Caiff eich Undeb ei lywodraethu a'i arwain yn strategol gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr. Yn y bôn, maent yn gyfrifol am sicrhau ein bod yn gweithredu'n unol â'n hamcanion elusennol. Mae 12 aelod ar Fwrdd Ymddiriedolwyr UMAber ac maent yn cyfarfod o leiaf pum gwaith y flwyddyn i gynnal ei fusnes ar eich rhan chi. Gallwch ddarllen y cofnodion ar gyfer pob cyfarfod ar waelod y dudalen hon. Dyma'r rheiny sy'n Ymddiriedolwyr ar y Bwrdd:
5 Swyddog Llawn Amser
2 Fyfyriwr Ymddiriedolwr
5 Ymddiriedolwr Allanol
Swyddogion Ymddiriedolwyr
Eich Swyddogion Ymddiriedolwyr yw'r 5 swyddog etholedig sy'n gweithredu fel eich prif gynrychiolwyr ac yn cyflawni rolau a chyfrifoldebau penodol o ddydd i ddydd. Cânt eu hethol yn flynyddol ac maent yn weithwyr cyflogedig a all ymgymryd â'r rôl naill ai drwy gymryd blwyddyn allan o, neu ar ôl gorffen, eu hastudiaethau.
Millie Hackett (Cadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr)
Nanw Hampson
Ffion Johns
Tanaka Chikomo
Esperanza Monnier​
Ymddiriedolwyr sy'n fyfyrwyr
Mae eich Myfyrwyr Ymddiriedolwyr yn fyfyrwyr etholedig sy'n ymgymryd â'r rôl hon yn wirfoddol a gallant wasanaethu hyd at ddwy flynedd.
Muhammed Fuadd - Ymddiriedolwr Israddedig
Tristan Wood - Ymddiriedolwyr Ôl-raddedig
Ymddiriedolwyr Allan
Caiff eich Ymddiriedolwyr Allanol eu recriwtio i ddod â phrofiad ac arbenigedd angenrheidiol i'r Bwrdd. Maent yn gweithio'n wirfoddol am gyfnod o hyd at bedwar blynedd. Gallant weini dau dymor a all fod yn olynnol neu beidio ond buasai rhaid i'n Pwyllgor Penodiadau a Llywodraethu gymeradwyo hyn.
Ryan Beasley
Alan Roberts
Debra Croft
Gwag
Daniel Fow
Cyfrifon Blynyddol AberSU
Cyfrifon Blynyddol AberSU Cliciwch yma i gael gafael ar ein datganiadau ariannol ar wefan y Comisiwn Elusennau.