Cyngor i fyfyrwyr rhyngwladol ar yr Wythnos Groeso oddi wrth eich swyddogion Swyddogion Sabothol rhyngwladol:
- Ewch chi ar y bws y mae’r brifysgol wedi’i drefnu i nol myfyrwyr rhyngwladol o Birmingham! Dyma ffordd wych o ddod i nabod pobl, a chithau i gyd ychydig bach yn nerfus am gyrraedd yno felly dyna brofiad ar y cyd. Dyw’r rhan fwyaf ohonoch chi erioed wedi troedio tir Aberystwyth o’r blaen felly mae hwyliau tebyg arnoch chi i gyd. Fel swyddogion rhyngwladol, fe aethom ni ar y bws wrth gyrraedd Aber pedair blynedd yn ôl a chalondid oedd gweld wynebau cyfarwydd ar y campws am gyfnod.
- Mae cymdeithasu mewn iaith nad yw’n famiaith i chi yn blino rhywun. Peidiwch â bod yn galed arnoch chi’ch hun am ofyn i bobl ailadrodd, dim ond rhan o’r taith cyn dod yn gwbl rugl yw hyn. Fe fyddwch chi’n iawn, ac nac ydy, dyw eich Saesneg (neu’ch Cymraeg) ddim yn wael!
- Peidiwch ag oedi cyn rhoi ar ddeall i’ch darlithwyr eich bod yn rhyngwladol, byddant yn gallu eich cefnogi ac esbonio’n well yr hyn a ddisgwylir gennych chi a beth yw trefn addysg uwch yng Nghymru.
- Bachwch ar y cyfle i gael eich trochi mewn ail ddiwylliant a rhannwch eich diwylliant eich hun ag eraill!
- Ewch i Sêl Fawr yr Undeb i godi pethau fel potiau, padelli, platiau… am ddim!
- Ewch i ddigwyddiad dod i nabod myfyrwyr rhyngwladol, yr un fydd sefyllfa pawb yno a byddant yn awyddus i wneud ffrindiau.
- Ymaelodwch â chlwb neu gymdeithas, waeth ai am dair blynedd byddwch chi yma neu am dymor yn unig, mae grwpiau myfyrwyr yn fodd gwych o wneud ffrindiau a pharhau â diddordeb neu ei gychwyn o’r newydd er eich bod oddi cartref.
- Ewch i daith y dref! Dyma ffordd wych i fynd siopa gyda’ch cyd-fyfyrwyr, a cheir bobl sy’n sicrhau nad ydych chi’n mynd ar goll tra bod y dref yn ddiarth i chi.