwyr. Dylai myfyrwyr Aber fod yn hapus, yn iach ac wedi’u grymuso, gyda dyfodol disglair a chyfeillgarwch sy’n para am oes.

Telerau ac Amodau

Darllenwch y telerau ac amodau canlynol yn ofalus gan eich bod yn cytuno â nhw drwy ddefnyddio ein gwefan a phrynu unrhyw gynnyrch.


Amdanom Ni:

Siop Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth University Students' Union Shop.

Campws Penglais

Prifysgol Aberystwyth University

Aberystwyth

Ceredigion

SY23 3DX

01970621725

undeb.siop@aber.ac.uk


1. Prisiau

Rydym yn derbyn MasterCard, Visa, Maestro, Delta a Solo rhyngwladol. Bydd biliau yn ymddangos fel "Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth". Anfonir nwyddau unwaith y caiff tâl ei gadarnhau yn unig.

Rydym yn masnachu fel: Siop Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth University Students' Union Shop.

Mae'r holl brisiau ar ein gwefan mewn Punnoedd Sterling (£).

Mae prisiau danfon yn dibynnu ar ffordd o ddanfon, gwlad pen y daith a phwysau. Cyfeiriwch at yr adran Danfon.

Caiff TAW (20%) ei gynnwys yn y pris (oni nodir fel arall) a gellir ei newid heb sylw. Cofrestrwyd Siop Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth University Students' Union Shop ar gyfer TAW (Rhif Taw GB 122 2206 33).


2. Dychweliadau

I sicrhau bod y broses hon mor syml a di-boen â phosib, gofynnwn i chi gysylltu â ni ar undeb.siop@aber.ac.uk neu ar +44 1970 621725. Gall beidio â dilyn y drefn hon arwain at oediad yn eich ad-daliad neu gyfnewidiad. Nid yw hwn yn effeithio ar eich hawliau statudol.

 

Ad-daliadau a Chyfnewidiadau

Os nad ydych yn fodlon â'ch cynnyrch am unrhyw reswm cewch ei ddychwelyd i ni am ad-daliad neu gyfnewidiad.

Er mwyn bod yn gymwys am ad-daliad neu gyfnewidiad, rhaid i chi ddychwelyd eich eitem mewn cyflwr heb ei ddefnyddio, ynghyd â'r pecyn a'i holl gydrannau. 

Y cyfeiriad am ddychweliadau yw:

Adran Ddychweliadau

Siop Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth University Students' Union Shop.

Campws Penglais

Prifysgol Aberystwyth University

Aberystwyth

Ceredigion

SY23 3DX

Caiff yr ad-daliad ei wneud yn uniongyrchol i'r cerdyn credyd/talu a ddefnyddiwyd yn wreiddiol i archebu. Gwneir yr ad-daliad cyn gynted ag y derbynnir yr eitem a ddychwelwyd.

Ni chewch eich ad-dalu am gost Pacio a Phostio eich eitem, ond byddwch yn ymwybodol eich bod chi'n gyfrifol am yr eitem a ddychwelir tan iddo gyrraedd ni. Rydym yn argymell defnyddio dull danfon diogel sy'n gofyn am lofnod wrth dderbyn megis Danfoniad wedi'i gofnodi Y Post Brenhinol. Nid yw hwn yn effeithio ar eich hawliau statudol.

 

Cynhyrchion Diffygiol

Caiff ein cynhyrchion eu pacio i sicrhau eu bod nhw'n cyrraedd mewn cyflwr da. Fodd bynnag, mae'n bosib derbyn nwyddau wedi'u niweidio. Os mae hynny'n digwydd ewch i'n Tudalen Ddychweliadau am fanylion ar sut i ddychwelyd eich eitem.

Unwaith yr ydym wedi derbyn ac archwilio'r eitem a ddychwelwyd, byddwn yn newid yr eitem yn rhad ac am ddim. Pe dymunir ad-daliad, gwneir yr ad-daliad cyn gynted ag y derbyniwyd yr eitem gan Siop Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth University Students' Union Shop.

