Enw a Rôl:
Laura
Y Llywydd Academaidd
Cyflwyniad byr…
Ers gorffen fy is-radd mewn Llenyddiaeth Saesneg, dwi wrthi’n dod â fy ngradd meistr mewn Astudiaethau Llenyddol i ben ac dwi’n edrych ymlaen at ddechrau ar fy swydd newydd yn yr Undeb!
Rhowch ffaith ddiddorol neu randwm amdanoch chi’ch hun i ni...
Un tro, chwaraeais i Abba ar y ffliwt wedi gwisgo fel wombat mewn sioe dalent ar gyfer Diwrnod Llyfrau’r Byd yn yr ysgol gynradd.
Dewiswch dri gair sy’n eich disgrifio orau.
Cyfeillgar
Brwdfrydig
Chwilfrydig
Eich pryd olaf ar y ddaear... Beth sydd ar y fwydlen? A pha 3 o enwogion fyddai’n cael eu gwahodd?
Gyozas llyseuol, katsw cyri pwmpen, maki afocado, ac efallai te iâ Byddwn i’n gwahodd David Tennant, Peter Capaldi a Bob Mortimer i gael tipyn o sbort.
Pa ddiddordebau sydd gennych chi?
Celf (dyfrlliw yn bennaf)
Darllen (myfyrwraig llenyddiaeth ydw’i wedi’r cyfan)
Llawer o bethau nerdi - Doctor Who, Moomins, Merlin, Rocky Horror Picture Show, The X Files.
Pam wnaethoch chi benderfynu sefyll am y rôl hon?
Am ei bod yn rôl a oedd o ddiddordeb i fi ers ychydig o flynyddoedd a chan fod fy astudiaethau ar fin dod i ben, dyma fi’n meddwl waeth i fi weld beth allaf i ei wneud!
At ba beth ydych chi’n edrych ymlaen fwyaf eleni?
Dwi’n edrych ymlaen at siarad gyda myfyrwyr ac aelodau o staff i ddeall yn well anghenion academaidd presennol myfyrwyr.
Pa achosion sydd o bwys i chi?
Dwi’n teimlo’n gryf tuag at sicrhau fod cyrsiau yn hygyrch ac yn gynhwysol.
Pa le yw eich hoff le i ymlacio yn Aberystwyth?
Unrhyw draeth! A hefyd galw heibio i gael diod oddi wrth ‘My Friend’s Place’ ar y ffordd.
Pe gallech chi fod yn anifail p’un fyddech chi a pham?
Gibon - dwi wrth fy modd gyda pha mor rhwydd y maen nhw’n symud a charwn i ddringo ar draws y coed.
Oes gennych chi unrhyw draddodiadau neu ofergoelion rhyfedd?
Ers ryw ddwy flynedd bellach, mae fy ffrindiau a finnau’n ceisio bwyta deuddeg grawnwin o dan y bwrdd am hanner nos ar Nos Galan (a’u rholio ar draws y llawr ar ddamwain gan amlaf).
Beth yw eich barn amhoblogaidd chi?
Ross yw cymeriad gwaethaf Friends (Dwi’n synnu at nifer y bobl sy’n anghytuno â fi ar hyn).
Oes yna un peth y dylai pawb ei wneud/cael profiad ohono o leiaf unwaith mewn bywyd?
Mae’n swnio’n ffôl ond rhowch amser i ddiddordeb ar eich pen eich hun! Mae’n hawdd anghofio gwneud amser i fwynhau eich cwmni eich hun, ond ei bod yn hollbwysig.
Dyma chi ar eich ffordd i’r gwaith ar fore Llun... pa gân fydd yn y cefndir?
Take Me Out gan Franz Ferdinand neu Judas gan Lady Gaga ond, unrhyw beth gan Lady Gaga, Marina, The Cure, Franz Ferdinand neu Olivia Rodrigo.
Rhowch enghraifft o’ch hoff le i ymweld â fe a pham.
Mae Gleann Comhann/Glencoe yn yr Alban mor hardd ac dwi wrth fy modd yn mynd ar daith ar gwch yn llynnoedd niwlog yr Alban. Prydferth iawn yw unrhyw le niwlog ac anghysbell yn yr Alban
CANLYNIADAU/CLIRIO:
Ddaethoch chi i Aber trwy’r clirio? Sut brofiad gawsoch?
