“Wythnos Undeb Aber yn Dathlu” yw’r wythnos hon - y cyfle GORAU un i ddathlu popeth sy’n ymwneud â myfyrwyr Aber a byddwn yn dathlu’r rhain fesul Addewid Undeb Aberystwyth.
(heb glywed am addewidion Undeb Aberystwyth i fyfyrwyr - cymerwch olwg yma).
Gwyddem ni’n iawn bod i fywyd ei uchafbwyntiau a’i isafbwyntiau ac rydyn ni am fod yno i chi doed a delo.
Heddiw byddwn ni’n edrych yn ôl dros rai ffyrdd rydyn ni wedi “cefnogi myfyrwyr i fod yn hapus ac yn iach” y flwyddyn academaidd hon:
- Mae ein gwasanaeth cynghori wedi rhoi cymorth uniongyrchol i fyfyrwyr trwy 294 o achosion myfyrwyr hyd yn hyn eleni.
- Buodd aelodau ein A-Tîm yn cefnogi sawl agwedd ar gyfnod y croeso, yn enwedig gan roi croeso i fyfyrwyr newydd a’u teuluoedd, a chynnig cymorth trwy gydol y nos ochr yn ochr gyda St Johns a Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed. Rhwng popeth, maent wedi rhoi 650 awr o’u gwirfodd yn ystod cyfnod y croeso.
- Darparodd y Gwasanaeth Cynghori 320 o brydau am ddim i fyfyrwyr yn rhan o’r wythnos arian myfyrwyr fis Mawrth, gan gynnwys brecwast crempogau, sesiwn ddilyn rysáit daal coconyt, yn ogystal â chawl cennin a thato gyda ffrwythau ar gael yn rhad ac am ddim.
- Mae Gwasanaeth Cynghori Undeb Aber wedi cynghori, cefnogi a darparu nwyddau misglwyf ailddefnyddiadwy i 33 o fyfyrwyr eleni.
- Mae ein Gwasanaeth Cynghori wedi dosbarthu 7,658 condom a 2,798 pecyn liwb hyd yma eleni. Rydyn ni hefyd wedi rhoi i ffwrdd 238 prawf beichiogrwydd, a 58 prawf profi am HDR.
- Fis Ionawr, aeth aelodau ein A-Tîm ati i wirfoddoli 41 awr arall yn cefnogi croesawu myfyrwyr oedd yn teithio i’r Brifysgol ag awyren, neu drên a’u tywys o gwmpas y campws.
- Yn rhan o’n gweithgarwch Lleddfu Straen yr Arholiadau yn fis Ionawr, mynychodd 118 o fyfyrwyr ein digwyddiad Cariad Pet Therapy lle cawsant gyfle i roi cwtsh i gŵn cyfeillgar.
#UndebAberCelebrates #UndebAberYnDathlu