Leah Crabbe, Myfyriwr Amaethyddol y Flwyddyn Gwobrau Ffermio Prydain

welsh

Mae’n bleser gan Undeb Aberystwyth gyhoeddi fod Leah Crabbe (sydd wrthi’n gwneud meistr integredig mewn Amaethyddiaeth) wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Myfyriwr Amaethyddol y Flwyddyn yng Ngwobrau Ffermio Prydain.

Er iddi ddod at amaethyddiaeth yn ddiweddarach mewn bywyd, syrthiodd Leah mewn cariad ag ef yn y Coleg yn 2021, ac ers hynny mae wedi dod yn rhan annatod o’i bywyd, gyda’r gobaith o barhau â gyrfa yn y maes trwy PhD. Mae Leah yn teimlo’n angerddol tuag at ddysgu eraill am amaethyddiaeth, y rheiny sydd yn y diwydiant a’r tu allan, gan greu Instagram at y diben hwn.

Mae Leah yn aelod o Glwb Hoci’r Menywod a’r Clwb Marchogol, ogystal â bod yn aelod, yn aelod pwyllgor, a’r llynedd, yn llywydd ar y Gymdeithas Amaethyddiaeth. Yn noson wobrwyo Undeb Aber yn Dathlu, dyfarnwyd Lliwiau Llawn y Gymdeithas iddi am ei “hymroddiad a’i hymrwymiad arbennig i’r gymdeithas a’i haelodaeth” ac am ei “menter ragorol trwy drefnu ystod eang o deithiau a roddodd gyfleoedd cynhwysol, di-alcohol i aelodau”. Yn ogystal â’r trefnu, Leah sydd hefyd wedi arwain sicrhau fod y teithiau yn fwy hygyrch ar gyfer ei haelodau”, meddai aelod o’r Gymdeithas Amaethyddiaeth. Cymerodd ran yn Her Cnydau Ceres am y ddwy flynedd ddiwethaf, gan gael 3ydd llynedd ac mae wrthi’n gweithio mewn cwmni cyfraith amaethyddol i helpu ehangu ei gorwelion ac i ennill mwy o ddealltwriaeth o’r sector.

“Mae Leah yn llwyr haeddu fod yn y rownd derfynol ar gyfer Myfyriwr Amaethyddol y Flwyddyn yng Ngwobrau Ffermio Prydain. Mae Leah yn flaengar iawn o fyfyrwraig, sy’n cyfrannu’n rheolaidd mewn darlithoedd a seminarau ac mae bob tro yn weithgar wrth geisio profiad gwaith gyda busnesau amaethyddol. Fel y Llywydd cynt ar Gymdeithas Amaethyddiaeth Aber, mae’n amlwg bod llawer o barch ati ymysg ei chyfoedion. Dyma ddymuno’r gorau iddi yn y seremoni wobrwyo fis Hydref.”

 Dr Cennydd Jones, Darlithydd Rheoli Glaswelltir Amaethyddol, Prifysgol Aberystwyth.

“Mae Leah Crabbe yn wirioneddol deilwng o ennill y wobr hon i gydnabod yr effaith y mae wedi’i chael. Mae wedi gweithio’n ofnadwy o galed i godi ymwybyddiaeth o amaethyddiaeth a ffermio. A hithau heb gefndir amaethyddol, bu rhaid iddi weithio’n galetach nac eraill o gefndiroedd amaethyddol i gyflawni’r hyn a wnaeth. Aeth Leah ati i greu tudalen Instagram i ddangos yr holl waith y mae wedi’i gyflawni ac i wella dealltwriaeth y cyhoedd ynghylch ffermio. Cyflawnwyd hyn oll ar yr un pryd â bod yn aelod gweithredol o gymdeithasau a gwneud amser i ffrindiau” ychwanega cyd-fyfyriwr.

Ynglŷn â’i henwebiad a’i bod ar y rhestr fer, meddai Leah: “Fi wnaeth enwebu fy hun! Bu bron i fi dynnu fy nghais yn ôl sawl gwaith oherwydd nad oeddwn i’n credu y byddwn i byth yn cyrraedd y rhestr fer. Fy narlithwyr wnaeth fy enwebu ar gyfer gwobrau eraill, a roddodd y ffydd ynof fy hun i beidio â rhoi’r gorau i’r cais. Nid un i roi fy enw ymlaen ydw’i fel arfer, felly daeth yn syndod i fi wrth gael yr alwad i ddweud fy mod i wedi cael fy newis ar gyfer y rownd derfynol.”

Mae pawb yn Undeb Aberystwyth yn gyffro i gyd dros Leah ac yn dymuno pob llwyddiant iddi yn seremoni Wobrau Ffermio Prydain fis Hydref! 

Llongyfarchiadau, Leah, a phob lwc!

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576