Mae'r bleidlais ar gau a’r pleidleisiau wedi cyfri (pleidleisiodd 35% o fyfyrwyr yn yr etholiad eleni), ac rydym wrth ein bodd i gyhoeddi canlyniadau Etholiadau Gwanwyn Undeb Aber 2026! Ar ôl cyfnod ymgyrchu cyffrous a heulog, rydym yn barod i gyflwyno'r Swyddogion Llawn Amser a’r Swyddogion Gwirfoddol sydd newydd eu hethol a fydd yn eich cynrychioli ac yn siapio bywyd myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.
Dyma fydd y criw cyntaf i ymgymryd a’r rolau swyddogion llawn amser newydd sbon.
Diolch i bawb a bleidleisiodd, ymgyrchodd, a chymerodd ran i wneud y broses ddemocrataidd hon yn un llwyddiannus!
Llongyfarchiadau i’r holl ymgeiswyr.
#EtholiadauAber
Swyddogion Llawn Amser
Byddant yn gweithio'n ddiflino i eirioli dros eich anghenion, cysylltu â'r brifysgol, ac arwain ymgyrchoedd effeithiol.
Dyma’r tîm swyddogion 2025-2026:
- Llywydd Academaidd Laura Young
- Llywydd Cyfleoedd Francesco Lanzi
- Llywydd UMCA Gwenno Roberts
- Llywydd Lles a Rhyddid Alice Leroy
Swyddogion Gwirfoddol
Mae ein Swyddogion Gwirfoddol yn rolau rhan-amser wedi'u llenwi gan fyfyrwyr sy'n gwirfoddoli eu hamser ochr yn ochr a’u hastudiaethau.
Dyma eich Swyddogion Gwirfoddol newydd:
- Cadeirydd yr Undeb Tomos Akash Padel
- Swyddog yr Iaith Gymraeg Elliw Mair
- Swyddog yr Amgylchedd a Chynaladwyedd Kyra Ellis
- Swyddog y Myfyrwyr LHDTC+ Bryn Talbot
- Swyddog y Menywod Natasha Goodwin and Ava Conlon
- Swyddog y Myfyrwyr Anabl Nick Green
- Swyddog y Myfyrwyr Croenddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Anisa Mudassar
- Swyddog y Myfyrwyr Rhyngwladol Ebenezer Smith Baidoo
- Swyddog Myfyrwyr Annibynnol Jack Squire
- Swyddog Y Myfyrwyr Hyn Mesh Tamilchelven
- Swyddog Myfyrwyr Traws ac o Rywedd Anghydffurfiol Rowan Peill
- Cyfadran y Dyniaethau Swyddogion Megan Taki Owen
- Cyfadran y Gwyddorau Swyddogion Tia Narayana
Beth sy'n digwydd nesaf?
Bydd ein Swyddogion Llawn Amser yn dechrau yn eu swydd ar y 1af o Orffennaf 2026, yn dilyn cyfnod trosglwyddo gyda'r tîm presennol. Bydd Swyddogion Gwirfoddol yn dechrau eu rolau ochr yn ochr â'u hastudiaethau ar ddechrau'r tymor academaidd nesaf.