Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig a deinamig i ymuno â'r tîm!
Dyma adeg gyffrous i ymuno ag undeb myfyrwyr uchelgeisiol, llawn hwyl ac i ddod yn rhan o'n teulu cyfeillgar yn Undeb Aberystwyth. Rydym yn gweithio er mwyn sicrhau bod myfyrwyr Aber yn caru bywyd myfyrwyr ac rydym wedi ennill nifer o wobrau fel sefydliad::
-
Sêr Ymgysylltu â Staff UCM 2023 (o ran bodlondeb staff)
-
Enillydd Bywyd Myfyrwyr Gwobrau Dewis Myfyrwyr What Uni 2023
-
Rhagoriaeth yn adroddiad SOS yr Effaith Werdd 2023 a 2024
-
42% o'n myfyrwyr wedi pleidleisio yn ein prif etholiadau
-
Cydnabyddiaeth gan yr UCM am ein hymgyrch costau byw, ymgyrch iechyd rhywiol a digwyddiadau denu diddordeb myfyrwyr – 2022
-
Enillydd Aelod Staff ac Ymgyrch y flwyddyn UCM Cymru 2022
-
Enillwyd statws Cyflogwr Blaenllaw gyda Chwarae Teg, yn ogystal â chyrraedd rownd derfynol Hyrwyddwr Cydraddoldeb Rhywedd 2020
-
Gwobr Cyfleoedd i Fyfyrwyr UCM Cymru 2018
-
Gwobr UCM 2018 Enillydd Gwobr y Pobl
-
Cwblhawyd UCM Ansawdd Undebau Myfyrwyr yn 2019 yn llwyddiannus ac enillwyd canlyniadau rhagorol a da iawn.
-
Rydym wedi arwyddo’r Siarter Cyflogaeth Feddylgar a’r Cod Gwallt Eurgylch
Rydym yn cynnig gwyliau hael, gweithio oriau hyblyg, a rhaglen cymorth i weithwyr, gyda llawer o gyfleoedd i ddatblygu a dysgu, cyfleoedd i fynychu cynhadleddau a chwilio am yr arfer gorau ac yn hybu llesiant y staff trwy eu galluogi i hawlio 2 awr yr wythnos o amser gwaith at weithgareddau llesiant.
I ymgeisio am unrhyw un o'r swyddi isod, llenwch ac anfonwch ffurflen gais at ceostaff@aber.ac.uk erbyn y dyddiadau cau isod.
Diogelu data: Gweler ein Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd Swydd yma
Cydlynydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli
Rydym yn chwilio am Gydlynydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli rhagweithiol a chreadigol i wella bywyd myfyrwyr drwy gefnogi a datblygu cymdeithasau a phrosiectau gwirfoddoli dan arweiniad myfyrwyr. Byddwch yn gyfrifol am ddatblygu grwpiau, hwyluso ein rhaglenni oriau gwirfoddoli a sgiliau, darparu hyfforddiant perthnasol, a sicrhau bod cymdeithasau a phrosiectau gwirfoddoli yn gweithredu’n effeithiol ac yn unol â’n gwerthoedd. Os ydych chi’n angerddol am feithrin cymunedau myfyrwyr bywiog, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Ffurflen Gais
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 09:00 ddydd Llun 9ed Mawrth 2026
Dyddiad cyfweliad: Dydd Gwener 13eg o Fawrth
Os hoffech sgwrs anffurfiol am y rôl, anfonwch e-bost at Lucie Gwilt, Pennaeth Cyfleoedd Myfyrwyr: leg13@aber.ac.uk
Dewch yn rhan o’n Tîm fel Cydlynydd Mewnwelediad!
Rydym yn chwilio am Gydlynydd Mewnwelediad i arwain ein gwaith casglu, dadansoddi a rhannu barn y myfyrwyr. Mae’r swydd hon yn sicrhau mai lleisiau myfyrwyr sy’n llywio ein blaenoriaethau, ein hymgyrchoedd a’n gwasanaethau, gan weithio’n agos gyda’n swyddogion, ein staff a’n cydweithwyr yn y Brifysgol.
Disgrifiad Swydd
Oriau: 36.5 awr yr wythnos tymor penodedig 8 mis
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 9yb dydd Llun 2il Chwefror 2026
Dyddiad cyfweliad: 12fed Chwefror 2026
I ymgeisio, llenwch y ffurflen gais isod a’i hanfon at ceostaff@aber.ac.uk
Ffurflen Gais
CYFLEOEDD GWIRFODDOL
Ai myfyriwr/wraig presennol wyt ti? Os nad oes gennym ni swyddi gwag ar hyn o bryd na swydd benodol nad yw’n taro, mae yna opsiynau eraill i’w hystyried.
Gall gwirfoddoli gynnig opsiwn amgen gwerthfawr i swyddi arferol, gan roi cyfle profiad ymarferol a fydd yn dy wneud yn fwy deniadol i gyflogwyr, ond hefyd gan gynnig y cyfle i fagu amryw o sgiliau a gwybodaeth wrth gefnogi eraill a’r amgylchedd.
Dyn ni hefyd yn awgrymu manteisio ar Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol. Maent yn gallu helpu meithrin dy sgiliau ymgeisio am swyddi, ysgrifennu CV, paratoi ar gyfer cyflwyniadau a chyfweliadau a chyngor cyffredin ar y broses recriwtio.
PAM GWEITHIO GYDA NI?
Yn ein Arolwg Ymgysylltiad Staff (a wnaed gan gwmni annibynnol allanol):
-
Dywedodd 100% o’r staff y byddent yn awgrymu’r sefydliad hwn fel lle da I weithio
-
Dywedodd 100% o’r staff fod eu rheolwr/wraig yn ymddiried ynddynt ac yn eu parchu.
-
Dywedodd 100% eu bod yn deall prif flaenoriaethau Undeb y Myfyrwyr a thrywydd y sefydliad
-
Dywedodd 100% o’r staff fpd Undeb y Myfyrwyr yn edrych ar ôl ein staff




 |
Mae ein gweithle yn hyrwyddo’r hawl i’n staff gofleidio pob steil gwallt Affro. Rydym yn cydnabod bod gwallt Affro-wead yn rhan bwysig o hunaniaeth hiliol, ethnig, diwylliannol, a chrefyddol ein staff Du, ac mae angen ei steilio’n benodol ar gyfer iechyd gwallt ac i’w gynnal.
Rydym yn dathlu gwallt Affro-wead a wisgir ym ymhob steil gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i, affros, locs (dreadlocks), gwallt wedi’i blygu (twists), plethau, cornrows, gwallt wedi’i raddoli (fades), gwallt wedi’i sythu drwy ddefnyddio gwres neu gemegau, gweadau, wigiau, sgarffiau pen, a phenwisgoedd Affro (Afro head wraps).
Yn y gweithle hwn, rydym yn cydnabod ac yn dathlu hunaniaethau ein cydweithwyr. Rydym yn gymuned sydd yn seiliedig ar ethos o gydraddoldeb a pharch lle nad yw gwead na steil gwallt yn effeithio ar allu staff i lwyddo.
|
| |
|