Yn yr amgylchiadau hyn byddwn hefyd yn eich talu'r gost i bostio'r dychweliad. Gofynnwch am dystysgrif tystiolaeth postio o'ch Swyddfa Bost i'n galluogi i brosesu'r ad-daliad ar gyfer eich costau postio'r ad-daliad.

Nid yw hwn yn effeithio ar eich Hawliau Statudol.


3. Danfon

Fel arfer byddwch yn derbyn dau e-bost oddi wrthym. Bydd yr e-bost cyntaf yn gadarnhad o'ch archeb. Dyma gadarnhad yr ydym wedi derbyn eich archeb. Nid yw hynny'n cadarnhau bod yna warant bod eich archeb mewn stoc neu y gellir ei gyflawni. Weithiau ceir gwallau yn ein stocrestr neu bydd cwsmeriaid eraill yn archebu yn gyntaf. Ni allwn fod yn gyfrifol am unrhyw golled a geir oherwydd nad yw eich eitem mewn stoc. Byddwn yn ymdrechu i gysylltu â chi cyn gynted â phosib os bydd hynny'n digwydd. Yr ail e-bost oddi wrthym fydd eich derbynneb ac yn golygu y proseswyd eich archeb; mae eich eitem(au) mewn stoc ac yn cael ei/u g/cludo.

Byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddanfon eich archeb o fewn yr amcangyfrif amser (bydd yr amcangyfrif mewn diwrnodau gwaith oni nodir yn wahanol) a geir ar ein gwefan. Fodd bynnag, amcangyfrif yw hwn, ac ni ellir gwarantu danfoniad o fewn yr amser a nodwyd. Os na chaiff y nwyddau eu danfon o fewn yr amser yr ydym wedi ei amcangyfrif, cewch ffonio ni ar (+44 1970 621725) neu e-bostio ni a byddwn yn ceisio datrys y broblem yn syth.

Ni fyddwn yn gyfrifol am unrhyw golled a achosir i chi drwy ddanfoniad hwyr wedi'r amcangyfrif a ddarparwyd.

Sylwch nad ydym yn danfon nwyddau i flychau swyddfa bost ac yn cadw'r hawl i ddileu unrhyw archeb. Ni allwn ddanfon i unrhyw gyfeiriad heb god post [cod zip].

 

Methu Danfon

Cyfrifoldeb y prynwr yw ein hysbysu os na dderbyniwyd y nwyddau o fewn 28 diwrnod i'r dyddiad a amcangyfrifwyd ar gyfer eu danfon neu o dderbyn ein hanfoneb. Rydym yn defnyddio cludiant tir a môr felly caniatewch am hyn pan fyddwch yn archebu.

Oni chawn ein hysbysu o fewn i'r cyfnod hwn o amser, ystyrir fod y prynwr wedi derbyn y nwyddau.


4. Hawlfraint

Ni chaniateir copïo nac argraffu rhannau o'r wefan hon ond at ddibenion gosod archeb gyda ni. Ni cheir defnyddio cynnwys ein gwefan at unrhyw ddiben arall heb ganiatad ysgrifenedig gan Siop Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth University Students' Union Shop


5. Diogelwch a Phreifatrwydd Gwybodaeth

Mae Siop Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth University Students' Union Shop wedi ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth yr ydym yn ei chasglu amdanoch i brosesu archebion ac i ddarparu profiad siopa mwy personol. Ni chaiff unrhyw wybodaeth a gesglir gennym ni ar y safle hwn ei gwerthu, ei rhentu na'i benthyca fel y nodir yn benodol yn y Polisi Preifatrwydd hwn ac rydych chi wedi cydsynio iddi.

Caiff unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir i neu sydd i'w gasglu gan Siop Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth University Students' Union Shop ei rheoli gan Siop Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth University Students' Union.

Nid ydym yn casglu unrhyw wybodaeth ynglyn ag unigolion, ac eithrio lle caiff ei ddarparu'n benodol ac yn fwriadol, er enghraifft wrth archebu. Cyfeirir at y data yn y polisi hwn fel 'gwybodaeth bersonol'

Pan fyddwch yn archebu, byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol megis eich enw, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad danfon, rhif ffôn, rhif cerdyn credyd neu ddebyd a'r dyddiad y daw'r cerdyn i ben. Mae hynny'n caniatáu i ni brosesu a chwblhau eich archeb(ion) a'ch hysbysu ynglyn â statws eich archeb(ion).

