Dewch i nabod Gwenno

officerblogwelsh

Enw a Rôl

Gwenno Roberts – Llywydd UMCA

Cyflwyniad byr...

Dwi’n dod o Gaerfyrddin yn wreiddiol, ac wedi treulio’r tair blynedd diwethaf yn astudio’r Gymraeg yma yn Aber.  

Rhowch ffaith ddiddorol neu annisgwyl amdanoch chi’ch hun…

Rydw i wedi cynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth gymnasteg o’r blaen (yn anffodus, sbel yn ôl erbyn hyn).

Dewiswch dri gair sy’n eich disgrifio orau.

Cymraes, brwdfrydig, dibynadwy

Eich pryd olaf ar y ddaear... Beth sydd ar y fwydlen? A pha 3 o enwogion fyddai’n cael eu gwahodd?

Cinio Dydd Sul gyda Mared, Sam Claflin a Ruth Jones.

Pa ddiddordebau sydd gennych chi?

Dwi’n berson cerddorol iawn ac yn mwynhau canu’r piano yn ogystal â chanu a chyfeilio mewn corau. Dwi hefyd yn ferch fferm ac yn mwynhau helpu gyda’r defaid a’r gwartheg pan fyddai adref. 

Pam wnaethoch chi benderfynu sefyll am y rôl hon?

Dwi’n Gymraes i’r carn, ac yn rhywun sy’n hynod o falch cael byw fy mywyd trwy gyfrwng y Gymraeg. Tra’n y brifysgol, fe wnes i daflu’n hun i bob agwedd o UMCA, ac rwy’n hynod ddiolchgar am yr holl brofiadau dwi wedi’u cael dros y dair blynedd diwethaf. Rwy’n edrych ymlaen am y flwyddyn i ddod er mwyn parhau i warchod UMCA a’r Gymraeg yma’n Aber.

At ba beth ydych chi’n edrych ymlaen fwyaf eleni?

Y ddawns rhyng-gol – dyma un o uchafbwyntiau’r calendr yn Aber.

Pa achosion sydd o bwys i chi?

Dwi’n angerddol iawn dros warchod y Gymraeg a’r diwylliant, ac yn credu’n gryf dylai pawb gael mynediad at adnoddau yn eu mamiaith.

Pa le yw eich hoff le i ymlacio yn Aberystwyth?

Chips a pheint ar y pier gyda’r machlud. 

Pe gallech chi fod yn anifail p’un fysech chi a pham?

Dolffin – mae’r syniad o nofio a neidio dros y tonnau yn lot o hwyl!

Oes gennych chi unrhyw draddodiadau neu ofergoelion rhyfedd?

Dwi byth yn gadael volume y teledu ar odrif.

Beth yw eich barn amhoblogaidd chi?

Dwi’n caru pinafal ar bitsa!

Oes un peth y dylai pawb ei wneud/rhoi cynnig arno o leiaf unwaith mewn bywyd?

Mynd i’r Eisteddfod – boed yn siarad Cymraeg ai peidio, mae’n uchafbwynt yng nghalendr Cymru am reswm!

Dyma chi ar eich ffordd i’r gwaith ar fore Llun... pa gân fydd yn y cefndir?

Grimaldi - Bromas

Rhowch enghraifft o’ch hoff le i chi ymweld â fe a pham.

Fe es i i dref fechan yn Sbaen o’r new Calpe gyda fy ffrindiau. Roedd e mor brydferth ac yn gyfle gwych i ymdrochi mewn diwylliant gwahanol am wythnos!


CANLYNIADAU/CLIRIO

Pam dewis Aber?

I fi, roedd y lleoliad yn bwysig. Doeddwn i ddim yn gallu dychmygu fy hun yn byw mewn dinas fawr na mynd yn rhy bell o adref, ac felly roedd Aber yn ddewis perffaith i mi, gan ei fod yn dref mor brydferth yng nghalon Cymru.

YR WYTHNOS GROESO:

Sut mae gwneud ffrindiau yn ystod yr Wythnos Groeso?

Ewch i gymaint o ddigwyddiadau ag sy’n bosib! Er ei bod hi’n naturiol peidio mynd i bob dim yn ystod wythnos y glas oherwydd ei fod yn gallu bod yn llethol, gwnewch eich gorau. Fe fydd cymaint o ddewis o ddigwyddiadau, a chyfle i gwrdd â phobl o bob cefndir.

Beth fyddai eich cyngor gorau i unrhyw fyfyrwyr newydd sy’n dechrau yn Aberystwyth ym mis Medi?

Peidiwch â panico! Yn y mis yn arwain at symud i Aber, roedd yr holl nerfau’n cael y gorau ohona i. Ond, mae cymuned gref ac agos yma sy’n barod i’ch cefnogi o’r eiliad yr ydych chi’n glanio yma.

Beth yw eich hoff atgof o’r Wythnos Groeso?

Gig Sŵn Wythnos y Glas. Ar gyfer rhan o’r gân olaf yn y gig, daeth prif gantor Gwilym allan i ganol y dorf, ac roeddem ni gyd, o’r flwyddyn gyntaf i’r drydedd yn dawnsio mewn cylch o’i gwmpas. Roeddwn i’n ffan mawr o’r band ar y pryd ac ar ben y byd am y peth! 

TAI:

Beth yw eich cyngor ar dai/byw gyda ffrindiau i Aber?

Amynedd! Yn enwedig yn y flwyddyn gyntaf, mae gan bawb wahanol syniadau ar lendid a lefelau sŵn ac mae’n cymryd amser i addasu a chytuno ar y pethau yma. 

Ond, os cewch chi’r cyfle i symud i mewn gyda’ch ffrindiau gorau yn yr ail neu’r drydedd flwyddyn – gwnewch! Mae fy atgofion gorau wedi dod o fyw, coginio a chwarae wii yn ein tŷ ni.

ARHOLIADAU:

Beth yw eich cyngor ar ymdopi â straen yr arholiadau?

Balans. Does dim disgwyl i chi adolygu bob awr o bob dydd. Gweithiwch rhywfaint o’r diwrnod, ond ewch am wâc, ewch am ddiod ac ymlaciwch gyda’ch ffrindiau hefyd.

ETHOLIADAU:

Beth yw eich cyngor ar sefyll yn etholiadau Undeb Aber?

Ewch amdani!

COSTAU BYW:

Oes gennych unrhyw gyngor ar arbed arian oedd o fudd i chi tra’n fyfyriwr?

Rhowch eich benthyciad myfyriwr mewn cyfrif banc ar wahan - fyddwch chi’n gallu rheoli, cynllunio a gwylio yn union faint chi’n gwario.

ABER:

Ble mae eich hoff le am fwyd a’ch hoff gaffi yn Aber?

Dwi’n mwynhau mynd i Medina i wneud gwaith, yn enwedig achos mai nhw sydd â’r matcha gorau yn fy marn i! Dwi hefyd yn hoff o gaffi Y Gornel, mae’r bwyd yn hyfryd ac yn newid o wythnos i wythnos.

Sut byddech chi’n treulio eich diwrnod delfrydol yn Aber

Cysgu i mewn, deffro a gwneud ychydig o pilates cyn brunch. Yna, mynd i gaffi ac ymgolli fy hun mewn llyfr am ychydig oriau. Yna gyda’r nos, wâc ac ychydig o ddiodydd ar y prom gyda’r machlud, cyn mynd yn ôl i’r tŷ i chwarae wii a gwylio ffilm gyda’r hwyr.

Beth yw eich hoff beth i’w wneud yn Aber?

Wâc ar y prom gyda’r machlud.

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576