Enw a Rôl:
Alice, Llywydd Llesiant a Rhyddid.
Cyflwyniad byr…
Myfyrwraig ryngwladol o Ffrainc ydw’i. Dwi’n byw yn Aber ers pedair blynedd, fe wnes i fy ngradd is-raddedig a fy ngradd feistr mewn Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol cyn mynd yn Swyddog Sabothol.
Rhowch ffaith ddiddorol neu randwm amdanoch chi’ch hun i ni...
Mae fy ffrindiau yn deud wrthyf i tri afal o daldra oherwydd fy mod i’n 5’2 ac maen nhw’n gneud tipyn o sbort amdani.
Dewiswch dri gair sy’n eich disgrifio orau.
Brwdfrydig, Hoff o Fwyd, Ffrances
Eich pryd olaf ar y ddaear... Beth sydd ar y fwydlen? A pha 3 o enwogion fyddai’n cael eu gwahodd?
Byddwn i’n gwahodd Yoa (cantores o Ffrainc), Ali Smith, a Kristen Stewart.
Byddwn i’n cael ramen figanaidd.
Pa ddiddordebau sydd gennych chi?
Dwi’n chwarae badminton mewn cystadlaethau BUCS, dwi’n caru cerddoriaeth ac dwi’n chwarae’r ffliwt am bron i ugain mlynedd. Dwi hefyd yn darllen ac ysgrifennu llawer.
Mynd am dro neu fynydda yw fy hoff weithgaredd feddylgarwch.
Pam wnaethoch chi benderfynu sefyll am y rôl hon?
Y prif resymau yw achos fy mod i’n teimlo’n gryf tuag at ddadlau dros iechyd myfyrwyr ac oherwydd dwi eisiau rhoi yn ôl i’r gymuned a roddodd groeso i fi pan fudais yma ac a wnaeth fy mhrofiad yn y brifysgol mor fythgofiadwy.
At ba beth ydych chi’n edrych ymlaen fwyaf eleni?
Gweithio tuag at wella profiadau myfyrwyr yn y brifysgol a dadlau er eu budd. Dwi hefyd yn edrych ymlaen at arwain ymgyrchoedd rhyddid.
Pa achosion sydd o bwys i chi?
Mae iechyd meddwl a materion yn ymwneud â’r gymuned LDHTC+ o bwys mawr i fi.
Dwi’n teimlo’n gryf tuag at ffeministiaeth groesdoriadol. Ers symud i Gymru dwi wedi syrthio mewn cariad gyda’r wlad ac wedi gwirioni ar bopeth Cymraeg.
Pa le yw eich hoff le i ymlacio yn Aberystwyth?
Dwi wrth fy modd yn cael coelcerth a BBQ ar Draeth y De, dwi hefyd yn mwynhau peint da yn y Bottle & Barrel.
Pe gallech chi fod yn anifail p’un fysech chi a pham?
Diogyn fyddwn i
Oes gennych chi unrhyw draddodiadau neu ofergoelion rhyfedd?
Pan fyddaf yn yfed gyda ffrindiau, mae gen i y traddodiad Ffrengig yma sy’n mynnu eich bod yn edrych i fyw llygaid pobl, mae’n cael ei ystyried yn anlwcus os na.
Beth yw eich barn amhoblogaidd chi?
Dwi o’r farn na ddylai Deallusrwydd Artiffisial fodoli.
Oes un peth y dylai pawb ei wneud/rhoi cynnig arno o leiaf unwaith mewn bywyd?
Cadw dyddiadur, mae’n ffordd lesol iawn o dreulio eich teimladau a deall eich emosiynau.
Dyma chi ar eich ffordd i’r gwaith ar fore Llun... pa gân fydd yn y cefndir?
The Adults Are Talking gan The Strokes, mae’n debyg mai hon yw fy hoff gân erioed a does dim curo’r hwb mae’n ei roi.
Rhowch enghraifft o’ch hoff le i chi ymweld â fe a pham.
