Enw:
Kirsty Usher
Swydd:
Y Cydlynydd Mewnwelediad
Ble mae dy gartref?
Aberystwyth
Cyflwyniad byr…
Merch leol ‘dw’i, gadawais i Aber lawer o weithiau cyn bwrw gwreiddiau yn y pendraw ag Awstraliad a ges hyd iddo wrth deithio! Dwi bellach yn briod gyda dau fachgen hardd sydd yr un mor ddigri ac annwyl fel ei gilydd.
Dyma dy bryd bwyd olaf ar y ddaear... beth sydd ar y fwydlen?
Siampên, gariad. A gwisg ysblennydd.
Y tu allan i'r gwaith, beth wyt ti’n ei wneud yn dy amser hamdden neu hobïau?
Fy nheulu. Gwisgoedd Natur. Gwisgoedd. Ffrindiau a hwyl.
Pe taset ti ddim yn dy rôl gyda’r Undeb... beth fyddet ti’n ei wneud?
Ffabiwlws.
Cyn gweithio yma, oeddet ti wedi cael llawer o gysylltiad ag undeb y myfyrwyr neu grwpiau myfyrwyr?
Do wir, dechreuais i astudio fel myfyrwraig hŷn pan oedd fy mab hynaf yn dri. Bues i’n gynrychiolydd myfyrwyr o’r cychwyn, mae undebau yn fy ngwaed. Mae cynrychiolaeth o bwys.
Rho ffaith ddiddorol neu randwm amdanat ti dy hun i ni...(rhywbeth a allai synnu pobl o’i glywed):
Gîc Sci-fi ‘dwi Myfyrwraig Phd. Gwniadwraig. Dwi am gael hyd i ffordd o gyfuno’r tri yna un dydd.
Pam wnest ti ymuno â’r tîm yma yn Undeb Aber?
Gan mai sefydliad ardderchog sy’n cyflawni gwaith gwych dros fyfyrwyr yw hwn. Bues i’n aros i gyfle godi yma ac ni allai’r rôl hon weddu i fy nghryfderau yn well.