Dewch i nabod Francesco

officerblogwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Enw a Rôl

Francesco Lanzi

Llywydd Cyfleoedd

Cyflwyniad byr…

Heia, fi yw Llywydd Cyfleoedd Undeb Aber, sy’n golygu ein bod ni am gael llawer o sbort gyda’n gilydd

Rhowch ffaith ddiddorol neu annisgwyl amdanoch chi’ch hun…

Dechreuais i yn y Brifysgol pan o’n i’n 17 ac roedd Tesco yn pallu caniatáu i fi brynu cyllyll menyn.

Dewiswch dri gair sy’n eich disgrifio orau.

Un wnaiff bopeth ond y peth mae i fod i’w neud, digri, Eidalwr

Eich pryd olaf ar y ddaear... Beth sydd ar y fwydlen? A pha 3 o enwogion fyddai’n cael eu gwahodd?

Cappelletti in brodo, math o basta o fy mro enedigol. Dwi’n gwahodd Zara Larsson y GAFR gen i (y Gorau A Fu ‘Rioed), Ghali (cantor o’r Eidal) a Will Wight (fy hoff awdur)

Pa ddiddordebau sydd gennych chi?

Dwi wrth fy modd yn darllen, gwirfoddoli a’r rhan fwyaf o chwaraeon yn gyffredinol

Pam wnaethoch chi benderfynu sefyll am y rôl hon?

Am i fi fod wrth fy modd gyda’r Undeb ac yn cymryd rhan ynddo ers fy mlwyddyn gyntaf, a daeth yn rhannol yn gam naturiol ymlaen ac yn freuddwyd gen i am ychydig o flynyddoedd

At ba beth ydych chi’n edrych ymlaen fwyaf eleni?

Superteams, dydych chi ddim callach o ran beth sydd ar y gweill i chi

Pa achosion sydd o bwys i chi?

Mae gen i ots mawr am fyfyrwyr rhyngwladol, fel un fy hun, mae gen i ots am athletwyr-myfyrwyr a’r heriau ynghlwm, ac ers dod yma, dwi wedi dod i wirioni ar Gymru a’i phobl.

Pa le yw eich hoff le i ymlacio yn Aberystwyth?

Ga’ i ddeud cael cwsg 3am ar soffa yn y llyfrgell tra’n gohirio cyflwyno asesiad erbyn 9am? Na? Iawn. Yna, fe ddwedwn i, am wn i, mai yr Undeb a’r ardal danddaearol yw hi, mae gen i atgofion da o gymdeithasu yno a finnau’n ffrindiau gyda’r tîm swyddogion cynt.

Pe gallech chi fod yn anifail p’un fysech chi a pham?

Dolffin i fi gael treulio amser gyda Zara Larsson. Neu aderyn os na, gan anhygoel fyddai cael hedfan.

Oes gennych chi unrhyw draddodiadau neu ofergoelion rhyfedd?

Dwi’n gwrthod prynu pizza yn y Deyrnas Unedig lol

Beth yw eich barn amhoblogaidd chi?

Mae’n gas gen i ddeallusrwydd artiffisial cynhyrchiol am ei fod yn dwyn gwaith oddi ar bobl, dylid lleihau defnydd ohono os nad rhoi’r gorau iddo’n llwyr.

Oes un peth y dylai pawb ei wneud/rhoi cynnig arno o leiaf unwaith mewn bywyd?

Mynd tramor a dysgu iaith arall, mae’n agor eich byd. Go iawn lol

Dyma chi ar eich ffordd i’r gwaith ar fore Llun... pa gân fydd yn y cefndir?

Bimbi – Charlie Charles, darn sylfaenol o gerddoriaeth Eidalaidd o 2010

Rhowch enghraifft o’ch hoff le i chi ymweld â fe a pham.

Dwi am fod yn hynod sentimental a deud Cymru yn gyffredinol, ond do’n i ddim yn disgwyl ei charu hi cymaint ag a wnes i cyn dod yma, dwi wedi syrthio mewn cariad â hi a phetasai’r dewis gen i, byddwn i wrth fy modd yn byw yma am weddill fy oes.


CANLYNIADAU/CLIRIO:

Ddaethoch chi i Aber trwy’r clirio? Sut brofiad gawsoch?

Na

Pam dewis Aber?

Gan ei fod y gwrthwyneb i ddinas fawr, yr union beth sydd ei eisiau ar rai. Cymuned lai lle mae pawb yn nabod ei gilydd ydyn ni, ac un o’n cryfderau mwyaf yw hynny.