Gellir hefyd defnyddio'r wybodaeth a gesglir i'n helpu i ddarparu gwasanaethau pellach ar y safle hwn yn y dyfodol.

Rydym yn cyflogi cwmnïau ac unigolion eraill i gynnal gweithgareddau ar ein rhan, (h.y. wrth gyflawni archebion), prosesu taliadau cardiau credyd, a darparu gwasanaeth i gwsmeriaid. Mae gan ein contractwyr fynediad i wybodaeth bersonol sy'n angenrheidiol i gyflawni eu gweithrediadau, ond ni chânt ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill.

Nid ydym yn gwerthu nac yn rhannu unrhyw wybodaeth ynglyn â chi fel defnyddiwr unigol o'r safle hwn oni chawn ganiatâd gennych i'w wneud.


6. Cwcis

Cwcis yw dynodwyr alffarifyddol y byddwn yn eu trosglwyddo i ddisg caled eich cyfrifiadur drwy eich porwr gwe er mwyn galluogi ein systemau i adnabod eich porwr a'n helpu i ddilyn ymwelwyr â'n safle, fel y gallwn ddeall yn well pa rannau o'n safle sy'n eich gwasanaethu orau.

Nid yw ein cwcis yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch, ond maent yn ein galluogi i ddarparu nodweddion megis ein galluogi i storio eitemau yn eich basged siopa rhwng ymweliadau.

Mae'r rhan fwyaf o borwyr gwe yn derbyn cwcis yn awtomatig, ond gallwch fel arfer newid gosodiadau eich porwr i atal hyn.

Nid yw'n bosibl prynu unrhyw beth oni fydd cwcis ar waith a buasem yn argymell eich bod yn eu gadael ymlaen.

Bydd y rhan "help" o'r bar adnoddau ar y rhan fwyaf o borwyr yn dweud wrthych sut i atal eich porwr rhag derbyn cwcis newydd, sut u gael y porwr i'ch hysbysu par fyddwch yn derbyn cwci newydd, neu sut i analluogi cwcis yn gyfangwbl. Gall analluogi cwcis olygu colli ymarferoldeb y wefan.


7. Diogelwch

Pan fyddwch yn archebu rydym yn cynnig i chi ddefnyddio gweinydd diogel. Mae'r meddalwedd gweinydd diogel (SSL) yn amgryptio'r holl wybodaeth yr ydych yn ei fewnbynnu cyn y caiff ei danfon i ni.

Mae ein trefn ddiogelwch yn golygu y gallwn ofyn am dystiolaeth hunaniaeth o bryd i'w gilydd wrth i chi gysylltu â ni cyn y gallwn ddatgelu gwybodaeth sensitif i chi.

Sicrhewch eich bod chi'n allgofnodi wedi i chi orffen defnyddio cyfrifiadur a gaiff ei rannu.

Nid oes rhaid i chi ddarparu Siop Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth University Students' Union Shop ag unrhyw ddarn o wybodaeth y gofynnir amdani, ond bydd rhaid i'ch cyfrifiadur dderbyn cwcis i'ch galluogi chi i archebu.


8. Cwynion

Bydd Siop Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth University Students' Union Shop yn ceisio delio â chwyn yn deg ac yn ddigonol. Byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy alwad ffôn neu e-bost ar bob cam a byddwn yn ceisio datrys eich cwyn yn llwyr o fewn 72 awr. Os nad ydych yn fodlon o hyd â'r ffordd y caiff eich cwyn ei ddelio ag ef, dylech ysgrifennu at:

Yr Adran Gwynion

Siop Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth University Students' Union Shop.

Campws Penglais

Prifysgol Aberystwyth University

Aberystwyth

Ceredigion

SY23 3DX

 

Neu ffoniwch +44 1970621725


9. Hoffwn Wybod Eich Barn

Os oes gennych unrhyw gwestiwn cysylltwch â ni ar undeb.siop@aber.ac.uk, neu drwy lythyr at y cyfeiriad uchod.

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576