Enw a Rôl:
Esperanza, Swyddogion Materion Academaidd.
Cyflwyniad byr…
Heia! Esperanza yw fy enw i, ond mae pawb yn fy ngalw’n Espe. Astudiais i Lên Saesneg yn Aber ac dwi wrthi’n gorffen gradd Meistr mewn Astudiaethau Llenyddol. Dwi yma ar gyfer popeth academaidd ei natur, felly peidiwch ag ofni dod i ddweud helo!
Rhowch ffaith ddiddorol neu randwm amdanoch chi’ch hun i ni...
Ces i fy ngeni a’m magu mewn dinas o’r enw Temuco, yn Tsile.
Dewiswch dri gair sy’n eich disgrifio orau.
Siriol, Cyfeillgar, Optimistaidd
Eich pryd olaf ar y ddaear... Beth sydd ar y fwydlen? A pha 3 o enwogion fyddai’n cael eu gwahodd?
Er mai sushi yw fy hoff fwyd, mae rhaid i fi ddewis bwyd Tsile ar gyfer fy mhryd olaf ar y ddaear. Sopaipaillas i ddechrau, postel de choclo yn brif bryd a mote con huesillo i bwdin. Byswn yn gwahodd Chayanne, Lin-Manuel Miranda ac Elijah Wood.
Pa ddiddordeb sydd gennych chi?
Dwi wrth fy modd yn darllen, tynnu lluniau, gwylio ffilmau a cherdded o gwmpas Aber.
Pam wnaethoch chi ddewis sefyll dros y rôl hon?
Dwi am wneud academia yn hwyliog a hygyrch i bawb. Dwi’n caru Aber ac rwy am i bawb gael profiad cystal â fi.
At ba bethau ydych chi’n edrych ymlaen fwyaf eleni?
Dod i nabod myfyrwyr a chynnal digwyddiadau ac ymgyrchoedd. Dwi wir yn edrych ymlaen at eleni yn gyffredinol, mae’r holl bethau rydyn ni wedi’u trefnu wirioneddol yn fy nghyffroi.
Pa achosion sydd o bwys i chi?
Dwi’n credu’n gryf y dylai addysg fod yn hygyrch i bawb.
Pa le yw eich hoff le i ymlacio yn Aberystwyth?
Adfeilion y castell, mae’r olygfa yn hardd.
Pe gallech chi fod yn anifail p’un fysech chi a pham?
Capybara mae’n debyg, maent yn cyd-dynnu â bron pob anifail ac yn gwmni hawdd a chyfeillgar yn gyffredinol.
Oes gennych chi unrhyw draddodiadau neu ofergoelion rhyfedd?
Bydda’ i’n bwyta 12 grawnwinen bob nos Galan. Y gred yw ei fod yn dod â lwc dda ar gyfer pob 12 mis o’r flwyddyn.
Beth yw eich barn amhoblogaidd chi?
Os oes rhywbeth sy’n eich gwneud yn hapus, yna ni ddylai gael ei ystyried yn bleser euog. Gwyliwch y ffilm honna, darllenwch y llyfr hwnna, gwrandewch ar y gân honna, peidiwch â gadael i neb godi cywilydd arnoch am fwynhau rhywbeth.
A oes yna un peth y dylai pawb ei wneud/cael profiad ohono o leiaf unwaith mewn bywyd?
Gwylio drama yn fyw. Mae rhyw hud ynglŷn â gweld perfformiad byw. Pwyntiau ychwanegol os mai comedi Shakespeare yw hi.
Dych chi ar eich ffordd i’r gwaith ar fore Llun... pa gân fydd yn y cefndir?
Manic Monday gan the Bangles
Rhowch enghraifft o’ch hoff le i ymweld â fe a pham.
Verona, yr Eidal. Dwi wrth fy modd gyda Shakespeare a phrofiad arbennig oedd cael ymweld â’r holl lefydd eiconig, gan gynnwys cartref Juliet. Es i hefyd i Verona Arena, sy’n amffitheatr o oes y Rhufeiniaid, a gweld Carman gan George Bizet. Rhwng popeth, roedd yn brofiad anhygoel.