YR WYTHNOS GROESO:

Sut mae gwneud ffrindiau yn ystod yr Wythnos Groeso?

GWNA GWNA GWNA GWNA bethau, PAID ag aros gartref. Bacha ar y cyfleoedd, rho gynnig ar glybiau, cer allan, cer am dro. Fel rheol, dyw’r pysgotwr ddim am ddal y pysgodyn os ydy fe ar yr M4. Ok, debyg nad yw’r trosiad yn gweithio ond ‘dych chi’n deall beth sydd gen i. Gwnewch bethau

Beth fyddai eich cyngor gorau i unrhyw fyfyrwyr newydd sy’n dechrau yn Aberystwyth ym mis Medi?

1 - mynycha dy sgwrs, maen nhw’n wirioneddol (waaaaawwww) o help mawr.

2 - ymuna â chlybiau, gweler uchod

3 - os wyt ti’n anghyfforddus, neu’n hiraethu am gartre. Mae hynny’n iawn, mae’n rhan o adael y nyth ac mae’n iawn i deimlo fel yna.

Beth yw eich hoff atgof o’r Wythnos Groeso?

Cwrddais i â rhywun o fflat ffrind ar hap gan fy mod i yn eu cegin, ac erbyn diwedd y noson dyma fi’n gwylio Ice Age 3 gyda grŵp yn Fferm Penglais lol.

TAI:

Beth yw eich cyngor ar dai/byw gyda ffrindiau i Aber?

Dewch i’r sêl fawr, mae cymaint o bethau am ddim y mae myfyrwyr sydd wedi graddio wedi’u gadael i chi fynd â chi, bydd yn arbed cymaint o arian i chi.

Dysgwch gael sgyrsiau anodd gyda’r bobl yn eich llety, os oes rhywbeth sy’n peri i chi deimlo’n annifyr neu yn eich gwylltio mae’n well siarad amdani na gorfod byw gyda’r pryder yna am weddill y flwyddyn.

ARHOLIADAU:

Beth yw eich cyngor ar ymdopi â straen yr arholiadau?

Byddwch mor flinedig nes na fyddwch chi’n teimlo’r straen dim mwy. Tynnu coes. Falle. Na, fy nghyngor i yw codwch yn gynnar ac ewch i’r llyfrgell, a chofiwch chi hyn - GYDA GRŴP O BOBL, i adolygu. Mae’r cymdeithasu a gweld eich bod chi i gyd yn yr un sefyllfa bob tro wedi helpu llacio straen.

ETHOLIADAU:

Beth yw eich cyngor ar sefyll yn etholiadau Undeb Aber?

Sefwch, cyfle anhygoel yw hwn ac mae wedi agor cymaint o ddrysau i fi.

Yn ystod yr etholiadau, dwedwn i mai sgwrsio gyda phobl yw’r rhan bwysicaf o ymgyrch

COSTAU BYW:

Oes gennych unrhyw gyngor ar arbed arian oedd o fudd i chi tra’n fyfyriwr?

Manteisiwch ar aps fel Too Good To Go, cewch ambell bryd rhad, mynnwch eich pas teithio, gan ei fod yn caniatáu i chi fynd ar y bws am £1 am weddill eich gradd.

Hoff bryd rhad i’w goginio?

Pasta a thiwna, os ydych chi’n teimlo’n ffansi gallwch ychwanegu parmesan ac olew, ond bydd yn iawn gyda’r ddau yna yn unig lol. Ddim y gorau, ond mae’n llenwi bol ac oedd o gymorth mawr lol

ABER:

Ble mae eich hoff le am fwyd a’ch hoff gaffi yn Aber?

Ga’ i ddeud fy nghegin? Digywilydd yw hynny meddech chi? Ok ok gwell peidio. Dwi’n eithaf hoff o’r caffis brecwast bach annibynnol fel Little Devil a’i debyg.

Sut byddech chi’n treulio eich diwrnod delfrydol yn Aber?

Codi’n hwyr, brecwast yn Sophie’s neu Medina neu rywbeth, bydd ffrindiau i gyd yno, diogi ar y traeth, coelcerth, ac wedyn ewn ni allan.

Beth yw eich hoff beth i’w wneud yn Aber?

Cysgu. Na, chwaraeon yn gyffredinol debyg, dwi wrth fy modd yn mynd i hyfforddiant a chwarae o gwmpas gyda’r tîm.

Comments

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576