Mae Undeb Aber eisiau i fyfyrwyr garu bywyd myfyrwyr...
Mae Wythnos Undeb Aber yn Dathlu (3ydd – 9fed o Fai) yn gyfle i ni ddathlu a dweud diolch yn fawr i’r holl staff rhagorol a myfyrwyr anhygoel sy’n gwneud Undeb Aber yn lle gwych.
Beth sydd ymlaen yr wythnos hon?
Rydyn ni’n addo, trwy gydol yr wythnos hon, y byddwn ni’n rhannu pob stori, llwyddiant ac effaith gennych chi, ein myfyrwyr Aber, yn sgil popeth y buoch chi’n rhan ohono yn ystod y flwyddyn academaidd 2024-2025; rydyn ni am ddathlu’r rhain fesul addewidion Undeb Aber.
Dechreuodd yr wythnos dathlu gyda penwythnos rygbi Aber7s – penwythnos o gystadlaethau rygbi, cymdeithasu ac yn ffodus iawn ychydig o heulwen (cymrwch gipolwg ar ein tudalen Facebook am lluniau’r penwythnos).
Cynhelir Gwobrau Chwaraeon a Chymdeithasau Undeb Aber yn Undeb y Myfyrwyr o 18:30 ar ddydd Mercher 7fed o Fai.
Y noson wedyn (8fed o Fai), byddwn yn cynnal y Gwobrau Addysgu, Dysgu a’r Profiad Myfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr o 18:30.
*diolch i bawb sydd wedi enwebu eraill am y gwobrau uchod ac os na allwch chi ymuno â ni ar gyfer y gwobrau, cadwch olwg am ein cyfryngau cymdeithasol i weld cyhoeddiadau gwobrau yn ystod y digwyddiadau.
Ymunwch â ni
Rhannwch straeon eich llwyddiannau dros y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #UndebAberCelebrates #UndebAberYnDathlu