Enw:
Millie Hackett
Swydd:
Cydlynydd Gwerthiannau Cryfyngau a Digwyddiadau
Ble mae dy gartref?
Ces i fy ngeni yn Bedford ond dwi’n byw yng Nghymru ers 2018.
Dyma dy bryd bwyd olaf ar y ddaear... beth sydd ar y fwydlen?
Llond hambwrdd siarciwteri o gaws, ffrwyth a chig wedi’i halltu â chaws i’w dipio ynddo a bara a pwdin taffi gludiog i orffen.
Y tu allan i'r gwaith, beth wyt ti’n ei wneud yn dy amser hamdden neu hobïau?
Dwi’n hoff o redeg, seiclo a phobi a phrofi gwahanol fwydydd o ledled y byd. Dwi wrth fy modd yn mynd i gyngherddau ac dwi’n disgwyl yn arw i fy hoff gerddorion ryddhau mwy o gerddoriaeth.
Beth wyt ti’n ei garu am weithio yn Aberystwyth?
NEU beth wyt ti’n gobeithio ei wneud yn ystod dy fisoedd cyntaf? (os yn berthnasol)
Dwi wrth fodd fy nghalon yn Aberystwyth gan fod y gymuned yma mor groesawus ac dwi’n gobeithio helpu myfyrwyr newydd i’w charu gymaint ag rwy’ innau’n ei charu!
Pe taset ti ddim yn dy rôl gyda’r Undeb... beth fyddet ti’n ei wneud?
Ryw swydd gorfforaethol ddienaid debyg iawn, hwre!
Cyn gweithio yma, oeddet ti wedi cael llawer o gysylltiad ag undeb y myfyrwyr neu grwpiau myfyrwyr?
Fi oedd Llywydd olaf Undeb Aber a bues i ynghlwm â sawl clwb ee Pêl-rwyd, yr Harriers ac ASS cyn hynny. Dwi ar bwyllgor yr Harriers eleni felly dwi’n gobeithio eich gweld chi’n rhedeg!
Rho ffaith ddiddorol neu randwm amdanat ti dy hun i ni...(rhywbeth a allai synnu pobl o’i glywed):
Mae Sabrina Carptener ar brig fy Spotify ers 4 blynedd erbyn hyn.
Pam wnest ti ymuno â’r tîm yma yn Undeb Aber?
Mae’n rhywbeth o ddiddordeb i fi a chaf weithio gyda’r tîm gwych yn Undeb Aber eto.