Datganiad gan Undeb Aber yn sgil y Dyfarniad ar Rywedd

welsh

Bydd Undeb Aberystwyth yn parhau i gynnal diffiniad cynhwysol o rywedd, gan gydnabod a pharchu myfyrwyr traws a hunan-adnabod ym mhob agwedd ar weithgarwch Undeb y Myfyrwyr (oni bai fod trydydd parti allanol yn ei gyfyngu ee BUCS neu gyrff llywodraethu eraill). 

Rydym yn ymwybodol o’r gofid a’r pryder y mae penderfyniad y Goruchaf lys am beri i’n myfyrwyr Traws, Rhyngrywiol, anneuaidd a thu hwnt. Mae gan bobl draws yr hawl i gael eu hamddiffyn rhag gwahaniaethu, a byddwn yn brwydro dros gynnal eu hawliau, ond rydym hefyd yn cydnabod bod y dyfarniad hwn yn peri dryswch ac ansicrwydd i’r rheini sydd wedi’u taro ganddo fwyaf.

Rydym yn credu bod y cyfarwyddyd a roddwyd yn annigonol, dryslyd, ac amhosib ei weithredu. Ymhob achos, byddwn yn ceisio gweithio o gwmpas y ddeddfwriaeth a’r cyfarwyddyd hyn mewn modd a fydd yn cynnal ein gwerthoedd ac yn amddiffyn hawliau a lles corffol a meddyliol ein myfyrwyr traws, rhyngrywiol ac anneuaidd. 

Nid ydym yn credu bod diogelu menywod biolegol a diogelu pobl draws, anneuaidd a rhyngrywiol yn mynd yn groes i’w gilydd a byddwn yn parhau i weithio mewn ffyrdd a fydd yn ystyried orau yr anghenion amrywiol a gwahanol ein holl fyfyrwyr amrywiol.

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576