Ein haddewid: “i’ch helpu i fagu eich sgiliau a’ch profiadau”

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

“Wythnos UMAber yn Dathlu” yw’r wythnos hon - y cyfle GORAU un i ddathlu popeth sy’n ymwneud â myfyrwyr Aber a byddwn yn dathlu’r rhain fesul Addewid Undeb Aberystwyth.

Rydym am i’n myfyrwyr ymfalchïo yn yr hyn maent yn ei gyflawni a bod ganddynt ystod bywiog o sgiliau a phrofiadau i deimlo’n ddigon hyderus i fynd y neu Blaenau ar eu siwrne nesaf, ble bynnag y bo.

Heddiw byddwn ni’n edrych yn ôl dros rai ffyrdd rydyn ni wedi “helpu i fagu eich sgiliau a’ch profiadau” y flwyddyn academaidd hon:

  • Etholwyd 260 o Gynrychiolwyr Academaidd ac mae 72% o’r rhain wedi mynychu hyfforddiant.
  • Hyd yn hyn, mae 660 myfyriwr wedi cofrestru i wirfoddoli trwy ein llwyfan wirfoddoli sydd ag ystod o gyfleoedd gwirfoddol yn y gymuned ac mae’r myfyrwyr hyn yn gweithio tuag at y Gwobr Aber. Mae 220 o’r myfyrwyr wedi cofnodi dros 15,000 o oriau gwirfoddoli.
  • Yn ystod Ffeiriau Gwirfoddoli a Lles Tymor 1 a Thymor 2 roedd dros 30 o ddeiliaid stondinau yn rhannu eu cyfleoedd gwirfoddoli a lles gyda myfyrwyr Aber.
  • Fe wnaethom gyflawni ein targedau ar gyfer myfyrwyr fel rhan o gyllid Grant WVCA gwerth £25,000. Mae'r cyllid wedi ein helpu i ehangu a sefydlu ein meysydd gwirfoddoli, gan ddarparu 10 cyfle ariannu i grwpiau myfyrwyr.
  • Roedd Wythnos Gwirfoddoli Myfyrwyr ym mis Tachwedd yn gyfle gwych i arddangos cyfleoedd Gwirfoddoli Undeb Aber, gan dynnu sylw at 3 gwirfoddolwr sy’n fyfyriwr a chynnal amrywiaeth o gyfleoedd a gweithgareddau gwirfoddoli: megis te parti yn y cartref gofal lleol, casglu sbwriel a digwyddiad rhwydweithio cynrychiolwyr academaidd.
  • Yn ystod y flwyddyn rydym wedi cynnal nifer o ddiwrnodau gweithredu; O blannu 420 o goed brodorol ar y campws i greu a chyflwyno 80 o gardiau nadolig i gartref gofal lleol yn nhymor 1.
    Ac yna yn ystod tymor 2 cawsom ddigwyddiad “Cariad Pet Therapy - Lleddfu straen arholiadau wrth gael dêt ‘da ci!”, te parti mewn cartref gofal, ambell diwrnod casglu sbwriel yn lleol a diwrnod yn helpu yn Dyfi Donkeys.
  • Eleni rydyn ni wedi darparu ystod o leoliadau gwaith i 8 o fyfyrwyr Aber a graddedigion diweddar trwy gynllun ABERforward y Brifysgol.

 

#UndebAberCelebrates #UndebAberYnDathlu

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576