Enw a Rôl
Tanaka, Swyddog Llesiant
Cyflwyniad byr…
Helo, Tanaka ‘dwi. Er mai pwnc eang yw llesiant, mae’n cael effaith ar fywydau myfyrwyr o ddydd i dydd gan gynnwys y rhan y maent yn chwarae yng ngweithgareddau’r undeb, academaidd a bywyd cymdeithasol. Eleni dwi’n gobeithio gwneud unrhyw gyfranogiad y gallaf i wella profiad myfyrwyr gyda llesiant a chymorth yn y Brifysgol.
Rhowch ffaith ddiddorol neu randwm amdanoch chi’ch hun i ni...
Wnes i ymgeisio am ddrama Ffrangeg ei hiaith ar gyfer myfyrwyr drama ar ddamwain.
Dewiswch dri gair sy’n eich disgrifio orau.
Digrif, Cyfeillgar, Diymffrost.
Eich pryd olaf ar y ddaear... Beth sydd ar y fwydlen? A pha 3 o enwogion fyddai’n cael eu gwahodd?
Lasgna gyda bara garlleg ar yr ochr. Keke Palmer, Damson Idris, Andrew Garfield
Pa ddiddordeb sydd gennych chi?
Dwi’n ysgrifennu cerddi, straeon, caneuon a chreu cynnwys TikTok digri’.
Pam wnaethoch chi ddewis sefyll dros y rôl hon?
Mae llesiant wrth wraidd brofiad bob dydd myfyrwyr, ac meddwl own i y byddai’n ffordd wych o gyfeirio myfyrwyr at gymorth ychwanegol a allai helpu gwneud Aber yn gartref oddi gartref.
At ba bethau ydych chi’n edrych ymlaen fwyaf eleni?
Gwneud gwahanaieth go iawn a fydd o fudd i eraill am flynyddoedd wedyn.
Pa achosion sydd o bwys i chi?
Cefnogi myfyrwyr rhyngwladol a creu mannau lle gall myfyrwyr heb eu cynrychioli deimlo’n fwy cartrefol.
Pa le yw eich hoff le i ymlacio yn Aberystwyth?
Y Promenâd
Pe gallech chi fod yn anifail p’un fysech chi a pham?
Eryr, gan ei bod yn gallu gweld y byd o olygfa trem aderyn.
Oes gennych chi unrhyw draddodiadau neu ofergoelion rhyfedd?
Ro’n i’n chwarae triciau ar fy nheulu a’m ffrindiau bob Ebrill Ffŵl gyda rhyw fath o ‘newyddion mawr’.
Beth yw eich barn amhoblogaidd chi?
Dyw nutella ddim cystal â’r disgwyl.
A oes yna un peth y dylai pawb ei wneud/cael profiad ohono o leiaf unwaith mewn bywyd?
Teithio i wahanol ran o’r byd. Mae’n gallu cael argraff fawr ar eich agweddau tuag at eich credoau a’ch daliadau a’u herio.
Dych chi ar eich ffordd i’r gwaith ar fore Llun... pa gân fydd yn y cefndir?
Bring the Whole Hood- Evie McKinney
Rhowch enghraifft o’ch hoff le i ymweld â fe a pham.
Ychydig o flynyddoedd yn ôl, wnes i ymweld ag Assisi, tref fach yn yr Eidal ac roedd y dirwedd yn un o’r mwyaf braf, tawel a chynnes i fi ei gweld erioed.