Sbotolau ar Eleri Wyn, Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu

welsh

Sbotolau ar Eleri Wyn, Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Beth yw dy rôl yn Undeb Aber?

Pennaeth yr Adran Gyfathrebu ac Ymgysylltu – rwy’n rhannu gweithio’n rhan amser ar hyn y bryd ac yn ffodus o gael rhannu’r swydd â Cleo (ac allwn i erioed fod wedi gobeithio cael rhannu’r swydd gyda neb gwell). Mae rhan o fy swydd yn cynnwys gofalu am y wefan, y brandio, y cyfieithu, y cyfathrebu cyn ac yn ystod digwyddiadau allweddol a dathlu llwyddiannau ac effeithiau.

Ble mae dy gartref?

Bydd fy nghartref bob amser ar y fferm yng nghanolbarth Cymru - ond rydw i nawr yn gwneud ein tŷ yng Ngheredigion yn gartref gyda fy nheulu bach.

Dyma dy bryd bwyd olaf ar y ddaear... beth sydd ar y fwydlen?

Cinio cig oen (ond rhaid iddo fod yn gig oen o adref)

Y tu allan i'r gwaith, beth wyt ti’n ei wneud yn dy amser hamdden neu hobïau?

Fy hoff beth y tu allan i’r gwaith yw treulio amser gyda fy nheulu, yn enwedig gyda fy mhlant Harri a Casi. Rwy hefyd wrth fy modd yn ymweld â fy nheulu a fy ffrindiau, mynd am dro, canu gyda chôr lleol a byddaf yn tynnu llun o bob un dim (rwy byth a hefyd yn brin o le ar fy ffôn). Rwy hefyd yn gwirfoddoli ychydig o fy amser rhydd i helpu gyda’r tîm pêl-droed dan 6 lleol a rhedeg y grŵp babis lleol yn ein pentre unwaith yr wythnos.

Beth wyt ti’n ei garu am weithio yn Aberystwyth?

Rwyf wrth fy modd gallu mynd am dro ar lan y môr ar ôl diwrnod yn y gwaith... mae'n help mawr os ydych chi weithiau’n cael diwrnod anodd i fynd am dro ac anadlu awyr iach y môr.

Pe bai ti ddim yn dy rôl gyda’r UM... beth fyddet ti’n ei wneud?

Rwyf wrth fy modd yn gwneud fy mhrintiau a chardiau cyfarch fy hun fel anrhegion i ffrindiau neu ar gyfer achlysuron teuluol ... efallai y byddwn yn ddigon dewr i droi hyn yn fusnes bach.

Pa ran / rhannau o dy swydd wyt ti’n eu mwynhau fwyaf?

Dwi wrth fy modd bod pob diwrnod yn wahanol... does dim dau ddiwrnod yr un fath.

Cyn gweithio yma, oeddet ti wedi cael llawer o gysylltiad ag undeb y myfyrwyr neu grwpiau myfyrwyr?

Fel myfyriwr, doeddwn i ddim yn ymwneud â llawer o weithgaredd undeb myfyrwyr, ar wahân i fod yn rhan o weithgareddau a grwpiau UMCA. Er gwaethaf hyn, mae fy mhrofiad gwaith i gyd wedi bod yn gweithio i fudiadau democrataidd, ac mae'r tebygrwydd rhwng y rhain wedi bod yn ddefnyddiol.

Mae Undeb Aber... yn gymuned i fyfyrwyr Aber gwrdd â ffrindiau gydol oes

Nid yw Undeb Aber… yn far

Nid yw'r Haf yn 'amser tawel' i Undebau Myfyrwyr... beth wyt ti’n mynd i fod yn brysur yn gweithio arno dros yr Haf? 

Cynllunio ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf yn bennaf... ond gyda ffocws mawr ar gyfathrebiadau ar gyfer y glasfyfyrwyr (h.y. y calendr blynyddol, gwefan-fach-y-glas a gwybodaeth groeso i fyfyrwyr newydd). Hefyd diweddaru a chynnal gwefan Undeb Aber (sy’n cynnwys ychydig o olygu y llwyfannau ar gael a sicrhau bod ein staff yn cael yr hyfforddiant a’r mynediad sydd ei angen arnynt i ddiweddaru’r safle).

Student Bus Card

Llun 19 Hyd 2026

Cerdyn Bws

Llun 19 Hyd 2026

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576