Enw a Rôl
Millie Hackett, Llywydd.
Cyflwyniad byr…
Heia, Millie ‘dwi, eich Llywydd Undeb Aber. Dwi yma i sicrhau bod lleisiau ac anghenion myfyrwyr yn cael eu cynrychioli a gwneud y campws yn fan cynhwysol i bawb.
Rhowch ffaith ddiddorol neu randwm amdanoch chi’ch hun i ni...
Mae gen i 4 dant babi o hyd
Dewiswch dri gair sy’n eich disgrifio orau.
Byr, Siaradus a Charedig.
Eich pryd olaf ar y ddaear... Beth sydd ar y fwydlen? A pha 3 o enwogion fyddai’n cael eu gwahodd?
Byswn i’n cael byrgyr halŵmi a hwmws gyda Sabrina Carpenter, Reneé Rapp a Dolly Parton oherwydd mai nhwythau ill tair yw fy hoff gantorion benywaidd a byddai’r canu yn anhygoel!
Pa ddiddordeb sydd gennych chi?
Rhedeg, beicio, pobi, a thrio gwahanol brydau o ledled y byd. Dwi hefyd yn hoff o fynd i gyngherddau felly dyma edrych ymlaen at fy hoff gerddorion ryddhau mwy o gerddoriaeth yn fuan.
Pam wnaethoch chi ddewis sefyll dros y rôl hon?
Dwi eisiau gwneud newid cadarnhaol yma yn Aberystwyth, i feithrin fy sgiliau a sicrhau bod myfyrwyr yn cael yr amser gorau posibl yma.
At ba bethau ydych chi’n edrych ymlaen fwyaf eleni?
Dwi’n edrych ymlaen at weithio ar brosiectau rwy’n angerddol amdanynt a bod ynghlwm â’r holl ddigwyddiadau hwyliog a gynhelir trwy gydol y flwyddyn fel Superteams!
Pa achosion sydd o bwys i chi?
Mae gen i ots am sicrhau cydraddoldeb (cydraddoldeb rhyweddol yn bennaf) ar draws y campws a gwneud yn siŵr bod lleisiau myfyrwyr yn cael eu clywed yn gyfartal.
Pa le yw eich hoff le i ymlacio yn Aberystwyth?
Dwi wrth fy modd gyda’r traeth, yn enwedig pan gaf i goelcerth gyda’m ffrindiau a rhostio marshmallows. Dwi’n mwynhau mynd i gael coffi ym Medina a chiniawa yn Lolfa’r Athro.
Pe gallech chi fod yn anifail p’un fysech chi a pham?
Llwynog Fennic fyswn i oherwydd eu bod yn dda am wrando ac yn fach fel fi.
Oes gennych chi unrhyw draddodiadau neu ofergoelion rhyfedd?
Fydda’ i byth yn cerdded o dan sgaffaldiau o gwbl.
A oes yna un peth y dylai pawb ei wneud/cael profiad ohono o leiaf unwaith mewn bywyd?
Ewch ar daith i rywle ar hap heb gynllun cadarn a gweld beth ddigwyddith.
Dych chi ar eich ffordd i’r gwaith ar fore Llun... pa gân fydd yn y cefndir?
Can we talk about Issac? - Rachel Chinouriri
Rhowch enghraifft o’ch hoff le i ymweld â fe a pham.
Yr Ynysoedd Caneri yw un o fy hoff lefydd erioed yn cael mynd ar wyliau o gwmpas yr ynysoedd yn nofio, bwyta, a thorheulo gyda’m teulu.