Es i Frasil a cherdded ym Mharc Cenedlaethol Lencois Maranhenses, sy’n frith o dwyni a llynnoedd tryloyw y gellir nofio ynddynt. Un o brofiadau gorau fy mywyd oedd y daith honno.
CANLYNIADAU/CLIRIO:
Pam dewis Aber?
Mae Aber yn lle mor arbennig lle gallwch wneud pethau na allech eu gwneud unrhyw le arall, ee mynd am ymdrochiad am 3AM yn y môr wedi noson allan gan fod y clwb ar y traeth.
YR WYTHNOS GROESO:
Sut mae gwneud ffrindiau yn ystod yr Wythnos Groeso?
Mynychwch ddigwyddiadau Cwrdd a Chyfarch yr Undeb, ewch i ddigwyddiadau cyntaf clybiau a chymdeithasau. Gall godi ofn i ddechrau, mae’n werth ei gwneud.
Beth fyddai eich cyngor gorau i unrhyw fyfyrwyr newydd sy’n dechrau yn Aberystwyth ym mis Medi?
Cyfnod o newid mawr yw dechrau yn y Brifysgol, er y gall fod yn llawer o hwyl, gall hefyd beri ofn. Peidiwch ag oedi cyn cysylltu â chynghorydd myfyrwyr yr Undeb, Molly Sutton trwy lenwi’r ffurflen gan ddilyn y ddolen hon:
Cysylltu â Chynghorydd
Beth yw eich hoff atgof o’r Wythnos Groeso?
Pan es i allan ar fy noson gyntaf yma i barti Torri’r Iâ y Glas a chwrdd â Laura. Pedair blynedd yn ddiweddarach, ac rydyn ni’n ffrindiau o hyd a bellach yn gweithio gyda’n gilydd fel Swyddogion Sabothol!
TAI:
Beth yw eich cyngor ar dai/byw gyda ffrindiau i Aber?
Byddwch barod i gyfaddawdu, gall rhannu tŷ gyda ffrindiau fod yn brofiad arbennig os ydych chi’n derbyn cwirciau eich gilydd.
ARHOLIADAU:
Beth yw eich cyngor ar ymdopi â straen yr arholiadau?
Mae mynd am dro bob tro yn helpu clirio fy meddwl. Ymrwymo amser penodedig ar gyfer ymarfer corff sydd bwysicaf i gadw’n gall yn helynt yr arholiadau.
ETHOLIADAU:
Beth yw eich cyngor ar sefyll yn etholiadau Undeb Aber?
Mae’r etholiadau yn brofiad a hanner; cofiwch gysgu digon yn ystod adeg yr ymgyrchu ac wythnos yr etholiadau. Mae’n werth trio cyflwyno unrhyw asesiadau’n gynnar yn ystod yr adeg honno fel na chewch eich llorio.
Mae’n rhaid i chi siarad gyda chymaint o bobl â phosib.
COSTAU BYW:
Oes gennych unrhyw gyngor ar arbed arian oedd o fudd i chi tra’n fyfyriwr?
Paratowch gymaint o brydau ag y gallwch ar yr un tro er mwyn osgoi gwario gormod o arian ar brynu tecawês.
Hoff bryd rhad i’w goginio?
Dahl ffacbys. Codwch dun tomatos a llaeth coconyt rhad, ac fe gewch chi 5 pryd o leiaf!
ABER:
Ble mae eich hoff le am fwyd a’ch hoff gaffi yn Aber?
Dwi wrth fy modd yn astudio ym Medina pryd bynnag bydd angen i fi newid o’r llyfrgell Fel arall, dwi’n dwli ar gacenni a choffi y Gornel.
Sut byddech chi’n treulio eich diwrnod delfrydol yn Aber?
Byddwn i’n mynd am frecwast yn y Gornel, mynd am dro o amgylch y dre a mynd i ychydig o siopau elusennol. Byddwn i wedyn yn prynu brechdan i fynd oddi wrth Ultracomida a’i bwyta ar y traeth.
Beth yw eich hoff beth i’w wneud yn Aber?
Yn yr haf, dwi wrth fy modd yn mynd nofio ac yna cael coelcerth a BBQ ar y traeth.