Cwestiwn ac Ateb ar gyfer y Pwyllgor: Finley Reynolds

ClubscommitteeElectionsSocietiesSportsSports ClubsTeamAberwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Pa bwyllgor wyt ti'n rhan ohono a pha rolau sydd wedi bod gen ti?

Rwy'n perthyn i 2 gymdeithas: Gwirfoddolwyr Cadwraeth Aberystwyth (ACV) a’r Gymdeithas Ffantasi a Ffuglen Wyddonol (SF&FS). Rwyf wedi bod yn Swyddog Cymdeithasol a Chyhoeddusrwydd ACV ac yn Ysgrifennydd SF&FS. Ar hyn o bryd rwyf yn Ysgrifennydd ACV ac yn Llywydd SF&FS. 

 

Beth wnaeth i ti fod eisiau sefyll am rôl ar y pwyllgor?

Sefais ar gyfer rôl Ysgrifennydd ACV, gan y bydd hyn o fudd i'm gyrfa yn y dyfodol - mae'r sgiliau rydw i wedi'u hennill a'r cysylltiadau rydw i wedi'u ffurfio’n ategu fy ngradd a fy nyheadau ar gyfer gyrfa yn y dyfodol yn gweithio yn y sector amgylcheddol.  Dewisais ddod yn rhan o bwyllgor SF&FS, gan fod hyn yn apelio at fy ochr nerdy, a hoffwn gadw'r gymdeithas fach hon i fynd ac ychwanegu fy mewnbwn o ran fy newis o'r genre ffantasi. 

 

Beth oedd y rhan fwyaf pleserus o fod ar y pwyllgor?

Cyfarfod â phobl o’r un anian - boed hynny allan yn y maes yn rhyfeddu ar blanhigyn prin fel rhan o weithgareddau ACV, neu'n gwylio ffilm a thynnu sylw at yr holl bwyntiau nerdy yn SF&FS. 

 

Wyt ti’n gallu dweud wrthym am gyfnod lle’r oedd dy rôl yn heriol?

Mae ACV fel arfer yn cynnig sawl her, o drefnu tasgau gyda grwpiau allanol, i weithio allan pa fws fydd yn mynd â chi i warchodfa natur yng nghanol nunlle!  

 

Wyt ti’n teimlo bod perthyn i bwyllgor wedi bod yn fuddiol o ran dy baratoi di ar gyfer y dyfodol?

Fel y soniwyd yn flaenorol, bydd fy amser gydag ACV yn fy mharatoi’n i raddau helaeth ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol, drwy’r sgiliau a’r cysylltiadau rwyf wedi’u meithrin. Fodd bynnag, mae’r sgiliau rwyf wedi’u dysgu wrth fod yn aelod pwyllgor yn mynd y tu hwnt i hynny, gan gynnwys amrywiaeth o sgiliau meddal trosglwyddadwy, fel arweinyddiaeth, gwaith tîm, cyfathrebu a rheoli amser, o ganlyniad i berthyn i’r naill gymdeithas a’r llall.

 

Pa gyngor fyddet t'n ei roi i aelod newydd o'r pwyllgor?

Peidiwch â bod ofn bod yn agored a rhannu unrhyw broblemau y gallech eu hwynebu unwaith y byddwch chi’n rhan o bwyllgor - gyda’ch cyd-aelodau o’r pwyllgor neu aelodau ehangach. Mae cymdeithasau yn deulu ynddynt eu hunain - bydd gan rywun y set sgiliau neu'r wybodaeth a'r ateb i'ch problem.

 

Sefyll Pleidleisio
Yn agor 10am dydd Llun 15fed Mawrth tan 10am dydd Llun 19eg Ebrill Bydd y pleidleisio'n dechrau am 10am ddydd Llun 26ain Ebrill tan 3pm ddydd Gwener 30ain Ebrill

 

 

Comments

 

Pigo Pwmpenni 2025

Gwen 17 Hyd 2025

Pumpkin Picking 2025

Gwen 17 Hyd 2025

Aber Challenge 2025

Gwen 17 Hyd 2025

Sialens Aber 2025

Gwen 17 Hyd 2025
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576