Sut mae gwneud ffrindiau yn ystod cyfnod y glas?
Esperanza: Ewch i gymaint â gweithgareddau ag y gallwch. Peidiwch â bod ofn mynd i ddigwyddiadau neu bartïon oherwydd nad ydych chi’n nabod neb, dyna sut y cwrddais i â rhai o’m ffrindiau gorau! Cofiwch fod y rhan helaethaf o bobl yr un mor bryderus â chi yn ystod yr Wythnos Groeso, daw mi ddaw.
Millie: Roedd mynd i ddigwyddiadau yr wythnos groeso gyda’r dydd a’r hwyr o gymorth mawr i fi wrth gwrdd â llawer o bobl ond fe wnes i lawer o ffrindiau o bob math o gwrs a blynyddoedd wrth ymuno â chlybiau a chymdeithasau.
Ffion: Ewch i Ffair y Glas, fe gewch yno wybodaeth am y gwahanol grwpiau myfyrwyr sy’n trefnu sesiynau ‘rhowch gynnig arni’ lle gallwch gwrdd â phobl â diddordebau tebyg i chi. Gall mynychu digwyddiadau UM hefyd fod yn ffordd o gwrdd â phobl debyg i chi, ee ein digwyddiadau Cwrdd a Chyfarch.
Tanaka: Rhowch gynnig ar ddigwyddiadau Cwrdd a Chyfarch, neu fân siarad gyda’r bobl yn eich llety er ei fod yn gallu codi ofn, yn enwedig os ydych chi’n fewnblyg neu’n newid rhwng bod yn fewnblyg ac allblyg fel fi, ewch amdani! Does wybod gyda phwy y gwnewch chi gysylltu.
Nanw: Mynd i bob digwyddiad posib hyd yn oed os wyt ti’n hungover.
Beth fyddai eich cyngor gorau i unrhyw fyfyrwyr newydd sy’n dechrau yn Aberystwyth ym mis Medi?
Esperanza: Peidiwch â bod ofn trio pethau newydd. Rhowch gynnig ar wahanol gymdeithasau a chlybiau, waeth a ydych chi erioed wedi ystyried ymaelodi. Efallai y gwnewch chi gael blas ar ddiddordeb newydd nad o’ch chi erioed wedi’i ystyried. Mae hefyd yn ffordd dda iawn o gwrdd â phobl newydd.
Millie: Rhowch gynnig ar chwaraeon neu hobiau newydd, ewch i ddarganfod Aberystwyth yn ystod y dydd peidiwch ag aros nes i chi fynd allan i weld y dref. Gwyliwch rhag y gwylanod!!
Ffion: Ewch amdani. Barn boblogaidd yw y gall eich ffrindiau goroni eich amser yn y brifysgol a gall mynd allan a gwneud ffrindiau newydd wella’r profiad hwnnw yn sylweddol.
Tanaka: Chi ddylai biau eich hanes eich hunan, waeth a ydy’r un â phawb arall. Peidiwch ag ofni dweud cytuno gwneud rhai pethau ond hefyd gwrthod rhywbeth sy’n mynd yn groes i’ch moesau personol ayyb. Mi wnewch chi ffeindio eich pobl yn y pendraw! Manteisiwch ar eich systemau cefnogi unwaith i chi gael hyd i bobl y gallwch ymddiried ynddynt.
Nanw: Gwneud y mwyaf o’r flwyddyn gyntaf a pheidio teimlo gormod o bwysau i ffeindio dy le yn syth bin.
Beth yw eich hoff atgof o Gyfnod y Glas?
Esperanza: Mynd i Fryn Craig Glais gyda’m ffrindiau newydd. Roedd yn ddiwrnod heulog braf ac roedd y golygfeydd yn ysblennydd. Dyna pryd y gwyddwn i mai Aber yw’r lle i fi.
Millie: Cwrdd â phobl newydd a chael darganod y dref wrth fy mhwysau.
Ffion: Digwyddiad ‘Torri’r Iâ’ yw fy hoff atgof o’r wythnos groeso. Roedd yn rhywle lle arhosais yn sobr ond fe ges i amser gwych yr un fath gyda’m holl ffrindiau ac roedd yn ffordd wych o ddod i nabod myfyrwyr newydd eraill.
Tanaka: Swper yn fy nghartref, digwyddiadau yng Nghwrt Mawr gyda ffrindiau a chyd-letywyr.
Nanw: Canu carioci yn Llew.
Pam dewis Aberystwyth?
Esperanza: Mae Aber yn gymuned mor gefnogol a chroesawgar, lle byddwch chi’n cwrdd â ffrindiau oes. Mae’r môr yn fantais arall.
Millie: Rwy’n caru’r traeth ac mae byw mor agos ato yn freuddwyd i fi.
Ffion: Mae’r gymuned sydd gan Aberystwyth yn wahanol i eraill rwy wedi’u gweld. Mae yna hefyd gymaint o bethau i’w gwneud ac mae’n dref hyfryd.
Tanaka: Roedd yn ateb y gofyn i’r dim yn nhermau academaidd ac ariannol a’r wobr llety rhyngwladol wnaeth ddwyn perswâd arnaf!
Nanw: Mae Adran y Gymraeg yn arbennig ac mae yma fywyd cymdeithasol sy’n galluogi imi fyw yn llwyr drwy’r Gymraeg.