Ar fis Mawrth 24 a 28, cynhaliodd yr Undeb ei ddigwyddiad hyfforddi gwallt ar gyfer myfyrwyr â gwallt gweadog cyntaf erioed. Mae myfyrwyr DALlE wedi adnabod gwallt yn rhan o’u pryderon ynghylch costau byw gan fod rhaid i rai deithio pellterau hir i’w gwallt gael ei drin, neu gael gafael ar gynnyrch i drin gwead eu gwallt. Ni ddylai gwallt fod yn destun pryder i fyfyrwyr sy’n trio ffocysu ar astudio, gwaith, a gofalu amdanynt eu hunain. Fodd bynnag, oherwydd adnoddau cyfyngedig yn y dref, mae llawer wedi gorfod dibynnu ar ffrindiau neu fentrau hunanddysgedig i gynnal iechyd eu gwallt. Diolch yn fawr i bawb a wnaeth y digwyddiad hwn yn llwyddiant, o’r rhai medrus proffesiynol i’r myfyriwr chwilfrydig. Caiff eich cyfranogiad ei drysori am byth.
- Llywydd Llesiant, Tanaka.
Er mor naturiol yw e, does dim sy’n cael mwy o argraff ar ein hunanddelwedd na’n gwallt. Serch fod pryd a gwedd yr wyneb yn hollbwysig i argraff gyntaf person, mae steil gwallt yn gysylltiedig yn benodol â’n hunaniaethau diwylliannol. Mae plethu er enghraifft, yn steil sy’n amrywio o’r Celtiaid i’r Mesoamericaniaid.
Yn anffodus, oherwydd safonau harddwch amwys, mae cynhyrchu a marchnata nwyddau gwallt naill ai yn rhy eang, neu’n rhy gul. Ddes i ddim i sylweddoli pa mor bwysig yw gofal gwallt tan yn ddiweddarach yn oedolyn, er gwaetha addewidion un o’r siampŵs hudolus tri mewn un hynny, a bod rhaid cael trefn arbennig ar gyfer ein gwallt.
Rhywbeth ddysgais i yw bod gan yr amgylchedd ran fawr hefyd, nid yr hyn rydych chi’n wneud i’ch gwallt yn unig. Dŵr oer neu dwym, tymereddau poethach neu oerach, a’r hyn rydych chi’n fwyta. Byddwch yn edrych yr un mor iach ag ydych chi’n teimlo â’r hyn rydych chi’n wneud, cytbwysedd sydd bwysicaf. Ar ben hynny, fel trefnu patrwm cwsg priodol yw dysgu am eich math o wallt, a chael y brwsh, y nwyddau a’r siampŵ iawn ar ei gyfer. Mae cysgu’n annigonol am wneud i chi deimlo’n flinedig a phell eich meddwl; mae cysgu’n ormod am wneud i chi deimlo’n ddi-fynd a ffwndrus. Mae’r ddau am eich rhoi mewn hwyliau drwg. Yr un yw gofalu am wallt. Bydd ei olchi’n ormod yn peri cosi poenus i groen eich pen, a’i dorri ond bydd aros yn rhy hir yn ei wneud yn seimllyd a llipa. Dydych chi ddim i fod i frwsio i gael gwared ar rai steiliau gwallt gweadog, neu ddim yn y ffordd draddodiadol o leiaf, tra bod peidio â brwsio eich gwallt heb wybod y dylid gwneud am achosi cylymau a cholli gwallt. Mae dilyn yr hyn sy’n cael ei farchnata ynghyd â diffyg cefnogaeth am wneud drwg mawr i urddas ac iechyd person.
Yr arddangosiad steilio gwallt am ddim a wnaed gan Oluwabukunolami a Grace oedd yr union beth o’n i’n chwilio amdano. Codais i lawer o gyngor da a ches i hyd yn oed ymarfer steilio gwallt rhywun arall. Dyma’r fath o ddigwyddiadau y mae’n rhaid i gymunedau eu trefnu yn rheolaidd. Mae hyn yr un mor bwysig ag unrhyw fenter gofal iechyd cyhoeddus arall. Mae’n meithrin hyder ynom ein hunain, ac yn ein gilydd. Rydyn ni’n dechrau gofalu amdanom ein hunain pan welwn ein cymuned yn rhoi yn ôl i ni ac yn gofalu amdanom. Mae’n cwblhau’r cylch.
- Dr N.B.
Ar fis Mawrth 24ain, caed digwyddiad hyfforddiant gwallt gweadog, croesawodd y digwyddiad hwn bobl ethnig oedd yn dymuno deall eu gwallt yn well a dysgu sut mae gofalu’n iawn amdano.
Yn nechrau’r digwyddiad daeth aelod o staff i drafod pwysigrwydd peidio â diystyru’r sgiliau a ddysgir yn y digwyddiad. Gan fod llawer o fyfyrwyr ac oedolion yn diystyru’r sgiliau maen nhw’n eu hennill fel y rhain. Trafodon nhw hefyd fandylledd gwahanol pob math o wallt a phwysigrwydd deall pa fath o wallt sydd gennych er mwyn gofalu amdano.
Er i’r digwyddiad ddechrau’n fach, mae llawer eraill wedi ymuno dros dreigl amser yn y gobaith o ddysgu gofal gwallt iawn; yn ogystal â hynny, caed yn y digwyddiad arddangosiad ar sut i blethu a throi i’r rheini sydd o bosib yn ei chael hi’n anodd neu nad ydyn nhw’n gwybod sut mae gwneud y technegau hyn, gan fwrw golau ar rai steiliau gwallt sy’n cadw eu gwallt yn iach. Cawson nhw fodel gwirfoddol o’r myfyrwyr wrth iddynt ddangos sut i wneud rhai technegau gyda gwallt rhywun, gan eu hannog i helpu deall fesul cam.
Roedd aelodau’r tîm oedd yn arwain y digwyddiad yn ystyriol iawn, gan iddynt wahodd y gynulleidfa yn ystod y digwyddiad i gael golwg a rhoi cynnig arni tra’n rhoi cyngor ar sut i wella. Ar ben hynny, gan gydnabod fod y digwyddiad yn hir dyma nhw’n darparu diodydd a bwyd ar gyfer y rheiny fynychodd.
Ar ddiwedd y digwyddiad, rhoddon nhw i bob un a fynychodd, ychydig o eli gwallt, cyflyrydd, cribau a llawer o nwyddau eraill sy’n helpu gyda’u taith drin gwallt, gan sicrhau eu bod mynd â’r pethau iawn i’w helpu. Rhwng popeth, dysgwyd llawer yn y digwyddiad hyfforddiant gwallt ar sut i ofalu am wallt a rheoli gwahanol wallt yn iawn ac roedd yn ddigwyddiad hyfryd iawn gyda chroeso cynnes.
- Annaliza Bekoe