Dechrau Cymdeithas Newydd

 

A oes gennych chi ddiddordeb nad ydych chi'n teimlo y darperir ar ei gyfer ar hyn o bryd?

Neu gallwch fabwysiadu un o'n cymdeithasau gwag isod...

 

Gyda chefnogaeth o’r cychwyn cyntaf, rydym wastad yn awyddus i groesawu mwy o gymdeithasau i’r Gymuned Tîm Aber.~
I gychwyn arni, ewch i weld y fideo a’r wybodaeth isod...

Manteision dechrau Cymdeithas gydag Undeb y Myfyrwyr

 

Mae bod yn gymdeithas yn UM Aber yn golygu y gallwch wneud y gorau o'r manteision canlynol:

  • Cyfle i gymryd rhan yn Ffair y Glas bob blwyddyn
  • Tudalen gwe y gallwch ei theilwra at eich dibenion eich hun ar www.umaber.co.uk a chyfeiriad e-bost unigol @aber.ac.uk i gyfathrebu'n uniongyrchol â chorff y myfyrwyr
  • Swyddog sabothol llawn-amser a chefnogaeth gan staff
  • Cymorth ariannol ar gyfer y grwp, e.e. grantiau bob tymor, raffl gyda chyfle i ennill gwobrau, cystadlaethau cenedlaethol, a.y.b.
  • Cyllid tuag at gyfleoedd datblygu hyfforddiant ar gyfer unigolion o fewn y gymdeithas, trwy'r Gronfa Addysgu Hyfforddwyr, e.e. cymwysterau hyfforddi, cynadleddau, a.y.b.
  • Mynediad i gyhoeddusrwydd ar draws y campws ar gyfer gweithgareddau eich cymdeithas
  • Cyngor a chefnogaeth wrth drefnu digwyddiadau, pa gwmnïau i'w defnyddio, a.y.b.
  • Cydnabyddiaeth a gwobrau ar gyfer gwirfoddolwyr trwy Wobr Aber
  • Cyfleoedd am hyfforddiant achrededig a chyllid tuag at rai allanol, e.e. cymorth cyntaf
  • Defnydd o gyfleusterau’r Undeb a llogi bysiau-mini
  • Ymhlith llawer o fanteision eraill!

 

Y Broses ar gyfer Dechrau Cymdeithas

 

Cam 1

Llenwch y ffurflen “Clwb/Cymdeithas Newydd” ar Hyb Adnoddau Tîm Aber. Mae'r ffurflen yn gofyn i chi egluro beth fydd pwrpas eich cymdeithas; dylech gynnwys o leiaf 10 unigolyn a fydd â diddordeb mewn ymuno â'ch cymdeithas, a rhestru o leiaf y tri aelod craidd o’r pwyllgor (Llywydd, Ysgrifennydd a Thrysorydd).

Yna bydd y Tîm Cyfleoedd yn adolygu'ch cais. Byddwn yn gwirio addasrwydd eich cymdeithas er mwyn sicrhau:

  • Nad yw'n dyblygu cymdeithas sy'n bodoli eisoes
  • Nad yw'n peri risg i enw da’r Undeb, a'r gymuned ehangach
  • Bod ei brif amcanion er budd myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth

Unwaith i ni adolygu hyn, byddwn yn cysylltu â chi gyda'r canlyniad o fewn pythefnos.

 

Cam 2

Unwaith i ni gymeradwyo’ch cais, byddwn yn gweithio gyda chi i greu eich dogfennau craidd:

  • Cyfansoddiad
  • Cod ymddygiad
  • Asesiad Risg
  • Rhestr Offer

Ar yr un pryd, byddwn yn creu asedau eich cymdeithas:

  • Tudalen gwe
  • Cyfeiriad e-bost eich clwb/cymdeithas
  • Cyfrif Cyllid
  • Microsoft Teams

 

Cam 3

Cwblhewch yr Hyfforddiant Pwyllgor. Mae hyn er mwyn eich hyfforddi chi a’ch darparu â phopeth sydd angen i chi ei wybod am redeg cymdeithas a defnyddio asedau eich cymdeithas.

 

Cam 4

Ar ôl i chi gwblhau’r hyfforddiant rydych chi’n barod i gychwyn!

Gallwch chi ddechrau trwy:

  • Hysbysebu pwy ydych chi a dechrau denu aelodau
  • Archebu cyfleusterau’r Undeb/Prifysgol
  • Gwneud cais am grant cychwynnol
  • Estyn allan am nawdd

Am unrhyw beth sy'n gysylltiedig â rhedeg grwp myfyrwyr, ewch i Hyb Adnoddau Tîm Aber neu cysylltwch â'ch cydlynydd perthnasol!

 

Mabwysiadu Cymdeithas

 

Mae cymdeithasau'n mynd a dod; dyma'ch cyfle i fabwysiadu un o'n cymdeithasau gwag a dod â bywyd newydd iddi!

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn mabwysiadu un o'r cymdeithasau hyn, cysylltwch â'ch Swyddog Cyfleoedd Myfyrwyr (cyfleoeddum@aber.ac.uk) neu dewch i’n gweld ni yn y Swyddfa Cyfleoedd

  • Aber Bird Watch
  • Aber Macmillan
  • Anglican Society (AngSoc)
  • Anything Goes Society
  • Business & Careers Society
  • Chinese Culture Society
  • Circus Society
  • Feminist Society
  • Food Co-op
  • French Society
  • Global Students Society
  • Live Music Society
  • Marie Curie
  • Methodist Society
  • Nature Society
  • Organic Food Co-op
  • Oxfam
  • Paintball Society
  • Paranormal Society (Aberpara)
  • Parents in Education
  • Plaid
  • Poker Society
  • Real Ale
  • Sustainability Society
  • Travel & Tourism Society
  • Union & Liberty
  • Yes Myfyrwyr
  • Vegetarian & Vegan Society (VegSoc)

 

 

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'ch Swyddog Cyfleoedd Myfyrwyr (cyfleoeddum@aber.ac.uk) neu galwch heibio’r Swyddfa Cyfleoedd.

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576