Undeb Myfyrwyr Aberystwyth yn ennill y Safon Effaith Werdd uchaf

officerblogwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth yn ennill y Safon Effaith Werdd uchaf.

I gydnabod yr ymgyrchoedd a phrosiectau cynaliadwy a fu ar droed yn ystod y flwyddyn academaidd 2022-23, fe ddyfarnwyd y safon ‘Rhagorol’ i Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ar ôl cyflwyno ei adroddiad Effaith Werdd cyntaf. Dyma’r safon uchaf y gellir ei gyflawni.

Mae’r Effaith Werdd (S. Green Impact), a drefnir gan ‘Students Organising for Sustainability (SOS-UK)’ yn rhaglen ddysgu a gwobrau o 12 mis sy’n cefnogi arferion cynaliadwyedd amgylcheddol a chymdeithasol mewn sefydliadau. Mae’n rhoi cyngor ar ffyrdd o wneud gwahaniaeth yn y gweithle a hefyd yn rhoi arweiniad ar sut mae mynd ati mewn ffordd hygyrch ond arwyddocaol, gan feithrin diwylliant cynaliadwy yn gyffredinol.

Arweiniwyd yr Effaith Werdd gan Ash Sturrock, Llywydd Undeb y Myfyrwyr 2022-23:

“Heb os, roedd cymryd rhan yn yr Effaith Werdd eleni yn fwy o her na’r disgwyl. Fodd bynnag, gyda chefnogaeth gan holl staff yr Undeb, rydyn ni wedi llwyddo i roi rhai newidiadau anhygoel ar waith yn yr Undeb a’r Sefydliad. Dwi wrth fy modd gyda’r canlyniad a gawsom (wedi fy siomi ar yr ochr orau) ond mae’n profi yr ymdrechion mawr ar droed gan Undeb Myfyrwyr Aberystwyth i achub ein planed.” – Ash Sturrock.

Dyma rai uchafbwyntiau a llwyddiannau o’n hadroddiad Effaith Werdd:

  • Cafodd myfyrwyr y cyfle i gymryd rhan mewn mentrau cynaliadwy trwy lawer o grwpiau ffocws a sesiynau datblygu gyda’r Brifysgol lle ei bod hi’n amlwg y bu gweithredu ar adborth. Hy y dolydd blodau gwylltion ar draws y Brifysgol.
  • Wedi helpu dros 400 o fyfyrwyr trwy’r Argyfwng Costau Byw gyda Hyb yr Hael (bwyd a hanfodion)
  • Lleihau’r gwastraff sy’n mynd i gladdfa sbwriel a hyrwyddo defnyddio pethau ail-law trwy Hyb yr Hael (dillad a nwyddau cartref).
  • Bu’r Undeb yn rhan o drafodaethau gyda’r Cyngor ynglyn â materion sbwriel lleol.
  • Roedd dros 40% o’r polisïau a basiwyd yn y Senedd yn amgylcheddol eu natur.
  • Sefydlu grwp gweithio gweithgar ar gyfer Undeb y Myfyrwyr i wella cynaladwyedd amgylcheddol.
  • Mae pob staff yr Undeb wedi cael hyfforddiant mewn materion amgylcheddol.
  • Bu cystadleuaeth Wythnos Werdd lle’r enillodd grwp myfyrwyr £1,000 ar gyfer digwyddiad cynaladwyedd.

Mae Undeb Myfyrwyr Aberystwyth yn bwriadu mynd ymhellach gyda’i ymdrechion cynaliadwy yn y flwyddyn academaidd i ddod wedi iddo ymrwymo’n ariannol i’r prosiect Effaith Werdd yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol diwethaf.

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576