Wyth peth am ddim i’w wneud yn Aber!

officerblogwelsh

Wyth peth am ddim i’w wneud yn Aber!

Rydyn ni yma i’ch cefnogi i arbed arian pryd bynnag y bo modd, ni ddylech orfod gwario arian i gael amser da! Dyma restr o bethau y gallwch eu gwneud yn Aberystwyth nad ydynt gofyn dim arian Dim ond i chi gofio cadw golwg ar yr oriau agor ymlaen llaw… ac efallai ar ragolygon y tywydd.

Eisiau cael awyr iach?

  1. Ymweld â’r traeth
    • Mae dau draeth gwahanol yn Aberystwyth a’u hadnabyddir fel Traeth y Gogledd a Thraeth y De. Traeth y Gogledd sydd wrth y Pier ac yn fwy tywodlyd, ac ar y llaw arall mae Traeth y De, sydd fwy tawel ac yn garegog.
  2. Ymweld â’r Castell
    • Fe’i leolir ger Traeth y De, codwyd y castell ryw 700 mlynedd yn ôl ac mae bellach yn awyr agored. Ceir ddigonedd o feinciau i chi eistedd arnynt ac edmygu’r olwg ar weddill y dref.

Yn teimlo’n anturiaethus?

  1. Ymweld â Choedwig Penglais 
    • Waeth a ydych chi am fynd am dro hamddenol, neu am dro hir, mae Coedwig Penglais yn heddychlon â bywyd gwyllt o’i chwmpas, yn ogystal â golygfannau hardd lle gellir eistedd a gwylio’r dref.
  1. Dringo Consti
    • Gellir gweld y dref gyfan a’r môr o Ben Graig-Glais (Consti). Cofiwch y gall fod yn wyntog fyny fyn’co felly dewch â dillad twym (ac os oes gennych chi wallt hir, cofiwch ei glymu!). 

(Os ydych chi’n fodlon talu, mae hefyd ali bowlio bach, golff ffrisbi, a’r Camera Obscura (mwyaf y byd!) Gallwch hefyd dalu i deithio i’r top neu i lawr ar reilffordd clogwyn ffwniciwlar trydan hiraf Prydain.)

Sylwer - Does dim llawer o olau wedi iddi fachlud yng Nghoedwig Penglais a Consti, felly cofiwch gynllunio ymlaen llaw ac ewch tra bydd digon o olau dydd ar ôl.

Eisiau aros gartref?

  1. Ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru
    • Fe’i lleolir y tu ôl i’r Ganolfan Chwaraeon, adeilad hanesyddol trawiadol yw Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cewch ymweld â’i harddangosfeydd neu’r Ystafell Ddarllen am ddim, ac mae hefyd yn cynnig gweithdai a digwyddiadau am ddim y cewch gofrestru ar eu cyfer trwy ei gwefan.
  2. Ymweld â Llyfrgell Dref Aberystwyth
    • Mae llawer o fyfyrwyr yn anghofio ymweld â llyfrgell y dref, does ond i chi gofrestru i gael aelodaeth am ddim ac mae’n sicr yn werth cymryd golwg ar yr holl lyfrau sydd ganddi i’w cynnig.
  3. Ymweld â Chanolfan y Celfyddydau
    • Mae canolfan gelfyddydau fwyaf Cymru â’i lleoliad ar y campws. Yn ogystal â llawer o ddigwyddiadau sy’n gofyn tocyn, y caffi, y siop, y bar a’r sinema, mae gan Ganolfan y Celfyddydau dair oriel gelf a mynediad am ddim, gan gynnwys oriel seramig ar y llawr gwaelod.
  4. Joiwch Chwaraeon yng Nghanolfan Chwaraeon Aberystwyth
    • Os myfyriwr llawn amser yn llety’r brifysgol ydych chi, fe gewch fanteisio ar lawer o weithgareddau a chyfleusterau am ddim, ee y gampfa, y wal ddringo, y pwll nofio, y sawna a gwersi ffitrwydd. Cofiwch ddeffro eich aelodaeth ymlaen llaw.

Gyda’r argyfwng costau byw sydd ohoni, gall deimlo’n anodd i wneud pethau heb wario llawer o arian. Dyna pam ei bod hi’n bwysicach nac erioed i fynychu digwyddiadau am ddim pan allwch. Mae’r Undeb yn cynnig llawer o gyfleoedd i chi roi cynnig ar rywbeth newydd, a chael hwyl gyda ffrindiau, a chael seibiau haeddiannol oddi wrth eich cwrs. Dylech chi fanteisio ar yr Wythnos Groeso i roi cynnig ar gymaint o weithgareddau a chlybiau a chymdeithasau ag y gallwch. 

Wedi dweud hynny, peidiwch ag oedi cyn rhoi cynnig ar glwb neu gymdeithas newydd yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Bydd cymdeithasau a chlybiau yn aml yn gadael i chi drio sesiwn neu ddwy heb dalu am aelodaeth nes eich bod wedi penderfynu ar ymaelodi ai peidio. Peidiwch ag anghofio cadw llygad ar y cyfryngau cymdeithasol am ddigwyddiadau am ddim a gynhelir gan yr Undeb hefyd, ac mae’n werth cofio cysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori os ydych chi’n cael problemau ariannol. Cofiwch hefyd fynd i Hyb yr Hael a leolir y tu ôl i Ardal Danddaearol yr Undeb i gael hanfodion angenrheidiol am ddim a roddwyd gan fyfyrwyr eraill.

Dyma nodyn defnyddiol i’ch atgoffa i weld bob tro a oes disgownt i fyfyrwyr pan yn siopa yn y dref, a chofiwch ddod â’ch cerdyn Aber gyda chi yn brawf eich bod yn fyfyriwr.

Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau ar bethau am ddim yn Aber? Rhowch wybod yn y sylwadau.

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576