Penderfynais wneud Aber fy mhrif ddewis o fewn ychydig o ddyddiau wedi mynychu heulog o ddiwrnod agored cyn cyflwyno fy mhenderfyniad UCAS ac dydw’i erioed wedi’i ddifaru.
Pam dewis Aberystwyth?
Mae’r dref mor hyfryd ac yn teimlo mor groesawus. Dwi’n teimlo rhyddid mawr trwy fod mor agos at y môr.
YR WYTHNOS GROESO:
Ewch i gymaint o weithgareddau â phosib a chwrddwch â chymaint o bobl ag y gallwch.
Beth fyddai eich cyngor gorau i unrhyw fyfyrwyr newydd sy’n dechrau yn Aberystwyth ym mis Medi?
Unwaith eto, trïwch siarad gyda chymaint o bobl ag y gallwch, a chofiwch fynd i Ffair y Glas waeth nad ydych chi’n siŵr a ydych chi am ymaelodi ag unrhyw glybiau neu gymdeithasau eto. Er ei bod hi’n bwysig cofio nad yw byth yn rhy hwyr i chi ddod i nabod pobl ar eich cwrs neu ymaelodi â chlwb neu gymdeithas newydd yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Peidiwch â digalonni wrth gymryd fod pawb wedi cael hyd i’w lle, mae’r rhan fwyaf o bobl eisiau gwneud ffrindiau newydd!
Beth yw eich hoff atgof o’r Wythnos Groeso?
Debyg mai Parti Diweddglo y Glas fyddai - roedd yn ddathliad hwyliog i ddod â’r wythnos i ben a pharatoi’r meddwl at ddechrau darlithoedd a seminarau.
TAI:
Beth yw eich cyngor ar dai/byw gyda ffrindiau i Aber?
Byddwch glir gyda’ch ffiniau Caredigrwydd yw eglurdeb Mae modd i chi fod yn ffrindiau gyda phobl a ddim eisiau siarad â nhw o hyd. Cofiwch orffwyso!
ARHOLIADAU:
Beth yw eich cyngor ar ymdopi â straen yr arholiadau?
Gwnewch gynlluniau neu ystyriwch wobrau i edrych ymlaen atynt a pheidiwch â theimlo’n euog am gael egwyl neu bydd ansawdd eich gwaith yn ofnadwy oherwydd eich bod wedi cael eich gorlethu. Ymddiriedwch yn eich gallu i ddeall eich terfynau a phan fydd angen egwyl arnoch. Efallai bydd angen i chi roi cynnig ar wahanol ffyrdd o weithio.
ETHOLIADAU:
Beth yw eich cyngor ar sefyll yn etholiadau Undeb Aber?
Siaradwch, siaradwch, siaradwch â phobl! Os ydych chi’n deall pryderon a helyntion eraill, bydd o fudd wrth i chi siapio eich ymgyrchu a phenderfynu beth fydd testun eich sylw os cewch eich ethol.
COSTAU BYW:
Oes gennych unrhyw gyngor ar arbed arian oedd o fudd i chi tra’n fyfyriwr?
Ewch siopa yn y noswaith fel y bydd mwy o bethau ar ddisgownt i’w cael.
Hoff bryd rhad i’w goginio?
Omled caws gyda sbigoglys, tomatos, a rap tortila yw un o fy hoff brydau i’w baratoi. Efallai gyda thamaid o fara menyn, neu ragor o lysiau.
ABER:
Ble mae eich hoff le am fwyd a’ch hoff gaffi yn Aber?
Mae Medina yn hyfryd! Dwi hefyd wrth fy modd gyda Greggs bob tro.
Sut byddech chi’n treulio eich diwrnod delfrydol yn Aber?
Ar y traeth gyda ffrindiau, a chael hufen iâ a sglods. A mynd i’r arcêd ac am ddiod i Inn On i goroni’r cyfan.
Beth yw eich hoff beth i’w wneud yn Aber?
Bod ar y traeth gyda ffrindiau, efallai darllen neu nofio, neu ar ddiwrnod glawog, mynd i siopau elusennol. Mae cymaint o siopau elusennol yn Aber.