Enw a Rôl
Ffion, Swyddog Cyfleoedd.
Cyflwyniad byr…
Heia, Ffion ‘dwi, eich Swyddogion Cyfleoedd 25/26. Ar ôl bod yn Aber am 4 mlynedd, roeddwn i eisiau parhau i fod ynghlwm ag UM a grwpiau myfyrwyr ac eisiau bod yn llais i’r myfyrwyr. Fy ngobaith eleni yw fy mod i’n gwneud gwahanaieth a dod yn rhywun y mae myfyrwyr yn teimlo’n gyfforddus i troi atynt am unrhyw help beth bynnag y bo.
Rhowch ffaith ddiddorol neu randwm amdanoch chi’ch hun i ni...
Fy mhrofiad cyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth oedd yn Rhaglen Haf y Brifysgol yn 2019.
Dewiswch dri gair sy’n eich disgrifio orau.
Siaradus, positif, ac allblyg
Eich pryd olaf ar y ddaear... Beth sydd ar y fwydlen? A pha 3 o enwogion fyddai’n cael eu gwahodd?
Madarch garlleg, stêc a sglodion ac eton mess. Alison Hammond, Aoife O’Farrell a Harry Styles
Pa ddiddordeb sydd gennych chi?
Dwi’n gwneud cynnwys ar-lein, fideos yn ymwneud â ffasiwn/bywyd. Rwy hefyd yn caru codi hwyl (cheerleading) a choginio.
Pam wnaethoch chi ddewis sefyll dros y rôl hon?
Roedd yn gyfle cyffrous a meddwl oeddwn y byddai’n ffordd wych o aros yn Aber.
At ba bethau ydych chi’n edrych ymlaen fwyaf eleni?
Cynnal yr holl ddigwyddiadau ar gfyer ein myfyrwyr ee Superteams a Sialens Aber
Pa achosion sydd o bwys i chi?
Gwella y cyfleusterau chwaraeon a sicrhau bod ein myfyrwyr yn teimlo eu bod yn perthyn.
Pa le yw eich hoff le i ymlacio yn Aberystwyth?
Allan ar y pier yn yr haf
Pe gallech chi fod yn anifail p’un fysech chi a pham?:
Aderyn o achos y carwn i allu hedfan, byddwn yn ymwelad â phob gwlad
Oes gennych chi unrhyw draddodiadau neu ofergoelion rhyfedd?
Gwnaeth fy ffrindiau a fi nod o fynd allan bob Llun yn ystod yr Wythnos Groeso gan mai dyma’r diwrnod y cwrddom ni â’n gilydd yn ein blwyddyn gyntaf
Beth yw eich barn amhoblogaidd chi?
Peth cas yw mayo. Dwi’n anodd fy mhlesio o ran bwyd ond mayo yw’r unig beth sy’n wirioneddol gas gen i, mae’n codi cyfog arnaf.
A oes yna un peth y dylai pawb ei wneud/cael profiad ohono o leiaf unwaith mewn bywyd?
Chwaraeon newydd. Gall bod â diddordeb sy’n eich cadw’n heini eich helpu i deimlo gymaint yn well a gall eich helpu i gwrdd â chymaint o bobl gyda diddordebau tebyg.
Dych chi ar eich ffordd i’r gwaith ar fore Llun... pa gân fydd yn y cefndir?
Busy Woman gan Sabrina Carpenter
Rhowch enghraifft o’ch hoff le i ymweld â fe a pham.
Es i Barcelona yr haf yma ac fe oedd yn hardd! Roedd y traeth yn drawiadol, a’r Sagrada Familia.