Rydym wedi’n siomi gan y cyfarwyddyd diweddar gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac yn gwybod y bydd yn peri cryn ofid ac ofn i’n cymuned fyfyrwyr. Rydym wrthi’n gweithio trwy’r cyfarwyddyd i ystyried y ffyrdd gorau i gefnogi ein holl fyfyrwyr.
Rydym am bwysleisio i bawb yn adeilad Undeb Aberystwyth y cewch chi ddefnyddio’r toiled sydd orau gennych. Bydd unrhyw gwestiynu rhywedd yn cael ei ystyried yn aflonyddu* ac felly y caiff ei drin.
*O dan y Deddf Cydraddoldeb 2010, diffinnir aflonyddu fel ymddygiad dieisiau sy’n tarfu ar urddas rhywun neu’n meithrin awyrgylch bygythiol, gelyniaethus, sarhaus, Mae’n cynnwys ymddygiad sy’n ymwneud â nodwedd warchodedig, ymddygiad rhywiol dieisiau, a dial.
Pleidleisiodd myfyrwyr yn Senedd Undeb Aberystwyth o blaid gwrthsefyll ac ymgyrchu yn erbyn dyfarniad Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig ar Rywedd. Rydym yn annog pob myfyriwr/wraig i ysgrifennu at ein AS lleol i ymladd yn erbyn y dyfarniad hwn i sicrhau fod Aberystwyth a’r Deyrnas Unedig yn ehangach yn lle saff i bawb.
Ceir e-bost drafft isod:
Annwyl Ben Lake,
Rwy’n ysgrifennu atoch fel eich etholwr [eich enw llawn, eich cyfeiriad - rhaid rhoi’r rhain fel y caiff aelodau seneddol eich ateb] i ofyn i chi sefyll gyda’r Gymuned Drawsryweddol, Rhyngrywiol, Anghydffurfiol o Ran Rhywedd, yn y wlad, ac i chi fanteisio ar eich lle yn y Senedd i amddiffyn hawliau [y gymuned / i amddiffyn fy hawliau i a’m cymuned.]
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi fersiwn derfynol ei Gòd Ymddygiad newydd i’r Llywodraeth, a gaiff sêl bendith yr Ysgrifenydd Gwladol, Bridget Philipson, cyn bo hir. Yn ôl popeth rydym wedi’i glywed am y cod hwn, a’r dehongliad o benderfyniad y Goruchaf Lys yn For Women Scotland y mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi’i arddel, bydd yn nodi cam mawr yn ôl i hawliau pobl Draws, Rhyngrywiol a Anghydffurfiol o Ran Rhywedd yn y Deyrnas Unedig. Bydd y Cod Ymddygiad hwn, i bob pwrpas, yn gwahardd ystafelloedd ymolchi trawsryweddol, gan greu byd lle y gallai pobl draws gael eu cau allan neu eu gwahaniaethu bron ymhob agwedd ar fywyd cyhoeddus.
Er bod llawer o ffocws wedi bod ar yr agweddau sy’n ymwneud â mynediad i ystafelloedd ymolchi ar y cod hwn, bydd hefyd yn cyfyngu ar hawliau pobl Drawsryweddol, Rhyngrywiol ac Anghydffurfiol o Ran Rhywedd i gael gafael ar wasanaethau iechyd, tai unrhyw grwpiau menywod (waeth a ydy’r grŵp hwnnw yn croesawu pobl Draws ac Anghydffurfiol eu Rhywedd erioed) gwasanaethau gofal cymdeithasol, llochesau trais domestig, campfeydd, pyllau, sbâu. Bydd hefyd yn
ailddiffinio perthnasau lesbiaidd a hoyw, trwy roi’r gorau i amddiffyn menyw draws a menyw cis mewn perthynas o dan ddiffiniad y Deddf Cydraddoldeb 2010 o gyfeiriadedd rhywiol. Prin na fydd yr un agwedd ar fywyd na chaiff y Cod hwn effaith arno.
Fel [rhowch hunaniaeth os liciwch] rwy’n poeni am fy nghymuned / amdanaf fy hun. [Gellir manylu ar sut y mae hyn yn gwneud i chi deimlo]
Cafwyd 50,000 o ymatebion i ymgynghoriad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar y canllawiau drafft cynnar, a llawer o’r rheiny gan bobl Draws ac Anghydffurfiol o Ran Rhywedd a’r sefydliadau sy’n gweithio gyda hwy a’r bobl sy’n eu caru. Nid yw’r Cod hwn yn dod i rym ar ei ben ei hun; mae’r llywodraeth yn cael gwared ar hawliau pobl Draws, Rhyngrywiol, ac Anghydffurfiol eu Rhywedd fesul un bob dydd, gan gyfyngu ar eu gallu i gael gofal iechyd, a galluogi cam-drin ar-lein a wyneb yn wyneb. Rydym yn byw mewn adeg beryglus ac ansicr. Ar lefel fyd-eang, mae hawliau pawb LDHTC+ dan fygythiad. Dyma bryd i lywodraeth ddangos arweinyddiaeth gref ac i siarad dros y mwyaf bregus.
Rwy’n ysgrifennu i ofyn i chi fanteisio ar eich safle a’ch grym at wneud yr hyn y cawsoch eich ethol i’w wneud: cynrychioli fy llais i’r llywodraeth, pwyso arno i graffu’n iawn ar y Cod hwn, a deddfu i fynd i’r afael â’r sefyllfa drychinebus y mae ein cyfraith gydraddoldeb yn ei hwynebu, yn sgil y penderfyniad hwn gan y Goruchaf Lys a gweithredu’r Cod hwn. Ond, yn bwysicaf oll, i chi sefyll dros egwyddor, amddiffyn cymunedau sy’n agored i niwed rhag drwg a pheidio â gadael i’n hawliau gael eu cipio oddi arnom y tu ôl i’r llenni.
Cofion,
[Eich Enw]